Yn cynnwys data am awdurdodau’r heddlu, tân a pharciau cenedlaethol ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Refeniw a gwariant cyfalaf alldro awdurdodau lleol
Gwybodaeth am y gyfres:
Refeniw
- Yn 2022-23, bu cynnydd o 5.3% i £10.0 biliwn yng nghyfanswm gwariant refeniw gros awdurdodau lleol Cymru. Roedd gwariant gros y pen yn £3,219 neu £223 yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.
- Cyn effaith y dirwasgiad a'r mesurau cyni a ddaeth yn ei sgil, adroddwyd yn rheolaidd am gynnydd blynyddol o 5% neu 6% ond ers 2010-11, dim ond yn ystod pedair blynedd yn unig y gwelwyd twf sy'n uwch na 2%, gyda thair ohonynt wedi bod yn y tair blynedd diwethaf.
- Dros amser, mae gwasanaethau statudol fel addysg a gwasanaethau cymdeithasol wedi cael eu diogelu (ac ym maes gwasanaethau cymdeithasol y gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn gwariant) ond, mewn gwasanaethau eraill fel llyfrgelloedd, ffyrdd a thrafnidiaeth a chynllunio, gwelwyd gostyngiadau cyffredinol ers 2010-11. Addysg a gwasanaethau cymdeithasol sydd i gyfrif yn awr am 68% o wariant cyffredinol awdurdodau unedol o'i gymharu â 59% yn 2010-11 a 60% ym 1999-2000.
Cyfalaf
- Bu cynnydd o 6.5% mewn gwariant cyfalaf yn 2022-23 i £1,571 miliwn neu £506 y pen o'r boblogaeth. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o £96 miliwn ar y flwyddyn flaenorol.
- Yn gyffredinol, mae gwariant cyfalaf yn fwy anwadal a gall gael ei effeithio'n sylweddol gan fuddsoddiadau mawr neu addasiadau. Cynyddodd gwariant yn 2022-23 yn rhannol oherwydd cynnydd mewn addysg a thrafnidiaeth.Cafodd y rhan fwyaf o'r gwariant cyfalaf hwn ei wario gan awdurdodau unedol. Adroddodd awdurdodau’r heddlu, awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau parciau cenedlaethol wariant o £55 miliwn, £20 miliwn a £3 filiwn yn eu trefn.
Adroddiadau
Refeniw a gwariant cyfalaf alldro awdurdodau lleol: Ebrill 2022 i Fawrth 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 431 KB
PDF
Saesneg yn unig
431 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.