Heddiw (Mawrth 9), cadarnhaodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, y bydd prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau yn parhau i fod ar gael i blant o deuluoedd incwm is dros y Pasg a'r Sulgwyn.
Mae’r cyllid yn seiliedig ar gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. A'r argyfwng costau byw yn parhau i gael effaith ar deuluoedd ledled Cymru, mae £9 miliwn wedi'i ddarparu i gynnig pryd ysgol am ddim i ddisgyblion cymwys hyd at ddiwedd gwyliau hanner tymor mis Mai. Bydd hyn hefyd yn cynnwys pob un o wyliau banc y cyfnod hwn. Daw'r cyhoeddiad ar Ddiwrnod Rhyngwladol Prydau Ysgol ar 9 Mawrth, sy'n cael ei ddathlu'n flynyddol er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd bwyta'n iach a lles plant. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Plant yng Nghymru i gefnogi Diwrnod Rhyngwladol Prydau Ysgol drwy annog ysgolion ledled Cymru i ddathlu prydau ysgol a hybu maeth da. Yn 2020, Cymru oedd cenedl gyntaf y DU i warantu prydau ysgol am ddim i deuluoedd cymwys yn ystod gwyliau'r ysgol. Awdurdodau lleol unigol sy'n penderfynu sut i weinyddu'r ddarpariaeth, naill ai drwy greu cinio neu drwy ddarparu talebau neu daliadau uniongyrchol i deuluoedd. Mae Cytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn ymrwymo i ddarparu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yn ystod y tymor erbyn 2024. Mae dros dair miliwn o brydau wedi cael eu gweini ers dechrau cyflwyno’r cynllun ym mis Medi 2022. Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:
Dywedodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian:
|