Menter i annog cydweithredu ar draws ac o amgylch ardal Môr Iwerddon (Cymru Ystwyth)
Ar agor i geisiadau nawr ar gyfer gweithgarwch a gwariant rhwng 1 Ebrill 2025 a diwedd Mawrth 2026.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi'r presenoldeb cryfaf posibl i Gymru ar lwyfan y byd ac mae'n ymrwymo i ‘gysylltiadau economaidd ac ymchwil agosach â'r UE’. Bydd cydweithredu â gwledydd a rhanbarthau eraill yn helpu o ran:
- cynyddu proffil Cymru ar lwyfan y byd;
- datblygu economi Cymru;
- sefyllfa Cymru fel gwlad sy'n gyfrifol yn fyd-eang.
Mae cydweithio yn rhoi cyfleoedd i gyfnewid syniadau, nodi meysydd o arferion gorau, ymestyn arloesedd a chystadleurwydd a mynd i'r afael â materion allweddol sy'n croesi ffiniau. Rydym am weld “Cymru Ystwyth” sy'n edrych tuag allan at bartneriaid presennol a phartneriaid y dyfodol yn y DU, Ewrop ac yn rhyngwladol, i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd a rennir a mynd i'r afael â heriau cyffredin.
Mae Fframwaith Môr Iwerddon yn llywio ac yn dylanwadu ar gamau gweithredu sydd â'r nod o gynyddu cydweithredu ar draws ac o amgylch ardal Môr Iwerddon. Mae'n cynnig cyfeiriad strategol yn y tymor byr a llwybr at nodau tymor canolig. Mae'r Fframwaith yn anffurfiol, yn hyblyg, a bydd yn esblygu, gan helpu i ddarparu polisïau, strategaethau a rhaglenni perthnasol, gan gynnwys Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru, Iwerddon-Cymru: Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd a rhaglenni Interreg 2021 i 2027, gan gynnwys Peace Plus.
Ystyrir mai ardal Môr Iwerddon yw'r ardal ddaearyddol a ddiffinir gan Fôr Iwerddon, y Môr Celtaidd a Môr y Gogledd. Mae hefyd yn cael ei ddylanwadu gan y gwledydd a'r rhanbarthau o amgylch y gofod hwnnw, h.y. Cymru, Iwerddon, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Gogledd-orllewin Lloegr, De-orllewin Lloegr ac Ynys Manaw. Bydd daearyddiaethau economaidd a pherthnasoedd dwyochrog hefyd a fydd yn dylanwadu ar weithgaredd. Y sail ar gyfer y fenter ariannu hon yw budd i Gymru, ond nid oes cyfyngiad ar y partneriaid posibl sy'n dymuno sicrhau'r budd hwnnw.
Mae Fframwaith Môr Iwerddon yn nodi tri maes blaenoriaeth eang ar gyfer cydweithredu: Economi Glas Gynaliadwy, Cryfderau Arloesi a Chymunedau a Diwylliant – gweler y canllaw i’r Fframwaith i gael rhagor o fanylion.
Mae Datblygu Cydweithrediad Môr Iwerddon (DISC) yn brosiect dwy flynedd a gefnogir gan PEACEPLUS, rhaglen a reolir gan Gorff Rhaglenni Arbennig yr UE (SEUPB). Ei nod yw gwella cydweithrediad rhynglywodraethol rhwng adrannau perthnasol Gogledd Iwerddon a'r Llywodraethau yn Iwerddon, Cymru a'r Alban. Datblygu strategaeth a chynllun gweithredu ar gyfer cydweithrediad economaidd a chymdeithasol trawsffiniol arloesol rhwng y Gogledd a’r De a’r Dwyrain a’r Gorllewin.
Mae Llywodraeth Iwerddon wedi cytuno y dylai Cynulliad Rhanbarthol y De sefydlu mecanwaith cydweithredu ffurfiol Iwerddon Cymru i gefnogi cydweithrediad parhaus a chydweithio ymhlith rhanddeiliaid yn y tymor byr i'r tymor canolig. Bydd gan y mecanwaith cydlynu rhyngadrannol hwn y nod cychwynnol o baru cyllid Cymru Ystwyth trwy gyllid presennol mewn Adrannau perthnasol Llywodraeth Iwerddon.
Mae Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol Cymru yn amlygu sut y dylem ddatblygu’r gweithgareddau a’r rhwydweithiau a sefydlwyd drwy gyfranogiad Cymru mewn amrywiaeth o raglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd (ETC).
Mae Horizon Ewrop yn cynnig cyfle pwysig i ymchwilwyr ac arloeswyr o Gymru gydweithio â'r gorau yn y byd, denu talent byd-eang a chreu gwyddoniaeth blaenllaw ac arloesi er budd cymdeithas.
Mae Cymru Ystwyth yn cefnogi ‘hadu’ neu hwyluso gweithgarwch sy'n adeiladu partneriaethau trawsffiniol a rhyngwladol ac yn cynyddu cydweithredu mewn meysydd sydd â'r potensial i arwain at fwy o weithgarwch economaidd, sy'n fwy cynaliadwy, ac sy’n bwysig i Gymru. Mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio diwylliannol a manteision cymdeithasol gweithio ar draws ffiniau.
Y Fenter
Mae'r fenter hon yn annog ceisiadau gan sefydliadau sy'n gweithredu yng Nghymru sydd â'r potensial i gynyddu a chynnal cydweithrediad ar draws ac o amgylch ardal Môr Iwerddon. Gallai hyn adlewyrchu un neu fwy o feysydd blaenoriaeth Fframwaith Môr Iwerddon. Bydd y fenter yn cefnogi gweithgarwch a gwariant rhwng 1 Ebrill 2025 a diwedd Mawrth 2026.
Bydd cais cryf yn adlewyrchu'r cyd-destun strategol a nodir uchod ac yn:
- cefnogi ac adeiladu cysylltiadau strategol perthnasol y tu allan i Gymru
- creu amrywiaeth o gyfleoedd mewn maes sy'n arwyddocaol ar gyfer economi Cymru
- cynnwys sefydliadau neu rwydweithiau pwysig a pherthnasol
- trosglwyddo gwybodaeth ryngwladol i Gymru a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar flaenoriaethau polisi Cymru
- adeiladu a datblygu ar y gweithgarwch presennol
- meddu ar lwybr clir i ddod â chyllid arall i mewn, neu lwybr arall at weithgarwch economaidd parhaus a chynaliadwy
Bydd angen i bob cais ddangos hyfywedd a gwerth am arian. Byddem hefyd yn disgwyl cyfraniad priodol at allbynnau a chanlyniadau Cymru Ystwyth.
Nid oes trothwyon grant sefydlog ond yn seiliedig ar brofiad mae'r canlynol yn ganllaw:
- Ar gyfer prosiectau bach, fel teithio, ymgysylltu a gwasanaeth ymgynghori, dylai ymgeiswyr gadw mewn cof y gallai hyd at £3,000 fesul cais gael ei ystyried yn rhesymol.
- Ar gyfer prosiectau sy’n fwy strategol, fel ffurfio rhwydweithiau, astudiaethau dichonoldeb a phrosiectau peilot sy’n golygu defnydd sylweddol o ddeunyddiau ac amser staff, dylai ymgeiswyr gadw mewn cof y gallai hyd at £50,000 fesul cais gael ei ystyried yn rhesymol. Disgwylir i strategol yng nghyd-destun y fenter hon gynnwys capasiti sylweddol yng 'nghlymblaid y parod' yn un o'r meysydd blaenoriaeth a nodir yn Fframwaith Môr Iwerddon, a bod â'r potensial i gael effaith sylweddol.
Gall y fenter hon gefnogi hyd at 100% o'r costau cymwys os oes cyfiawnhad dros hynny, ond gall Llywodraeth Cymru flaenoriaethu ceisiadau sydd â chyfraddau ymyrraeth is. Nid yw cyllid gan wlad neu ranbarth arall, neu'r posibilrwydd realistig o sicrhau cyllid o'r fath yn ystod cyfnod y prosiect, yn ofyniad ond gall fod yn rheswm dros flaenoriaethu.
Y gyllideb a ddyrennir ar gyfer y fenter hon yw hyd at £200,000 ond byddwn yn ystyried ymrwymiadau eraill a thanwariant ar adeg y penderfyniad.
Costau cymwys
Oni nodir yn benodol yn y fenter hon, mae rheolau a gweithdrefnau Cymru Ystwyth yn berthnasol.
Ni fyddwn yn cefnogi gweithgarwch masnachu cyffredinol na marchnata cynnyrch. Os mai allforio yw prif ffocws y gweithgarwch, mae cymorth penodol ar gael gan Lywodraeth Cymru, a allai fod yn fwy addas.
Gall Cymru Ystwyth gefnogi prosiectau ym maes diwylliant, treftadaeth a chwaraeon os oes potensial gan y gweithgarwch arfaethedig i arwain at fwy o gydweithrediad sydd yn gynaliadwy ac yn bwysig i Gymru. Rydym yn annhebygol o gefnogi perfformiadau neu artistiaid unigol.
Mae Taith, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol a sefydlwyd i greu cyfleoedd sy'n newid bywydau pobl yng Nghymru i ddysgu, astudio a gwirfoddoli ledled y byd. Felly, mae'n annhebygol y bydd Cymru Ystwyth yn cefnogi symudedd rhyngwladol ar gyfer canlyniadau addysg.
Gall y gwariant gynnwys gweithgaredd partneriaid nad ydynt yn Gymry, ar yr amod bod y costau a hawlir yn cael eu hysgwyddo gan bartner Cymru a bod modd dangos gwerth am arian. Fodd bynnag, rydym yn cynghori cysylltu â Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn gynnar yn natblygiad eich cynnig i sicrhau cydymffurfiaeth.
Ni fyddwn yn cefnogi gweithgarwch na gwariant ar ôl 31 Mawrth 2026.
Er mwyn osgoi canlyniadau anfwriadol a diffyg hyblygrwydd, nid ydym yn nodi rhestr gaeedig o gostau cymwys, ond rhaid i gostau fod yn angenrheidiol ar gyfer hyrwyddo, gweithredu a lledaenu'r prosiectau y cytunwyd arnynt drwy'r broses ymgeisio a’r cynnig grant ysgrifenedig. Rhaid iddynt fod yn rhesymol, yn wiriadwy a chael eu hysgwyddo gan yr ymgeisydd. Edrychwch ar reolau a gweithdrefnau Cymru Ystwyth i gael rhagor o fanylion. Rydym hefyd yn cynghori eich bod yn canolbwyntio ar eitemau gwariant uwch gyda thrywydd tystiolaeth cryf i symleiddio’r broses hawlio.
Nid yw'r costau a ysgwyddir cyn y dyddiad cymeradwyo yn gymwys oni bai bod Tîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn cadarnhau fel arall yn ysgrifenedig.
Cyflwyno ceisiadau
Rydym yn agored i geisiadau nawr. Hefyd, os nad yw eich cais yn ‘gryf’ fel y diffinnir hynny uchod, cysylltwch â Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno eich cais. Fel arall, cwblhewch y ffurflen gais yma a’i hanfon ar e-bost at Dîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru ar CymruYstwyth@llyw.cymru.
Caiff ceisiadau eu pwyso a'u mesur yn unol â nodau'r fenter hon, a bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniad terfynol. Gallai’r penderfyniad hwn gynnwys lefel is o grant na’r hyn y gwnaed cais amdano. Efallai y byddwn yn gofyn am gyngor arbenigol a chan gydweithwyr polisi perthnasol yng Nghymru neu mewn gwledydd/rhanbarthau perthnasol. Ymdrinnir â cheisiadau cymwys ar sail ‘y cyntaf i'r felin’ ond bydd cyfle i gael eglurhad pellach a gall ceisiadau nad ydynt yn cael eu hystyried yn gryf fel y'u diffinnir yn y ddogfen hon gael eu rhoi ar ‘restr wrth gefn’ i ganiatáu cyfleoedd ar gyfer ceisiadau eraill. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn mabwysiadu dull portffolio er mwyn rheoli cydbwysedd risg ac ystod y canlyniadau. Bydd hyn yn cynnwys ystyried yr amrywiaeth o weithgareddau ar draws themâu, daearyddiaeth a sectorau lle y bydd yn cryfhau canlyniadau cyffredinol y fenter hon. Mae’n bosibl y byddwn felly yn rhoi ceisiadau ar y ‘rhestr wrth gefn’ er mwyn rheoli ystyriaethau portffolio, neu am resymau cyllidebol.