Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt wedi ymweld â’r Ganolfan Cymorth Cyflogaeth yn Llangefni, sydd wedi ei sefydlu i helpu a chynghori pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad am 2 Sisters.
Sefydlwyd y Ganolfan Gymorth, sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Fusnes Bryn Cefni yn y dref, ar frys yn dilyn y cyhoeddiad cychwynnol, gyda chymorth nifer o sefydliadau fel Cymru’n Gweithio, Cyngor ar Bopeth a Canolfan Byd Gwaith.
Cyfarfu’r Gweinidog â rhai o’r sefydliadau, aelodau o’r gweithlu y mae’r cyhoeddiad yn effeithio arnynt ac Undeb Unite yn y ganolfan i glywed rhagor am y gefnogaeth a’r cyngor sy’n cael ei gynnig.
Yn dilyn y cyhoeddiad am 2 Sisters, aeth Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ati ar unwaith i sefydlu tasglu er mwyn cynnig cefnogaeth lawn i’r gweithwyr sydd wedi’u heffeithio a’r gymuned ehangach.
Dywedodd y Gweinidog:
Mae’r newyddion am 2 Sisters yn hynod siomedig a thrist, ac mae’n amlwg yn gryn ergyd i Langefni a’r gymuned ehangach. Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pawb sy’n teimlo effaith hyn.
Hoffwn ddiolch i’r holl sefydliadau sy’n ymwneud â’r Ganolfan Cymorth Cyflogaeth am y gwaith pwysig sy’n cael ei wneud yn cynnig help a chyngor ar adeg anodd ac ansicr.
Mae’r Tasglu yn parhau â’i waith gyda’r holl bartïon sy’n cydweithio i roi dyfodol cynaliadwy i’r economi leol.
Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams, sy’n gyfrifol am bortffolio Cymraeg ac Addysg Cyngor Môn, ac a fu’n cyfarfod â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:
Roeddwn yn falch iawn bod y Gweinidog wedi ymweld â ni, ac am y cyfle i drafod y mater pwysig hwn yn bersonol. Mae effeithiau tebygol y cyhoeddiad am 2 Sisters ar weithwyr a chymunedau’r ynys yn peri pryder mawr i ni.”
Rydym wedi ymrwymo i’r Tasglu, ac yn canolbwyntio ein hymdrechion i sicrhau bod y gweithwyr yn cael y gefnogaeth a’r cyngor gorau posibl yn ystod y cyfnod ansicr hwn.