Mae'r adroddiad yn rhoi dadansoddiad o'r cronfeydd ariannol wrth gefn a ddelir gan ysgolion ar 31 Mawrth 2023.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cronfeydd wrth gefn ysgolion
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Cyfanswm lefel y cronfeydd wrth gefn yn ysgolion Cymru oedd £208 miliwn ar 31 Mawrth 2023, sy'n gyfwerth â £456 y disgybl. Gostyngodd lefel gyffredinol y cronfeydd wrth gefn £93 miliwn o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd cronfeydd wrth gefn mewn ysgolion cynradd yn cyfrif am £117 miliwn.
- Yn ystod 2020-21 a 2021-22, cynyddodd cronfeydd wrth gefn ysgolion yn sylweddol oherwydd effaith pandemig COVID-19 a chyllid craidd ychwanegol a gyhoeddwyd yn hwyr yn y flwyddyn ariannol. Yn ystod 22-23, gostyngodd cronfeydd wrth gefn ysgolion yn sylweddol yn rhannol oherwydd costau ychwanegol yn gysylltiedig â chwyddiant uchel, cefnogi dysgwyr trwy effeithiau parhaus y pandemig a chostau anghenion dysgu ychwanegol cynyddol.
- Gostyngodd cronfeydd wrth gefn ysgolion cynradd £58 miliwn yn y flwyddyn ddiweddaraf a gostyngodd cronfeydd wrth gefn ysgolion uwchradd £31 miliwn.
- Roedd gan Gwynedd y lefel uchaf o gronfeydd wrth gefn fesul disgybl, sef £725 , a Bro Morgannwg oedd yr isaf, gyda £298 y disgybl.
- Roedd gan 93 o ysgolion cynradd, 19 o ysgolion uwchradd, 2 o ysgolion arbennig, 0 ysgol feithrin a 3 ysgol ganol yng Nghymru gronfeydd wrth gefn negyddol a oedd yn gyfwerth â £15 miliwn. Roedd gan y 1,359 o ysgolion eraill gronfeydd wrth gefn positif; roedd gan 616 ohonynt gronfeydd wrth gefn gwerth mwy na 10% o gyfanswm y gwariant a glustnodwyd ar eu cyfer.
Adroddiadau
Cronfeydd wrth gefn ysgolion: ar 31 Mawrth 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 450 KB
PDF
Saesneg yn unig
450 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.