Mae dau ffrind wnaeth osgoi damwain car ddifrifol trwy feddwl yn gyflym a perchennog gwasanaeth gwallt gosod i gleifion sy'n colli eu gwallt, ymhlith y rhai sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Dewi Sant eleni.
Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru sy’n cydnabod pobl sydd wedi gwneud pethau eithriadol.
Mae’r gwobrau eleni'n dathlu pobl sydd wedi’u henwebu gan y cyhoedd mewn naw categori gwahanol, gan gynnwys dewrder, busnes ac ysbryd cymunedol. Bydd gwobr arbennig hefyd yn cael ei rhoi gan y Prif Weinidog Mark Drakeford.
Wrth gyhoeddi'r rhestr fer, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:
"Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i enwebu rhywun am wobr a llongyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer 10fed digwyddiad blynyddol Gwobrau Dewi Sant.
"Rwy'n falch o ddathlu 10fed blwyddyn y gwobrau a’r unigolion anhygoel yn ein rownd derfynol eleni, rhai sydd wedi dangos dewrder a phenderfyniad eithriadol. Rydyn ni'n ffodus iawn eu bod nhw’n byw yma yng Nghymru."
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd ar 20 Ebrill 2023.
Y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yw:
Dewrder
- Dylan Pritchard Evans a Hari Thomas
- Gary Griffiths a Jon Stone
Busnes
- Câr y Môr
- Morgan’s Wigs
- Rod Parker
Ysbryd y Gymuned
- Caroline Bridge
- Mollie Roach
- Nawdd De Cymru i Wcráin
Gweithiwr Hanfodol
- Nia Bannister
- Tîm Lleihau Niwed yn yr Huggard
- Muslim Doctors Cymru
- Dr Mark Taubert
Diwylliant
- Dafydd Iwan
- Oriel Elysium
- Jannat Ahmad
- Prosiect Unify
Pencampwr yr Amgylchedd
- Andy Rowland
- Prosiect Maelgwn
- Ynni Adnewyddol Cwm Arian/ Cwm Arian Renewable Energy
Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- CanSense
- Dr Charles Willie
- Kamal Ali
Chwaraeon
- Liam Davies
- Olivia Breen
- Tîm pêl-droed Cymru
Person Ifanc
- Kai Hamilton-Frisby
- Skye Neville
- Zinzi Sibanda