Fframwaith dadansoddi’r opsiynau cyfansoddiadol
Mae’r papur hwn yn amlinellu fframwaith ar gyfer dadansoddi a gwerthuso’r tri opsiwn cyfansoddiadol a nodwyd yn adroddiad interim y Comisiwn.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Wrth wraidd y fframwaith y mae cyfres o faterion allweddol y bydd unrhyw fodel cyfansoddiadol yn effeithio arnynt. Bwriad y Comisiwn yw:
- llunio dadansoddiad sylfaenol ar sail y fframwaith, mor wrthrychol â phosibl
- profi cadernid y canfyddiadau cychwynnol hyn o’u hystyried mewn nifer o senarios cyd-destunol gwahanol.
Bydd yr adroddiad terfynol yn cyflwyno’r dadansoddiad sylfaenol ac unrhyw newidiadau i’r dadansoddiad hwnnw a fyddai’n angenrheidiol yn y senarios cyd-destunol gwahanol.
Wrth ystyried y fframwaith, mae’n hanfodol cofio na all systemau a strwythurau cyfansoddiadol ynddynt eu hunain gyflawni canlyniadau polisi penodol. Mewn democratiaeth, nid yw’n anochel y bydd gwerthoedd a rhagdybiaethau presennol yn cael eu rhannu gan blaid wleidyddol a ddaw i rym drwy’r blwch pleidleisio yn y dyfodol.
Felly, er ei bod yn briodol gwerthuso i ba raddau y bydd yr opsiynau gwahanol yn galluogi canlyniadau y mae’r Comisiwn (a chonsensws gwleidyddol ehangach ar hyn o bryd) efallai’n ystyried yn ddymunol, mae’n bwysig osgoi unrhyw ragdybiaeth y bydd unrhyw opsiwn yn cyflawni canlyniadau o’r fath yn awtomatig.
Meini prawf dadansoddi
Beth fyddai’r opsiwn hwn yn ei olygu ar gyfer:
Gwerthoedd y Comisiwn
1. Atebolrwydd
I ba raddau y ceir eglurder ynghylch ble achan bwy y gwneir penderfyniadau a sut y gellir dal ypenderfynwyr hynny i gyfrif.
Pwyntiau pwysau adroddiad interim: 8
2. Galluogedd
I ba raddau y gall pobl Cymru arfer rheolaethneu ddylanwad dros y penderfyniadau allweddol a wneir yngNghymru sy’n effeithio ar eu bywydau ac i ba raddau y maeganddynt hyder bod llais Cymru yn cael ei glywed mewnpenderfyniadau y tu allan i Gymru.
Pwyntiau pwysau adroddiad interim: 2, 10
3. Sybsidiaredd
I ba raddau y mae’n sicrhau bodpenderfyniadau’n cael eu gwneud mor agos ag sy’n ystyrlonbosibl i’r bobl a’r cymunedau y maent yn effeithio arnynt.
4. Cydraddoldeb a Chynhwysiant
I ba raddau y mae’n sicrhaucynhwysiant yn y broses ddemocrataidd i bawb sy’n byw yngNghymru ac, yn ehangach, yn galluogi polisïau i gael eu lluniosy’n sicrhau triniaeth a mynediad cyfartal o ran gwasanaethau ibawb yng Nghymru.
O theori i realiti
5. Dibyniaethau allanol
Beth fyddai angen digwydd o rancytundeb neu ewyllys da ar ran sefydliadau y tu allan i Gymru ialluogi’r opsiwn hwn i gael ei wireddu, gan gydnabod bodunrhyw ganlyniad yn dibynnu ar negodi.
6. Capasiti a chost
Pa gapasiti gwladol ychwanegol y byddaiangen i Gymru ei feithrin (e.e. i reoli plismona a chyfiawnderneu les, neu i sicrhau bod lle Cymru yn y byd yn cael ei gynnala’i hyrwyddo) er mwyn ei wireddu a beth fyddai effaith ariannolnet datblygu’r capasiti hwn, o’i gymharu â'r costau a awgrymirgan y status quo a'r opsiynau eraill ar gyfer newid.
Yr adnoddau i wneud y gwaith o lywodraethu Cymru
7. Sefydlogrwydd
I ba rad dau y mae’n darparu modelsefydlog a chynaliadwy i lywodraethu Cymru yn y tymor hir.
Pwyntiau pwysau adroddiad interim: 1, 7
8. Llywodraeth Gydgysylltiedig
I ba raddau y mae’n hwyluso’rcydlynu angenrheidiol rhwng meysydd polisi gwahanol adarpariaeth gwasanaethau effeithiol ar draws y ffin â Lloegr.
Pwyntiau pwysau adroddiad interim: 4
9. Arian Cyhoeddus
I ba raddau y mae’n darparu sail ariannolddigonol i gynnal a gwella gwasanaethau Cyhoeddus, o'igymharu â'r status quo a'r opsiynau eraill ar gyfer newid.
Pwyntiau pwysau adroddiad interim: 5, 6, 9
Effaith ar yr economi a chymdeithas
10. Polisïau economaidd priodol
I ba raddau y mae’n debygolo alluogi polisïau macro- a micro-economaidd sy’n diwalluanghenion Cymru yn gynaliadwy, gan gynnwys anghenioncenedlaethau’r dyfodol.
Pwyntiau pwysau adroddiad interim: 9
11. Sefydlogrwydd economaidd
I ba raddau (os o gwbl) ymae’n peri risg o ddadsefydlogi economi Cymru, o'i gymharu â'rstatus quo a'r opsiynau eraill ar gyfer newid.
Pwyntiau pwysau adroddiad interim: 9
12. Llif pobl a nwyddau ar draws ffiniau
I ba raddau y mae’nhybu neu’n llesteirio unigolion a busnesau i weithio’n effeithiolar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr a sut y gallai effeithio arher ddemograffig Cymru.
Pwyntiau pwysau adroddiad interim: 3
Senarios
Fel y nodir uchod, bydd yn bwysig profi’r dadansoddiad yn erbynsenarios posibl gwahanol.
Dyma’r senarios yr ydym yn rhag-weld eu defnyddio ar gyfer yr ailgam:
- Sefyllfa lle ceir newid cyfansoddiadol mawr rywle arall ymMhrydain Fawr ac Iwerddon, h.y. yr Alban yn pleidleisio o blaidannibyniaeth (ac efallai’n ailymuno â’r UE), ailuno Iwerddon
- Sefyllfa lle ceir Llywodraeth y DU sydd â rhaglen sylweddol oddiwygio cyfansoddiadol sydd â’r nod o atgyfnerthu datganoli achynyddu datganoli rhanbarthol yn Lloegr
- Sefyllfa lle mae Llywodraeth y DU yn parhau i ddefnyddiogoruchafiaeth Senedd y DU, heb gydsyniad Sewel i wneudnewidiadau pellach sy’n cael eu hystyried yng Nghymru ynnewidiadau sy’n tanseilio rolau a chyfrifoldebau Senedd Cymru aLlywodraeth Cymru e.e. galluogi Llywodraeth y DU i ymyrryd mewnmaterion iechyd neu addysg.
Yn ogystal, yn achos annibyniaeth byddwn hefyd yn ystyried y sefyllfa lle gallai Cymru annibynnol ymuno â’r UE.
Facebook @Comisiwn
Twitter @Comisiwn
Instagram @Comisiwn