Muslim Doctors Cymru
Enwebiad ar gyfer gwobr Gweithwyr hanfodol
Ffurfiwyd Muslim Doctors Cymru ym mis Ionawr 2021, er mwyn mynd i’r afael â chamwybodaeth am frechlynnau Covid-19 ymysg cymunedau ethnig leiafrifol yng Nghymru a thu hwnt.
Fe’i sefydlwyd gan grŵp o ddoctoriaid o Gaerdydd oedd wedi sylwi ar lefel uchel o bryder ynghylch y brechlynnau ymysg cymunedau ethnig leiafrifol. Roedd y pryder hwn yn parhau o ganlyniad i gamwybodaeth mewn nifer o ieithoedd, ac roedd diffyg gwybodaeth gywir am y brechlynnau yn yr ieithoedd hyn yn ei gwneud hi’n anodd mynd i’r afael â chamwybodaeth. Ochr yn ochr â’u swyddi llawn amser, fe wnaethant recriwtio gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd, arweinwyr ffydd, elusennau a busnesau lleol i wirfoddoli er mwyn datblygu ymgyrch gymunedol i fynd i’r afael â’r materion a darparu addysg a hyrwyddo iechyd ymysg cymunedau ethnig leiafrifol. Mae amrywiaeth ddiwylliannol aelodau’r grŵp yn golygu eu bod wedi gallu darparu gwybodaeth gywir mewn amrywiaeth o ieithoedd – megis Wrdw, Pwnjabeg, Arabeg, Bengaleg, Somalieg a Chwrdeg. Rhannwyd fideos oedd yn chwalu mythau, a negeseuon iechyd y cyhoedd ar amrywiol lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol; cynhyrchwyd gweminarau mewn amrywiol ieithoedd ar amrywiaeth o broblemau iechyd, a sefydlwyd y canolfannau brechu dros dro cyntaf mewn mosgiau a lleoliadau eraill yr oedd y bobl yn ymddiried ynddynt.
Bu’r ymgyrch yn llwyddiant gan fod y gwahanol gymunedau wedi cael yr wybodaeth yn eu hieithoedd eu hunain gan lais cymunedol y gallent ymddiried ynddo. Mae eu gwaith o gyrraedd cymunedau ethnig leiafrifol wedi ei ganmol gan wleidyddion, a Phrif Swyddog Meddygol Cymru.