Comisiynwyd y gwerthusiad hwn gan Lywodraeth Cymru i deall pa un ai a yw'r categori eithrio newydd i'r Dreth Gyngor ar gyfer ymadawyr gofal yn cael ei chymhwyso'n gyson, a deall effaith y ddeddfwriaeth ar ymadawyr gofal.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Deall effaith Ymyriadau Treth Gyngor yng Nghymru
Cwblhawyd yr ymchwil yn 2022 ac roedd yn cynnwys ymchwil desg, gwaith dadansoddi ystadegau meintiol a gwaith maes.
Prif ganfyddiadau
- Yn ôl y cynghorau a'r sefydliadau sy'n cefnogi ymadawyr gofal, ceir lefel uchel o ymwybyddiaeth o'r eithriad rhag talu'r Dreth Gyngor i ymadawyr gofal.
- Ym mhrofiad ymadawyr gofal, gall y lefel o ddealltwriaeth ynghylch yr eithriad ymhlith swyddogion y Dreth Gyngor a swyddogion Gwasanaethau Cymdeithasol fod yn dameidiog.
- Ymddengys bod gan gynghorau system weddol gyson a llwyddiannus ar gyfer ceisio gwybodaeth gan eu hadran Gwasanaethau Cymdeithasol eu hunain drwy eu proses rhannu data fewnol. Dyma'r brif system a nodwyd gan gynghorau ar gyfer adnabod ymadawyr gofal, ac ymgysylltu â nhw.
- Yn ôl gweinyddwyr y Dreth Gyngor ac ymadawyr gofal, ceir rhwystrau i ddarpariaeth yr eithriad oherwydd anawsterau wrth geisio'r dystiolaeth ofynnol gan yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae hyn yn arbennig o wir pan mae'r adran Gwasanaethau Cymdeithasol berthnasol wedi'i lleoli mewn cyngor arall.
- Dywedodd ymadawyr gofal eu bod yn cael trafferthion wrth geisio cyngor ac arweiniad clir ynghylch yr eithriad.
- Mae'r dystiolaeth a gasglwyd drwy waith maes yn awgrymu bod cyflwyno eithriad rhag talu'r Dreth Gyngor i ymadawyr gofal wedi bod yn effeithiol wrth gefnogi ymadawyr gofal. Ystyrir y cymorth ariannol mewn golau cadarnhaol, ac mae'r mesur yn lliniaru rhag niweidion posib, megis dyled neu ddigartrefedd.
- Mae ymadawyr gofal ifanc yn bryderus ynghylch effaith yr ymyl clogwyn maent yn ei wynebu pan fyddant yn cyrraedd 25 mlwydd oed, pan gaiff y cymorth Treth Gyngor ei waredu heb unrhyw liniariadau awtomatig.
- Awgryma dadansoddiad ystadegol fod yr eithriadau a roddir yn weddol gyson ledled Cymru.
Adroddiadau
Deall effaith Ymyriadau Treth Gyngor yng Nghymru: eithrio ymadawyr gofal rhag talu'r dreth gyngor , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 671 KB
PDF
671 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Deall effaith Ymyriadau Treth Gyngor yng Nghymru: eithrio ymadawyr gofal rhag talu'r dreth gyngor (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 276 KB
PDF
276 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Nerys Owens
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.