Menter i annog cydweithio â rhanbarthau pwysig yr UE (Cymru Ystwyth)
Ar agor i geisiadau nawr, yn canolbwyntio ar weithgarwch a gwariant i’w hawlio cyn diwedd Mawrth 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i Gymru ar lwyfan y byd ac yn ymrwymo i ‘gysylltiadau economaidd ac ymchwil agosach â’r UE’. Bydd cydweithio â gwledydd a rhanbarthau eraill yn helpu i:
- Ychwanegu proffil Cymru ar lwyfan y byd
- Datblygu economi Cymru;
- Sefyllfa Cymru fel gwlad cyfrifol yn fyd-eang.
Mae cydweithio yn rhoi cyfleoedd i gyfnewid syniadau, nodi meysydd o arferion gorau, ymestyn arloesedd a chystadleurwydd ac i fynd i'r afael â materion allweddol sy'n croesi ffiniau. Rydym am weld “Cymru Ystwyth” sy'n edrych tuag allan at bartneriaid presennol a phartneriaid y dyfodol yn y DU, Ewrop ac yn rhyngwladol, i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd a rennir a mynd i'r afael â heriau cyffredin
Mae Strategaeth Ryngwladol a Chynllun Gweithredu Perthnasoedd a Rhwydweithiau Rhanbarthol sy’n cael Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yn nodi'r angen i wellau cydweithio mewn sectorau allweddol a gweithio gyda rhanbarthau a rhwydweithiau ledled y byd sy’n rhannu ein huchelgeisiau. Mae gan Lywodraeth Cymru Femoranda Cyd-ddealltwriaeth neu gytundebau dwyochrog cyfatebol gyda nifer o bartneriaid rhanbarthol
Mae’r Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru yn amlinellu sut y dylem adeiladu ar y gweithgarwch a'r rhwydweithiau a sefydlwyd drwy gyfranogiad Cymru mewn amrywiaeth o raglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd (ETC).
Mae cymryd rhan yn Horizon Ewrop yn darparu cyfle pwysig i ymchwilwyr ac arloeswyr o Gymru gydweithio gyda’r gorau yn y byd, atynnu talent byd-eang a pharhau ag arloesi a gwyddoniaeth arloesol er budd cymdeithas.
Mae Cymru Ystwth yn cefnogi 'hadu' neu hwyluso gweithgarwch sy'n adeiladu partneriaethau trawsffiniol a rhyngwladol ac yn cynyddu cydweithredu mewn meysydd sydd â'r potensial i arwain at weithgarwch economaidd mwy cynaliadwy o arwyddocâd i Gymru. Mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio diwylliannol a manteision cymdeithasol gweithio ar draws ffiniau.
Y Fenter
Mae'r fenter hon yn annog ceisiadau gan sefydliadau sy’n gweithredu yng Nghymru sydd â'r potensial i gynyddu a chynnal cydweithio â rhanbarthau pwysig yr UE. Canolbwyntir ar weithgarwch a gwariant a hawlir cyn diwedd mis Mawrth 2025.
Bydd cais cryf yn adlewyrchu’r cyd-destun strategol a nodir uchod ac yn:
- Cefnogi ac adeiladu cysylltiadau strategol â rhanbarthau pwysig yr UE. Gallai hyn olygu cysylltiadau gyda rhanbarthau megis Gwlad y Basg (Euskadi), Baden Württemberg, Llydaw, Fflandrys, a Silesia lle mae cytundebau dwyochrog yn eu lle, neu ranbarthau eraill os fydd Llywodraeth Cymru yn eu hystyried yn bwysig yng nghyd-destun eich gweithgarwch arfaethedig.
- Creu amrywiaeth o gyfleoedd mewn maes arwyddocaol ar gyfer economi Cymru. Gallai hyn adlewyrchu’r themâu a nodir mewn cytundebau dwyochrog neu un o strategaethau perthnasol a phenodol Llywodraeth Cymru.
- Cynnwys sefydliadau neu rwydweithiau pwysig a pherthnasol yn yr UE.
- Trosglwyddo gwybodaeth ryngwladol i Gymru fydd yn cael effaith bositif ar flaenoriaethau polisi Cymru.
- Adeiladu a datblygu ar y gweithgarwch presennol.
- Bod â llwybr clir i ddod â chyllid arall i mewn, neu lwybr arall at weithgarwch economaidd parhaus a chynaliadwy.
Rhaid i bob cais ddangos hyfywedd a gwerth am arian. Byddem yn disgwyl cyfraniad priodol at ganlyniadau ac allbynnau Cymru Ystwyth.
Nid oes trothwyon grant sefydlog, ond yn seiliedig ar brofiad, mae’r canlynol yn ganllaw:
- Ar gyfer prosiectau bach, fel teithio, ymgysylltu a gwasanaeth ymgynghori, dylai ymgeiswyr gadw mewn cof y gallai hyd at £3,000 fesul cais gael ei ystyried yn rhesymol.
- Ar gyfer prosiectau sy’n fwy strategol, fel ffurfio rhwydweithiau, astudiaethau dichonoldeb a phrosiectau peilot sy’n golygu defnydd sylweddol o ddeunyddiau ac amser staff, dylai ymgeiswyr gadw mewn cof y gallai hyd at £15,000 fesul cais gael ei ystyried yn rhesymol. Byddai disgwyl i brosiectau fodloni’r meini prawf ‘cryf’ a nodir uchod.
Gall ymgeiswyr gyflwyno prosiectau sy'n sicrhau cydweithio ag un neu fwy o'r rhanbarthau; nid oes angen cyflwyno ceisiadau lluosog. Budd i Gymru yw sail y fenter ariannu hon, ond nid oes cyfyngiad ar y partneriaid posib sydd am sicrhau'r budd hwnnw. Fodd bynnag, byddai perthynas ag o leiaf un sefydliad neu rwydwaith Ewropeaidd fesul cais yn ddisgwyliedig.
Gall y fenter hon gefnogi hyd at 100% o'r costau cymwys lle mae cyfiawnhad dros hynny, ond mae’n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu ceisiadau sy’n manteisio ar gyllid arall.
Mae'r gyllideb a ddyrennir ar gyfer y fenter hon hyd at £80,000 ond byddwn yn ystyried ymrwymiadau eraill a thanwariant adeg y penderfyniad.
Costau Cymwys
Oni nodir yn benodol yn yr alwad hon, mae rheolau a gweithdrefnau Cymru Ystwyth yn berthnasol.
Ni fyddwn yn cefnogi gweithgarwch masnachu cyffredinol na marchnata cynnyrch. Os mai allforio yw prif ffocws y gweithgarwch, mae cymorth penodol ar gael gan Lywodraeth Cymru, a allai fod yn fwy addas – Archwilio Allforio Cymru (llyw.cymru).
Gall Cymru Ystwyth gefnogi prosiectau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon os oes potensial gan y gweithgarwch arfaethedig i arwain at fwy o gydweithrediad sydd yn gynaliadwy ac o arwyddocâd i Gymru. Rydym yn annhebygol o gefnogi perfformiadau neu artistiaid unigol.
Gall y gwariant gynnwys gweithgarwch partneriaid nad ydynt o Gymru, ar yr amod bod y partner yng Nghymru yn ysgwyddo'r costau a hawlir a gellir dangos gwerth am arian. Fodd bynnag, rydym yn eich cynghori i gysylltu â Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn gynnar yn y broses o ddatblygu eich cais er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio.
Ni fyddwn yn cefnogi gweithgarwch na gwariant ar ôl 31 Mawrth 2025..
Er mwyn osgoi canlyniadau anfwriadol a diffyg hyblygrwydd, nid ydym yn nodi rhestr gaeedig o gostau cymwys, ond rhaid i gostau fod yn angenrheidiol ar gyfer hyrwyddo, gweithredu a lledaenu'r prosiectau y cytunwyd arnynt drwy'r broses ymgeisio a’r cynnig grant ysgrifenedig. Rhaid iddynt fod yn rhesymol, yn wiriadwy a chael eu hysgwyddo gan yr ymgeisydd. Edrychwch ar reolau a gweithdrefnau Cymru Ystwyth i gael rhagor o fanylion. Rydym hefyd yn cynghori eich bod yn canolbwyntio ar eitemau gwariant uwch gyda thrywydd tystiolaeth cryf i symleiddio’r broses hawlio.
Nid yw'r costau yr eir iddynt cyn y dyddiad cymeradwyo yn gymwys oni bai bod Tîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn cadarnhau fel arall yn ysgrifenedig.
Cyflwyno ceisiadau
Rydym yn agored i geisiadau nawr. Os nad yw eich cais yn ‘gryf’ fel y diffinnir hynny uchod, cysylltwch â Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno eich cais. Fel arall, cwblhewch y ffurflen gais yma a’i hanfon ar e-bost at Dîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru: CymruYstwyth@llyw.cymru.
Bydd ceisiadau'n cael eu barnu yn unol â nodau'r fenter hon a bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniad terfynol. Gallai’r penderfyniad gynnwys lefel is o grant na’r hyn y gwnaethpwyd cais amdano. Efallai y byddwn yn gofyn am gyngor arbenigol a chyngor gan gydweithwyr polisi perthnasol yng Nghymru neu mewn gwledydd/rhanbarthau perthnasol. Ymdrinnir â cheisiadau cymwys ar sail ‘y cyntaf i'r felin’ ond prin fydd y cyfle i gael eglurhad pellach a gall ceisiadau nad ydynt yn cael eu hystyried yn gryf fel y'u diffinnir yn y ddogfen hon gael eu rhoi ar ‘restr wrth gefn’ i ganiatáu cyfleoedd ar gyfer ceisiadau eraill. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn mabwysiadu dull portffolio er mwyn rheoli cydbwysedd risg ac ystod y canlyniadau