Dr Mark Taubert
Enwebiad ar gyfer gwobr Gweithwyr hanfodol
Meddyg gofal lliniarol yw Mark, ac mae’n gweithio yng Nghanolfan Ganser Felindre, Ysbyty Llandochau a’r hosbis. Mae’n cadeirio’r grŵp cenedlaethol Cynllunio Gofal o Flaen Llaw, lle mae wedi gosod cynrychiolwyr cleifion/gofalwyr, ac yn hyrwyddo gwell dewisiadau yn ystod salwch angheuol. Mae wedi creu adnoddau hygyrch iawn ar gyfer cleifion, a ddefnyddir hefyd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae cymaint o egni gan Mark, ac mae’n tywallt yr egni hwnnw i’w bractis clinigol yn ystod dyddiau’r wythnos, a phan fydd ar alw. Mae’n feddyg ac yn fentor sy’n gweithio’n galed. Mae’n gwrando gyda gofal, yn aml mewn amgylchiadau tywyll a heriol iawn.
Mae ei adnoddau addysgol a’i waith addysgu diflino ar y wardiau yn golygu ei fod wedi cael ei gyflwyno gan ei fyfyrwyr sy’n ei enwebu yn aml fel un o’r athrawon gorau. Gwnaeth ei waith ysgogi un o’i gleifion ysgrifennu darn amdano yn y British Medical Journal. Mae gofal lliniarol yn faes sy’n cael ei esgeuluso yn aml, ac mae Mark yn benderfynol na chaiff yr agwedd hon ar fywyd ei hanghofio. Mae’n tynnu sylw at brofiadau bywyd pwerus mewn cyhoeddiadau fel y Western Mail, y Washington Post a newyddion Al Jazeera.
Yn ystod y pandemig, gofynnodd i’r BBC gyhoeddi canllaw cyfathrebu 5 cam ar gynnal sgyrsiau o bell mewn ffordd sensitif. Denodd ei lythyr at David Bowie am ofal lliniarol drafodaeth a sylw byd-eang. Mae’n eiriol dros bobl sydd ag anableddau dysgu ac mae wedi rhannu adnoddau mewn Braille. Fel rhywun sydd wedi symud o’r Almaen ac sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru ac yn caru’r wlad, mae wedi bod yn bencampwr o ran rhoi Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, gan dynnu sylw at bwysigrwydd gofal tosturiol wrth wynebu salwch dinistriol.