Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi canlyniadau dau ymgynghoriad pellach ar y defnydd o bremiymau'r dreth gyngor yng Nghymru.
Ar 11 Tachwedd 2022, cyhoeddais y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn dilyn ein hymgynghoriad ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar. Rhyddheais ddau ymgynghoriad technegol hefyd, gan geisio sylwadau ar Reoliadau drafft i estyn yr eithriadau rhag premiymau'r dreth gyngor, ac ar ganllawiau diwygiedig ar weithredu, gweinyddu a gorfodi premiymau.
Cafodd yr ymgyngoriadau eu rhyddhau i baratoi ar gyfer y newidiadau i drethi lleol sy'n dod i rym o 1 Ebrill 2023, sef diwygio'r meini prawf sy'n pennu a gaiff llety gwyliau hunanddarpar ei restru ar gyfer ardrethi annomestig yn lle'r dreth gyngor, a'r cynnydd yn uchafswm premiymau'r dreth gyngor y gall cynghorau eu codi ar ail gartrefi ac anheddau gwag hirdymor.
Mae'r ymgyngoriadau diweddaraf yn rhan o'n gwaith parhaus i sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg at y cymunedau lle mae cartrefi ganddynt neu lle maent yn rhedeg busnesau. Mae hyn, yn ei dro, yn cyfrannu at ddull tair elfen Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â'r effaith ar gymunedau a'r Gymraeg sy'n gallu codi o gael nifer mawr o ail gartrefi a llety gwyliau.
Byddai'r Rheoliadau drafft yn estyn yr eithriadau presennol rhag premiymau fel y byddent yn gymwys i eiddo sydd ag amod cynllunio sy'n pennu mai dim ond fel llety gwyliau tymor byr y gellir ei ddefnyddio, neu sy'n golygu na ellir ei feddiannu'n barhaol fel unig breswylfa na phrif breswylfa person. Byddai eiddo o'r fath yn atebol am y dreth gyngor ar y gyfradd safonol os nad yw'n bodloni'r meini prawf gosod ar gyfer cael ei ddosbarthu fel eiddo annomestig, ond ni fyddai modd codi premiwm arno. Mae hyn yn gyson â'n safbwynt polisi sy'n nodi y dylai perchnogion eiddo wneud cyfraniad teg at gymunedau lleol, naill ai drwy drethi lleol neu drwy'r budd economaidd y maent yn ei gyflawni i ardal.
Codwyd un pwynt bach ynghylch eglurder technegol yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Rheoliadau drafft, ac mae'r ddeddfwriaeth ddrafft wedi cael ei diwygio i ddileu'r cyfeiriad at ‘tymor byr’ yn sgil hynny. Bydd hyn yn sicrhau bod eiddo nad oes cyfnod amser wedi'i bennu yn ei amod cynllunio llety gwyliau yn cael ei eithrio rhag y premiwm.
Yn ogystal â chyhoeddi'r crynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad ar y ddeddfwriaeth, mae'n bleser gennyf hefyd gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â gwneud Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) 2023. Y bwriad yw y byddant yn dod i rym o 1 Ebrill 2023, gan gymhwyso'r eithriadau newydd o'r dyddiad hwnnw ymlaen.
Rwyf hefyd yn cyhoeddi heddiw ganlyniad yr ymgynghoriad ar y canllawiau diwygiedig i awdurdodau lleol ar bremiymau'r dreth gyngor ar anheddau gwag hirdymor ac anheddau a feddiennir yn gyfnodol (ail gartrefi). Mae'r rhain yn rhoi rhagor o arweiniad ar weinyddu a gorfodi premiymau'r dreth gyngor. Maent hefyd yn tynnu sylw at yr opsiynau ychwanegol sydd ar gael i awdurdodau lleol pan nad yw eiddo hunanddarpar nad yw wedi’i gyfyngu gan amodau cynllunio yn bodloni'r meini prawf gosod. At hynny, o 1 Ebrill 2023, anogir awdurdodau lleol i gyhoeddi ar eu gwefannau fanylion y refeniw sy'n cael ei gynhyrchu drwy godi premiwm yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol. Bydd y canllawiau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi'n fuan ac yn berthnasol at ddibenion ymarferol ar unwaith.
Fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, rydym wedi ymrwymo i gymryd camau ar unwaith i fynd i'r afael ag effaith ail gartrefi a thai nad ydynt yn fforddiadwy mewn cymunedau ledled Cymru drwy ddefnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threthu. Mae hyn yn cynnwys rhagor o bwerau i awdurdodau lleol newid premiymau'r dreth gyngor.