Ers i Storm Dennis daro Cymru ym mis Chwefror 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £194m i helpu gyda'r perygl o lifogydd.
Mae hyn yn cynnwys dros £13m i Awdurdodau Lleol helpu i leihau'r risg o lifogydd ar gyfer dros 6,500 eiddo.
Mae hefyd yn cynnwys dros £9.3m mewn cyllid brys sydd wedi'i ddarparu i Gyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdodau Lleol i drwsio seilwaith llifogydd critigol.
Yn ogystal â hyn, fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i'w rhaglen lifogydd fwyaf erioed.
Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol gwerth dros £214 miliwn dros dair blynedd.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
"Rydyn ni’n gwybod y bydd newid hinsawdd yn gwneud tywydd eithafol yn fwy tebygol a rydym yn rhagweld y bydd yn gwneud iddi lawio mwy a glawio’n drymach yng Nghymru.
"Yn ystod tymor y Senedd hon, byddwn yn parhau i fuddsoddi'n helaeth mewn rheoli ac amddiffyn rhag llifogydd er mwyn gwneud ein cymunedau, ein heconomi a'n hamgylchedd yn fwy gwydn."