Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip
Mae datblygu Strategaeth Ddiwylliant i Gymru yn un o ymrwymiadau allweddol y Rhaglen Lywodraethu a’r Cytundeb Cydweithio, sydd yn fy mhortffolio. Mae’r cyhoedd yn gwerthfawrogi profiadau diwylliannol a chreadigol yn fawr, ac mae’r rhain yn cyfrannu at ganlyniadau iechyd cadarnhaol, lles personol, cydlyniant cymunedol a thwf economaidd.
Yn fy natganiad ysgrifenedig diwethaf ar 15 Tachwedd 2022, fe wnes i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am gwmpas y Strategaeth Ddiwylliant arfaethedig, ac am ein cynlluniau i’n partner arweiniol ymgymryd â gwaith ymchwil ac ymgysylltu. Fe wnes i hefyd roi gwybod ichi am y bwriad i ffurfio Grŵp Llywio Cyffredinol i graffu ar y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran datblygu’r Strategaeth, a gwerthuso’r cynnydd hwnnw’n feirniadol. Mae’n bleser gennyf eich diweddaru ymhellach ar ddatblygiad y Strategaeth Ddiwylliant.
Dechreuodd ein partner arweiniol ar y gwaith o ymgysylltu â rhanddeiliaid ym mis Rhagfyr 2022, ac mae disgwyl iddo ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth. Fel rhan o’r broses ymgysylltu hon, mae’r partner arweiniol yn cynnal cyfweliadau manwl â rhanddeiliaid ar draws sector y celfyddydau, y sector diwylliant a’r sector treftadaeth. Yn eu plith, mae cyrff hyd-braich diwylliannol, Cadw, sefydliadau’r sector lleol ac ymarferwyr y sector. Mae’r partner arweiniol hefyd yn hwyluso gweithdai gyda’r sectorau a chyda chymunedau ledled Cymru. Disgwyliaf gael ei ganfyddiadau cychwynnol a deall themâu sy’n dod i’r amlwg dros y misoedd nesaf.
Rwy’n falch hefyd o gadarnhau aelodaeth y Grŵp Llywio Cyffredinol ar gyfer y Strategaeth Ddiwylliant. Rwy’n credu bod yr aelodau’n cynnig cydbwysedd o sgiliau, profiad proffesiynol, safbwyntiau’r sector a chynrychiolaeth o’r sector i waith y Grŵp Llywio:
- Mae Devinda de Silva (cyd-gadeirydd) yn gyn-Gyfarwyddwr Cydweithio National Theatre Wales, yn Aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC) lle mae’n cadeirio’r Pwyllgor Cydraddoldeb Strategol, ac yn un o ymddiriedolwyr Celfyddydau Anabledd Cymru. Mae Devinda wedi ymgymryd â rolau cynghori yn Counterpoint Arts (sefydliad cenedlaethol blaenllaw ym maes y celfyddydau, ymfudo a newid diwylliannol), Sefydliad Baring a Sefydliad Gulbenkian
- Mae Sara Huws (cyd-gadeirydd) yn Swyddog Ymgysylltu Dinesig yn Llyfrgelloedd ac Archifau Prifysgol Caerdydd. Mae gan Sara dros 15 mlynedd o brofiad ym maes ymgysylltu â’r cyhoedd a chynllunio rhaglenni ar eu cyfer, a hynny ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Amgueddfa Cymru. Roedd yn un o gyd-sylfaenwyr yr amgueddfa gyntaf i roi llwyfan i hanes menywod yn y DU, sef Amgueddfa Menywod Dwyrain Llundain, sy’n adnabyddus am ei dull cynhwysol o ymdrin â hanes menywod dosbarth gweithiol a LHDTQ+
- Mae Dylan Huw yn awdur llawrydd ac yn Gymrawd Cymru’r Dyfodol Cyngor Celfyddydau Cymru / Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’n gweithio’n ddwyieithog ar draws prosiectau cydweithredol, yn aml i archwilio syniadau am gyfieithu, bywyd cwiar, ecoleg ac ymarfer ar y cyd. Tan yn ddiweddar, roedd yn Awdur Preswyl Jerwood Arts ac, yn 2020-21, ef oedd enillydd Ysgoloriaeth Geraint George
- Mae Gwawr Ifan yn Uwch-ddarlithydd mewn Cerddoriaeth yn Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant ac Iaith Prifysgol Bangor. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar gerddoriaeth mewn iechyd a lles. Mae Dr Ifan yn ymddiriedolwr i nifer o elusennau celfyddydau cymunedol sy’n gweithredu yn y Gogledd a’r Gogledd-orllewin
- Mae Hanan Issa yn awdur llawrydd a hi yw Bardd Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2022-25. Mae Hanan yn fardd, yn wneuthurwr ffilmiau ac yn artist o dras Iracaidd a Chymreig, sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales (Repeater Books, 2022). Mae ganddi brofiad helaeth hefyd o weithio gyda grwpiau o bobl sy’n agored i niwed
- Mae Lisa Lewis yn Athro Theatr a Pherfformio ac yn Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Astudio’r Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach ym Mhrifysgol De Cymru. Mae diddordebau ymchwil yr Athro Lewis yn cynnwys theatr a pherfformio trawsddiwylliannol; perfformio a threftadaeth/yr Amgueddfa; theatr ac ieithoedd lleiafrifol, a natur ryngddisgyblaethol hanes a pherfformio
- Mae David Turner yn Athro Hanes yn Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe. Mae gwaith yr Athro Turner yn ymroddedig i sicrhau bod hanes pobl ar y cyrion yn rhan o’r brif ffrwd ddiwylliannol. Mae wedi cydweithio â sectorau y celfyddydau, y cyfryngau, amgueddfeydd, y sector treftadaeth a’r sector archifau i wneud hanes anabledd yn hygyrch. Mae’n un o ymddiriedolwyr Celfyddydau Anabledd Cymru, yn Brif Ymchwilydd i brosiect Copperopolis: Creu lleoedd, ymgysylltu ac adfywio wedi ei arwainr gan dreftadaeth, ac yn gyd-sylfaenydd CHART: Canolfan Ymchwil a Hyfforddiant Treftadaeth Prifysgol Abertawe
- Mae Dr Sara Louise Wheeler yn fardd, yn awdur ac yn artist llawrydd. Hi yw awdur y golofn ‘O’r gororau’ i gylchgrawn Barddas, sy’n archwilio pob math o brofiadau ymylol, gan gynnwys anableddau. Mae’n ymgymryd â gwaith ymgynghori ar hygyrchedd ac mae’n aelod o nifer o bwyllgorau a rhwydweithiau sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae hefyd yn Is-gadeirydd Pwyllgor Llenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Mae Dr Wheeler yn gweithio yn y Gogledd-ddwyrain a’r cyffiniau, gan gynnal gweithdai sy’n ymwneud â chreadigrwydd a llesiant.
Mewn cyfarfod o’r Grŵp Llywio Cyffredinol ar 2 Chwefror 2023, llwyddodd yr Aelod Dynodedig a minnau i amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer y Strategaeth Ddiwylliant. Mae’r ddau ohonom yn glir ynghylch y ffaith bod y Grŵp Llywio wedi’i rymuso i siapio’r strategaeth a’i hegwyddorion cyffredinol yn uniongyrchol, ac i’n cynghori ar flaenoriaethau newydd a phresennol. Mae ein ffocws o hyd ar sicrhau bod y Strategaeth newydd yn bragmatig ac yn uchelgeisiol, a’i bod yn annog dull mwy cydlynol o ran cydweithio rhwng y sectorau dan sylw, ac o ran adlewyrchu diwylliant ar draws gwaith Llywodraeth Cymru. Byddaf yn parhau i roi gwybod i’r Senedd am gerrig milltir allweddol wrth i’r gwaith fynd rhagddo.