Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG: ar 30 Medi 2022
Data am staff meddygol, deintyddol, nyrsio a bydwreigiaeth, ar 30 Medi 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r datganiad hwn yn darparu ystadegau cryno ar staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru. Mae'r datganiad yn cynnwys dadansoddiadau yn ôl grwpiau staff a nodweddion staff. Cyhoeddir data manylach fesul sefydliadau'r GIG yn StatsCymru.
Caiff yr ystadegau eu llunio ar sail data o Gofnod Staff Electronig y GIG, a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae lefelau staffio yn cael eu mesur orau drwy ddefnyddio data cyfwerth ag amser llawn (FTE). Mae un FTE yn gyfwerth â pherson yn gweithio'r oriau safonol ar gyfer ei radd. Mae cyfanswm niferoedd y staff (‘cyfrif pennau’) hefyd yn cael eu darparu ac fe’u defnyddir i ddadansoddi nodweddion.
Mae'r datganiad hwn yn canolbwyntio ar y flwyddyn ddiweddaraf ac yn darparu cyfres amser ddeng mlynedd ar gyfer rhai dadansoddiadau. Mae data ar staff a gyflogir gan y GIG ar gael o 1979 ymlaen yn StatsCymru; fodd bynnag, oherwydd newidiadau i lawlyfr galwedigaethau’r GIG dim ond cyfanswm y staff sy'n hollol gymaradwy dros y gyfres amser gyfan. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Nid yw data'r gweithlu ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol fel Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol ac Ymarferwyr Deintyddol y GIG wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn ac fe'u cyhoeddir ar wahân gan eu bod yn gontractwyr GIG annibynnol.
Prif bwyntiau
Rhwng 30 Medi 2021 a 30 Medi 2022, cynyddodd cyfanswm nifer y staff 2,913 (2.8%) i 105,968.
Rhwng 30 Medi 2021 a 30 Medi 2022 (o ran niferoedd cyfwerth ag amser llawn):
- cynyddodd nifer y staff 2,765 (3.1%) i 91,404
- cynyddodd nifer y staff meddygol a deintyddol 331 (4.4%) i 7,836
- cynyddodd nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd 425 (1.2%) i 36,113
- cynyddodd nifer y staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol 908 (6.0%) i 15,971
- cynyddodd nifer y staff gweinyddu ac ystadau 1,148 (5.3%) i 22,731
- gostyngodd nifer y staff ambiwlans 36 (1.3%) i 2,749
- gostyngodd nifer y cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill 28 (0.5%) i 5,878
- cynyddodd nifer y staff eraill (gan gynnwys staff taliadau cyffredinol a staff anfeddygol eraill) 17 (15.4%) i 126
Mae data newydd ar nodweddion holl staff y GIG, pan oedd data am nodweddion yn hysbys ar 30 Medi 2022, yn dangos:
- bod 77% o'r gweithlu yn fenywaidd, a 23% yn wrywaidd
- bod 79% yn 55 oed neu'n iau; 19% yn 56 i 65 oed, a 2% yn 66 oed neu'n hŷn
- nad oedd gan 95% ohonynt anabledd wedi’i gofnodi, a bod gan 5% anabledd wedi’i gofnodi
- bod gan 93% genedligrwydd y DU; 5% genedligrwydd nad oedd yn genedligrwydd yr UE, a 2% genedligrwydd yr UE
- bod 92% yn perthyn i unrhyw grŵp ethnig gwyn; 5% yn perthyn i unrhyw grŵp ethnig Asiaidd; 1% yn perthyn i unrhyw grŵp ethnig du; 1% yn perthyn i grwpiau ethnig cymysg, ac 1% yn perthyn i grwpiau ethnig eraill
Crynodeb o’r staff a gyflogir
Ffigur 1: Nifer y staff (cyfwerth ag amser llawn) a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru ar 30 Medi, 2013 i 2022
Disgrifiad o Ffigur 1: siart cyfres amser yn dangos bod nifer y staff FTE wedi cynyddu yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, gyda chynnydd cyflymach ers 2019.
Crynodeb o staff y GIG yn ôl grŵp staff a blwyddyn ar StatsCymru
Mae cyfanswm y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG (FTE) wedi cynyddu dros y tymor hir gyda mwy na chwarter (26.3%) yn fwy o staff ym mis Medi 2022 nag oedd ym mis Medi 2013.
Y cynnydd blynyddol mewn staff rhwng mis Medi 2021 a mis Medi 2022 oedd 3.1%. Mae hyn yn fwy na mewn blynyddoedd cyn y pandemig, ond yn is na'r cynnydd dros y ddwy flynedd blaenorol pan gafodd nifer uwch o staff dros dro eu recriwtio mewn ymateb i'r pandemig.
Mae cyfres amser o'r set ddata hon rhwng 1979 a 2008 hefyd wedi’i chyhoeddi yn StatsCymru.
Mae nifer y staff (FTE) yn y grwpiau staff unigol i’w weld yn Ffigur 2.
Ffigur 2: Nifer y staff (cyfwerth ag amser llawn) a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru ar 30 Medi, yn ôl grŵp staff, 2013 i 2022
Disgrifiad o Ffigur 2: Siartiau cyfres amser yn dangos cynnydd yn nifer y staff (FTE) ar gyfer staff meddygol a deintyddol; nyrsio; gwyddonol, technegol a therapiwtig; gweinyddu ac ystadau; ac ambiwlans. Mae grwpiau staff eraill wedi aros ar lefel debyg ar y cyfan.
Crynodeb o staff y GIG yn ôl grŵp staff a blwyddyn ar StatsCymru
[Nodyn 1] Yn cynnwys staff bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd.
[Nodyn 2] Rhai cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill, a staff anfeddygol eraill).
Roedd 9% o'r holl staff (FTE) ar 30 Medi 2022 yn staff meddygol a deintyddol. Mae tuedd tuag i fyny a chynnydd o 28.8% wedi bod ers 2013 ac mae nifer y staff yn y grŵp hwn wedi cynyddu bob blwyddyn ers 2014. Mae'r duedd tuag i fyny yn fwy amlwg dros y blynyddoedd diwethaf, gyda chynnydd o 17.1% rhwng mis Medi 2019 a mis Medi 2022.
Roedd 40% o'r holl staff (FTE) ar 30 Medi 2022 yn staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd, sef y grŵp staff mwyaf. Mae tuedd gyson tuag i fyny wedi bod yn y tymor hir, gyda nifer y staff wedi cynyddu 15.1% ers 2013. Parhaodd y duedd ym mis Medi 2022 pan oedd y cynnydd blynyddol yn nifer y staff yn 1.2%.
Roedd 17% o staff (FTE) ar 30 Medi 2022 yn staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol. Mae staff yn y grŵp hwn wedi cynyddu 37.5% ers 2013, a 6.0% ers 30 Medi 2021. Mae cynnydd o flwyddyn i flwyddyn wedi bod yn nifer y staff yn y grŵp hwn ers 2013.
Roedd 25% o staff (FTE) ar 30 Medi 2022 yn y grŵp gweinyddu ac ystadau. Mae staff gweinyddu ac ystadau wedi cynyddu 50.3% ers 2013, a 5.3% ers 30 Medi 2021. Mae niferoedd wedi cynyddu bob blwyddyn ers 2013 gyda chynnydd nodedig o 9.4% rhwng 2020 a 2021.
Roedd 3% o staff (FTE) ar 30 Medi 2022 yn staff ambiwlans. Mae staff ambiwlans wedi cynyddu 43.3% ers 2013, ond wedi gostwng 1.3% ers 30 Medi 2021. Bu cynnydd amlwg o 16.0% rhwng 2018 a 2019 (yn bennaf oherwydd newidiadau sylweddol i adran ambiwlans llawlyfr codau galwedigaethau’r GIG. Gweler yr adroddiad ansawdd i gael rhagor o wybodaeth).
Roedd 6% o staff (FTE) ar 30 Medi 2022 yn gynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill. Mae nifer y cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill wedi gostwng 4.7% ers 2013, a 0.5% ers 30 Medi 2021. Mae nifer y staff yn y grŵp hwn wedi amrywio ers 2013 ac effeithiwyd yn rhannol ar y nifer gan ailbennu codau rhai cynorthwywyr gofal iechyd yn gynorthwywyr nyrsio/nyrsys cynorthwyol. Gweler yr adroddiad ansawdd i gael rhagor o wybodaeth.
Roedd 126 o staff anfeddygol eraill (FTE) ar 30 Medi 2022. Mae nifer yr aelodau o staff yn y grŵp hwn wedi amrywio ond wedi aros yn weddol gyson ers 2013.
Mae myfyrwyr proffesiynau iechyd a staff a oedd wedi ymddeol yn ddiweddar a gafodd eu recriwtio i helpu yn ystod pandemig COVID-19 wedi'u cynnwys yn nifer y staff o 2020 ymlaen, ond ychydig iawn oedd yn dal i fod yn y swydd erbyn 30 Medi 2022.
Staff meddygol a deintyddol
Ffigur 3: Staff meddygol yn yr ysbyty (cyfwerth ag amser llawn) o 2013 i 2022
Disgrifiad o Ffigur 3: Siart linell cyfres amser yn dangos bod nifer y staff ysbytai (FTE) o bob gradd wedi cynyddu yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, gyda chynnydd amlwg ers 2019. Mae nifer yr ymgynghorwyr (FTE) hefyd wedi cynyddu ers 2013.
Staff meddygol a deintyddol y GIG yn ôl gradd a blwyddyn ar StatsCymru
Mae nifer y staff meddygol ysbytai (FTE), sy'n is-set o staff meddygol a deintyddol, wedi cynyddu 30.4% ers 2013, a 5.0% ers 30 Medi 2021, i 7,450 ar 30 Medi 2022.
Mae nifer yr ymgynghorwyr meddygol ysbytai (FTE) wedi cynyddu 23.8% ers 2013, a 2.2% ers 30 Medi 2021, i 2,759 ar 30 Medi 2022.
Mae cyfanswm staff deintyddol ysbytai (FTE) wedi aros yn agos i 160 ers 2013. Roedd 49 o ymgynghorwyr deintyddol ysbytai ar 30 Medi 2022 sydd hefyd wedi aros yn gyson ar y cyfan dros y degawd.
Staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd
Ffigur 4: Staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd (cyfwerth ag amser llawn) o 2013 i 2022
Disgrifiad o Ffigur 4: Siart linell cyfres amser yn dangos cynnydd yn nifer yr holl staff nyrsio (FTE), yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, gyda chynnydd amlwg ers 2019. Mae nifer y nyrsys cofrestredig wedi parhau i fod tua dwbl nifer y staff cymorth, gyda'r ddau grŵp yn cynyddu ar duedd hirdymor debyg.
Staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd, yn ôl gradd a maes gwaith ar StatsCymru
Mae nifer y staff nyrsio a bydwreigiaeth cofrestredig (FTE) wedi cynyddu 2,289 (10.4%) ers 2013 a 324 (1.4%) ers 30 Medi 2021, i 24,294 ar 30 Medi 2022.
Mae nifer y staff cymorth nyrsio (FTE) wedi cynyddu 2,458 (26.3%) ers 2013 a 101 (0.9%) ers 30 Medi 2021, i 11,819 ar 30 Medi 2022.
Nyrsys ardal
Gall staff sydd wedi'u cofrestru â'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) ymgymryd ag astudiaethau pellach mewn ystod o rolau ymarferwyr arbenigol a rolau eraill. Mae Ffigur 5 yn dangos nifer y staff sydd â’r cymhwyster Ymarferydd Arbenigol: Nyrs Ardal (SP:DN). Drwy’r cysylltiad rhwng yr NMC a’r Cofnod Staff Electronig mae'n bosibl gweld faint o nyrsys ardal (a staff eraill) sydd â'r cymhwyster SP:DN.
Ffigur 5: Nyrsys ardal (cyfrif pennau) gyda'r cymhwyster Ymarferydd Arbenigol Nyrs Ardal (SP:DN) ar 30 Medi 2022, yn ôl bwrdd iechyd lleol
Disgrifiad o Ffigur 5: Siart far yn dangos bod canran y staff sy'n cael eu codio fel nyrsys ardal sydd â'r cymhwyster SP:DN ychwanegol yn amrywio rhwng byrddau iechyd o 14% yng Nghaerdydd a'r Fro i 85% ym Mhowys.
Ledled Cymru, roedd 693 o staff wedi’u codio fel nyrsys ardal ac roedd 306 (neu 44%) o'r rhain â'r cymhwyster SP:DN ychwanegol ar 30 Medi 2022. Fodd bynnag, roedd hyn yn amrywio'n eang rhwng ardaloedd byrddau iechyd lleol gyda dim ond 1 o bob 7 aelod o staff wedi’u codi fel nyrsys ardal yng Nghaerdydd a'r Fro a oedd hefyd â’r cymhwyster, yn ôl eu cofnodion, o gymharu â 6 o bob 7 ym Mhowys.
Figure 6: Staff nyrsio gyda'r cymhwyster Ymarferydd Arbenigol Nyrs Ardal (SP:DN) ar 30 Medi 2022, yn ôl galwedigaeth
Disgrifiad o Ffigur 6: Siart gylch yn dangos bod hanner y staff nyrsio â’r cymhwyster SP:DN wedi’u cofnodi fel 'nyrsys lefel gyntaf eraill', tra mae ychydig dros ddau o bob tri wedi’u cofnodi fel nyrsys ardal ac 8% fel rheolwyr.
[Noder 1] Nyrsys cofrestredig nad ydynt wedi’u codio i gategorïau nyrsio penodol fel nyrsys ardal, ymwelwyr iechyd, nyrsys iechyd meddwl cymunedol neu nyrsys anabledd dysgu.
[Nodyn 2] Yn cynnwys ymwelwyr iechyd, bydwragedd, a staff nyrsio eraill nad ydynt wedi'u codio fel nyrsys ardal.
Ledled Cymru, roedd 810 o staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd â’r cymhwyster SP:DN ychwanegol ar 30 Medi 2022. Fodd bynnag, nid oedd y mwyafrif o'r staff â'r cymhwyster hwn wedi’u cofnodi fel nyrsys ardal. Roedd 50% wedi’u cofnodi fel 'nyrsys lefel 1af eraill', tra oedd 8% yn rheolwyr a 4% yn nyrsys eraill. Roedd gan 11 aelod arall o staff nad oeddent yn nyrsys y cymhwyster SP:DN.
Er na fyddai'n anarferol i aelod o staff fod â’r cymhwyster SP:DN a gweithio mewn rôl nyrsio nad yw'n rôl nyrs ardal, mae'r data'n awgrymu y gallai fod anghysondeb o ran y ffordd y mae nyrsys ardal yn cael eu cofnodi ar draws yr holl fyrddau iechyd.
Nodweddion staff
Am y tro cyntaf, mae'r datganiad hwn yn cynnwys dadansoddiadau o nodweddion staff GIG Cymru. Caiff data ar gyfer yr holl staff, ac yn ôl grwpiau staff dethol, eu cyflwyno ar rywedd, band oedran, anabledd, cenedligrwydd ac ethnigrwydd. Mae data ar gyfer sefydliadau unigol ar gael yn StatsCymru.
Mae ystadegau nodweddion staff yn seiliedig ar gofnodion lle cofnodwyd statws hysbys, ac felly maent yn arwydd o sut nodweddion sydd gan staff y GIG yng Nghymru. Mae canran y cofnodion lle nad oedd nodweddion wedi’u datgan a chofnodion coll wedi'u cynnwys gyda phob adran, gan ddangos lefel yr ansicrwydd gyda'r ystadegau hyn. Os oes gan y staff sydd â data coll broffil nodweddion systemig wahanol i'r rhai â statws hysbys, byddai'r ystadegau hyn yn newid.
Mae data ar gyfer Ffigurau 7 i 14 wedi’u talgrynnu i'r ganran agosaf.
Ffigur 7: Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru ar 30 Medi 2022, yn ôl rhyw a grŵp staff
Disgrifiad o Ffigur 7: Siart far bentyrrog yn dangos bod y mwyafrif o staff yn fenywaidd yn y rhan fwyaf o grwpiau staff (gan gynnwys nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd; staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol; staff gweinyddu ac ystadau; a staff eraill). Mae canran uwch o staff ambiwlans a staff meddygol a deintyddol yn staff gwrywaidd.
Canran staff y GIG yn ôl sefydliad, grŵp staff a rhywedd ar StatsCymru
[Nodyn 1] Doedd dim cofnodion â data rhywedd coll.
[Nodyn 2] Yn cynnwys rhai cynorthwywyr gofal iechyd, ynghyd â staff cymorth eraill a staff anfeddygol eraill.
Ar 30 Medi 2022, roedd 77% o holl staff y GIG yng Nghymru yn fenywaidd, a 23% yn wrywaidd. Y rheswm dros hyn i raddau helaeth yw oherwydd staff y grŵp nyrsio, lle’r oedd bron i 9 o bob 10 aelod o staff yn fenywaidd, a nyrsys yw 40% o'r holl staff.
Yr unig grwpiau staff lle’r oedd mwy o staff gwrywaidd na staff benywaidd oedd staff ambiwlans (61%) a staff meddygol a deintyddol (54%).
Roedd tri chwarter neu fwy o'r staff yn y grwpiau staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol, a staff gweinyddu ac ystadau yn fenywaidd (77% a 75% yn y drefn honno).
Ffigur 8: Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru ar 30 Medi 2022, yn ôl band oedran [nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 8: Siart golofn yn dangos bod canran y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru yn weddol gyfartal rhwng bandiau oedran pum mlynedd. Roedd llai o staff yn y bandiau oedran ieuengaf a hynaf.
Canran staff y GIG yn ôl sefydliad, grŵp staff a band oedran ar StatsCymru
[Nodyn 1] Doedd dim cofnodion â data bandiau oedran coll.
Roedd dosbarthiad eithaf cyfartal o staff rhwng y mwyafrif o fandiau oedran gweithio ar 30 Medi 2022. Roedd bron i 8 o bob 10 aelod o staff rhwng 21 a 55 oed, a llai na 2% yn 66 oed neu'n hŷn.
Ffigur 9: Staff meddygol a deintyddol ar 30 Medi 2022, yn ôl band oedran [nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 9: Siart golofn yn dangos bod cyfran uchel o staff meddygol a deintyddol mewn grwpiau oedran iau. Bandiau oedran 26 i 30 a 31 i 35 oedd y bandiau oedran mwyaf cyffredin. Roedd canran y staff yn gostwng yn fras wrth i'r band oedran gynyddu.
Canran staff y GIG yn ôl sefydliad, grŵp staff a band oedran ar StatsCymru
[Nodyn 1] Doedd dim cofnodion â data bandiau oedran coll.
Roedd cyfran uwch o staff meddygol a deintyddol yn y bandiau oedran iau o gymharu â holl staff y GIG ar 30 Medi 2022. Roedd bron i hanner y staff meddygol a deintyddol rhwng 26 a 40 oed, a llai nag 1 o bob 20 aelod o staff dros 60 oed.
Ffigur 10: Staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd ar 30 Medi 2022, yn ôl band oedran
Disgrifiad o Ffigur 10: Siart golofn yn dangos dosbarthiad eithaf cyfartal o ganran y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd rhwng bandiau oedran pum mlynedd. Roedd llai o staff yn y bandiau oedran ieuengaf a hynaf.
Canran staff y GIG yn ôl sefydliad, grŵp staff a band oedran ar StatsCymru
[Nodyn 1] Doedd dim cofnodion â data bandiau oedran coll.
Roedd dosbarthiad staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd yn ôl oedran yn debyg i'r dosbarthiad ar gyfer holl staff y GIG ar 30 Medi 2022. Roedd 8 o bob 10 aelod o staff rhwng 21 a 55 oed a llai nag 1.5% o staff yn 66 oed neu'n hŷn.
Ffigur 11: Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru ar 30 Medi 2022, yn ôl anabledd [nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 11: Siart far bentyrrog yn dangos bod canran y staff ag anabledd wedi’i gofnodi yn debyg ar gyfer pob grŵp staff.
Canran staff y GIG yn ôl sefydliad, grŵp staff ac anabledd ar StatsCymru
[Nodyn 1] Mae statws anabledd 25% o gofnodion yn anhysbys.
[Nodyn 2] Yn cynnwys rhai cynorthwywyr gofal iechyd, ynghyd â staff cymorth eraill a staff anfeddygol eraill.
O'r holl staff â statws anabledd hysbys, nid oedd gan 95% anabledd, tra oedd gan 5% anabledd, ar 30 Medi 2022. Ychydig o amrywiad oedd yna ar draws grwpiau staff gyda'r gyfran ag anabledd yn amrywio o 2% ar gyfer staff meddygol a deintyddol i 7% ar gyfer staff ambiwlans.
Ffigur 12: Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru ar 30 Medi 2022, yn ôl cenedligrwydd [nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 12: Siart gylch yn dangos bod mwyafrif helaeth y staff wedi cofnodi'r DU fel eu cenedligrwydd. O'r staff nad oeddent wedi’u cofnodi fel gwladolion y DU, roedd mwy o staff o genedligrwydd arall heblaw am yr UE na staff o’r UE.
Canran staff y GIG yn ôl sefydliad, grŵp staff a chenedligrwydd ar StatsCymru
[Nodyn 1] Roedd gan 15% o gofnodion ddata cenedligrwydd coll neu genedligrwydd heb ei ddatgelu.
O'r holl staff â data hysbys, roedd gan 93% genedligrwydd y DU, 5% genedligrwydd nad oedd yn genedligrwydd yr UE, a 2% genedligrwydd yr UE a'r AEE ar 30 Medi 2022.
Mae data yn ôl grŵp staff ar gael yn StatsCymru ac maent yn dangos bod gan y grŵp staff meddygol a deintyddol fwy o amrywiad na'r grwpiau staff eraill. Roedd gan ddau o bob tri staff meddygol a deintyddol â data hysbys genedligrwydd y DU, dros chwarter genedligrwydd nad oedd yn genedligrwydd yr UE a 7% genedligrwydd yr UE a'r AEE.
O'r grwpiau staff eraill, roedd 99% o staff ambiwlans wedi’u cofnodi fel gwladolion y DU (yr uchaf o unrhyw grŵp), tra oedd 92% o staff nyrsio yn wladolion y DU (yr isaf o'r grwpiau staff anfeddygol a deintyddol).
Ffigur 13: Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru ar 30 Medi 2022, yn ôl ethnigrwydd [nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 13: Siart far yn dangos bod mwyafrif helaeth y staff wedi’u cofnodi mewn grwpiau ethnig gwyn. Y grŵp ethnig uchaf nesaf oedd Asiaidd/Asiaidd Prydeinig, tra oedd 1% o staff yn y grwpiau ethnig eraill i gyd (unrhyw grŵp ethnig du; cymysg; a grwpiau ethnig eraill).
Canran staff y GIG yn ôl sefydliad, grŵp staff ac ethnigrwydd ar StatsCymru
[Nodyn 1] Roedd gan 12% o gofnodion ddata ethnigrwydd coll neu ethnigrwydd heb ei ddatgelu.
O'r holl staff â grŵp ethnig hysbys, roedd dros 9 o bob 10 mewn grwpiau ethnig gwyn. Roedd 1 o bob 20 yn y grŵp ethnig Asiaidd/Asiaidd Prydeinig, tra oedd 1 o bob 100 yn y grwpiau ethnig: unrhyw grŵp ethnig du; cymysg; a grwpiau ethnig eraill.
Ffigur 14: Staff meddygol a deintyddol ar 30 Medi 2022, yn ôl ethnigrwydd
Disgrifiad o Ffigur 14: Siart far yn dangos bod dosbarthiad grwpiau ethnig ar gyfer staff meddygol a deintyddol yng Nghymru yn wahanol i ddosbarthiad holl staff y GIG. Er bod mwyafrif helaeth y staff wedi’u cofnodi mewn grwpiau ethnig gwyn, mae canran uwch o staff ym mhob grŵp ethnig arall.
[Nodyn 1] Roedd gan 35% o staff meddygol a deintyddol ddata ethnigrwydd coll.
Roedd gan staff meddygol a deintyddol fwy o amrywiad o ran grwpiau ethnig na'r grwpiau staff eraill ar 30 Medi 2022. Roedd 6 o bob 10 aelod o staff mewn unrhyw grŵp ethnig gwyn, tra oedd bron i 3 o bob 10 aelod o staff mewn unrhyw grŵp ethnig Asiaidd.
Roedd cyfran unrhyw grŵp ethnig du, grŵp ethnig cymysg a grwpiau ethnig eraill i gyd yn uwch nag mewn unrhyw grŵp staff arall.
Mae canran y staff sydd wedi’u cofnodi ym mhob grŵp ethnig ar gyfer yr holl grwpiau staff eraill yn debyg i'w gilydd ar y cyfan ac ar gael yn StatsCymru.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Bethan Sherwood
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 15/2023