Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Bydd Aelodau o’r Senedd am fod yn ymwybodol fy mod wedi rhoi cydsyniad i’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes sydd wedi’i ddatganoli mewn perthynas â Chymru.
Gosodwyd yr Offeryn Statudol uchod gerbron Senedd y DU gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 28 Chwefror 2023 drwy arfer y pwerau a roddir gan reoliadau 6, 7 a 9 o Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Swyddogaethau Deddfwriaethol) a Milfeddygon (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019.
Mae’r Rheoliadau hyn yn cywiro gwallau yn y rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid fel bod y Swistir a Gwlad yr Iâ wedi’u cymeradwyo’n gyfreithiol i allforio i Brydain Fawr. Roedd y gwallau yn golygu nad oedd gan y Swistir na Gwlad yr Iâ, y sail gyfreithiol briodol i allforio nwyddau penodol i Gymru, a dylid bod wedi’u cymeradwyo fel bod ganddynt. Cafodd y gwallau hyn eu cywiro er mwyn sicrhau y gallai masnach o’r Swistir a Gwlad yr Iâ barhau heb unrhyw darfu. Roedd y Rheoliadau hefyd yn dileu cymeradwyaeth dramwy i Rwsia nad oedd wedi bod ar waith ers diwedd y Cyfnod Pontio. Nid oedd yr un o’r cywiriadau hyn yn newidiadau i bolisi ond roeddent yn ofynnol er mwyn cynnal y status quo.
Yr effaith y gall yr offeryn ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru:
Nid yw’r Rheoliadau yn lleihau nac yn tanseilio pwerau Gweinidogion Cymru mewn unrhyw ffordd, ac nid ydynt yn creu, yn diwygio nac yn dileu unrhyw swyddogaethau a roddir i Weinidogion Cymru.
Hoffwn sicrhau’r Senedd mai polisi arferol Llywodraeth Cymru yw deddfu dros Gymru ar faterion o fewn cymhwysedd datganoledig. Fodd bynnag, o dan rai amgylchiadau, mae manteision i gydweithio â Llywodraeth y DU pan fo sail resymegol glir dros wneud hynny. Ar yr achlysur hwn, rwyf wedi rhoi fy nghydsyniad i’r Rheoliadau hyn er mwyn sicrhau effeithlonrwydd a hwylustod wrth newid polisi yn y dyfodol a chadw at rwymedigaethau rhyngwladol, a sicrhau cydgysylltiad a chysondeb trawslywodraethol.
Gosodwyd y Rheoliadau gerbron Senedd y DU ar 28 Chwefror 2023 a deuant i rym ar 21 Mawrth 2023.