Yr amserlen ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig: 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024
Y dyddiadau y bydd angen i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gyflwyno eu data.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Diben
Mae'r ddogfen hon yn nodi'r dyddiadau ar gyfer cyflwyno gwybodaeth sy'n ofynnol yn ystod blwyddyn ariannol 2023/24 ac mae yn rhoi arweiniad ar y cyflwyniadau hynny yn ôl y gofyn. Bydd templedi ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru Ffurflenni rheoleiddio ar gyfer cymdeithasau tai arn gyfer ffurflenni sy'n gofyn am gyflwyniad mewn fformat penodol (y rhai sydd wedi'u marcio **).
Dyddiad dod i rym: 31 Mawrth 2023
Dogfennau cysylltiedig: Y Fframwaith Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithasau Tai sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru (2022)
Dosberthir i: LCC Cymru
Gwybodaeth ofynnol
Er mwyn cyflawni ein rôl reoleiddio, mae arnom angen yr wybodaeth sydd wedi’i nodi, gyda’r dyddiad cyflwyno cyfatebol yn Atodiad A:
Sylwer mai'r dyddiadau a ddarperir yw'r dyddiadau olaf ar gyfer cyflwyno. Rydym yn croesawu gwybodaeth yn gynharach, unwaith y bydd y dogfennau wedi cael y gymeradwyaeth briodol.
Bydd cyflwyno gwybodaeth ofynnol yn hwyr yn aml yn ystyriaeth wrth fynd ati i lunio Dyfarniadau Rheoleiddio.
Os bydd unrhyw un o'r dyddiadau cyflwyno yn peri anhawster ichi neu os oes gennych gwestiwn ynglŷn â'r gofynion o ran cyflwyno, cysylltwch â'r Tîm Rheoleiddio Tai i drafod.
Cyfrifon Statudol
Dylid anfon copïau wedi eu llofnodi a’u cymeradwyo gan y Bwrdd a’r Archwilwyr Allanol.
Dylid cyhoeddi Cyfrifon Statudol ar wefan y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig erbyn y dyddiad cyflwyno.
Cyfrifon Rheoli
Fel y'u cymeradwyir gan y Bwrdd â'r gofynion sylfaenol canlynol:
- Cyfrifon incwm a gwariant manwl, ynghyd â mantolen
- Incwm a gwariant fesul ffrwd fusnes (lle bo’n berthnasol)
- Naratif yn esbonio unrhyw amrywiant mawr (gan gynnwys yr achosion sy’n ymwneud ag incwm a gwariant cyfalaf)
- Monitro cyfamodau benthyciadau, gan gynnwys rhagolygon o’r hyn a ddisgwylir ar gyfer diwedd y flwyddyn
- Rhagolwg llif arian, gan gynnwys manylion yr arian parod presennol a’r cyllid sydd ar gael ar gyfer o leiaf y 18 mis nesaf.
Gellir darparu rhai o’r gofynion hyn mewn Adroddiad Trysorlys – gweler isod.
Os nad yw cylch cyfarfodydd y Bwrdd yn ei gwneud yn bosibl cymeradwyo’r cyfrifon mewn pryd ar gyfer y terfyn amser 42 dydd, cyflwynwch set ddrafft o’r cyfrifon erbyn y dyddiad a bennwyd ac anfon cadarnhad eu bod wedi cael eu cymeradwyo yn hwyrach.
Adroddiad Trysorlys
Mae nifer cynyddol o LCC yn llunio adroddiad ar eu swyddogaeth trysorlys, ar wahân i’w Cyfrifon Rheoli. Pan fo LCC yn llunio un o’r rhain, dylid darparu copi ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan y Bwrdd neu’r Pwyllgor perthnasol.
Rhagolygon Ariannol 30 Mlynedd
Bydd y gofynion cyflwyno manwl ar gyfer y rhagolygon ariannol 30 mlynedd yn cael eu darparu ar wahân.
Y dyddiad cau ar 31 Awst yw'r dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno. Dylid cyflwyno’r Rhagolwg ar ôl i'r Bwrdd ei gymeradwyo.
Cynllun Busnes Strategol
Mae rhai LCC yn llunio Cynllun Busnes Strategol, dros bum mlynedd fel arfer, yn ogystal â Rhagolwg Ariannol 30 Mlynedd.
Pan fo hyn yn digwydd, dylid cyflwyno hwnnw hefyd, wedi iddo gael ei gymeradwyo gan y Bwrdd.
Canlyniadau’r Arolwg Boddhad Tenantiaid
Bydd canllawiau ar wahân yn cael eu cyhoeddi. Cysylltwch â'r Tîm Rheoleiddio Tai os nad ydych yn siŵr o'r gofynion hyn.
Hysbysiadau Gwaredu
Mae Hysbysiadau Gwaredu heb Flaenoriaeth yn ofynnol bob chwarter, yn ogystal â hysbysiadau â blaenoriaeth, sy’n ofynnol o fewn 10 diwrnod i gwblhau gwerthiant.
Mae’r ffurflenni hysbysu ar gael yma: ffurflenni hysbysu am waredu ynghyd â chanllawiau cyfarwyddyd ynghylch hysbysu am waredu.
Arolwg Rheoleiddio Chwarterol
Mae arolwg newydd yn cael ei gyhoeddi'n uniongyrchol i LCCau bob chwarter. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn ofalus yn yr e-bost a'r arolwg ei hun.
Dull Cyflwyno
Dylid cyflwyno’r holl wybodaeth y gofynnir amdani yn electronig i housingregulation@llyw.cymru
Sylwer na chaiff copïau caled eu derbyn.
Manylion cyswllt
Gellir cysylltu â’r Tîm Rheoleiddio Tai drwy
Rhif ffôn: 03000 625 256 neu 03000 253669
E-bost: housingregulation@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Atodiad A: Amserlen ar gyfer 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024
Cyflwyno gwybodaeth |
Manylion |
Dyddiad cyflwyno |
Fformat y cyflwyniad |
|
---|---|---|---|---|
|
Ar gyfer LCC sy'n gweithredu mewn strwythur Grŵp – mae datganiadau ariannol cyfunol a datganiadau ariannol ar gyfer is-gwmnïau unigol yn ofynnol. |
6 mis ar ôl diwedd y flwyddyn |
|
|
|
Fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio neu’r Bwrdd |
6 mis ar ôl diwedd y flwyddyn |
|
|
|
Cysoni'r ffigurau yn y datganiadau ariannol â'r rhai a gyflwynwyd i'r Bwrdd yn y cyfrifon rheoli. |
6 mis ar ôl diwedd y flwyddyn |
|
|
|
Fel y’u cymeradwywyd gan y Bwrdd |
42 diwrnod ar ôl diwedd y chwarter |
|
|
|
Fel y’i cymeradwywyd gan y Bwrdd / Pwyllgor |
42 diwrnod ar ôl diwedd y chwarter |
|
|
|
Lle daw’r flwyddyn i ben ym mis Rhagfyr, mae datganiad o’r sefyllfa ar 31 Rhagfyr 2022 yn ofynnol hefyd. Defnyddiwch un 2022 |
31 Mai 2023 |
Defnyddiwch demplad Excel 2023 |
|
|
Yn unol â’r canllawiau amgaeëdig |
31 Awst 2023 |
Canllawiau/templad ar wahan i ddilyn |
|
|
Fel y’i cymeradwywyd gan y Bwrdd |
Pan fo ar gael |
|
|
|
Fel y’i cyflwynwyd i’r Bwrdd a / neu’r Pwyllgor Archwilio |
31 Gorffennaf 2023 neu 30 Ebrill 2023 (lle daw’r flwyddyn i ben ym mis Rhagfyr) |
|
|
|
Yn unol â Chylchlythyr Cymdeithasau Tai 005/10. Mae datganiad yn ofynnol hyd yn oed os na wnaed unrhyw esemptiadau yn ystod y cyfnod |
31 Mai 2023 neu 28 Chwefror 2023 (lle daw’r flwyddyn i ben ym mis Rhagfyr) |
|
|
|
Gan ddefnyddio’r templed a ddarperir |
28 Chwefror 2024 |
Canllawiau/templad ar wahan i ddilyn |
|
|
Gan ddefnyddio’r templed a ddarperir, asesu cyfansoddiad y Bwrdd ar 30 Medi 2022 |
31 Hydref 2023 |
Canllawiau/templad ar wahan i ddilyn |
|
|
Gweler y ddolen uchod
|
Heb Flaenoriaeth - 21 diwrnod ar ôl diwedd y chwarter Blaenoriaeth – o fewn 10 diwrnod i gwblhau gwerthiant |
Defnyddio y ffurflen Hysbysiadau Gwaredu Excel safonol |
|
|
Gweler yn cwmpasu e-bost sy'n cyd-fynd â phob arolwg |
Gweler yn cwmpasu e-bost sy'n cyd-fynd â phob arolwg |
Gan ddefnyddio'r templed a gyflenwyd cyn cyflwyno pob chwarter |
|