Rebecca Evans, AS y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae adran 77 o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 yn gosod rhwymedigaeth statudol ar Weinidogion Cymru. Gofynnir iddynt wneud trefniadau ar gyfer adolygiad annibynnol o dreth trafodiadau tir o fewn 6 blynedd i’r dyddiad y daeth adran 77 i rym – gyda dyddiad cau o 24 Mai 2023.
Yn dilyn proses dendro agored, penodwyd Alma Economics ym mis Mawrth 2022 i gynnal yr adolygiad annibynnol. Bellach, mae’r adolygiad wedi dod i ben, ac mae ei adroddiad yn cael ei gyhoeddi heddiw, 15 Chwefror 2023. Canolbwyntiodd gwmpas yr adolygiad ar newidiadau sylweddol a wnaed i’r ddeddfwriaeth o gymharu â’r dreth flaenorol (treth dir y dreth stamp) er mwyn sicrhau bod y newidiadau hynny’n briodol i Gymru, ac yn dal i fod. Roedd yn cynnwys y canlynol:
- Y newidiadau a wnaed i’r Dreth Trafodiadau Tir (o gymharu â threth dir y dreth stamp) ac a ydynt wedi cyflawni gwelliannau
- A yw’r newidiadau’n gwneud y ddeddfwriaeth yn fwy priodol i Gymru ai peidio
- Nodi cyfleoedd i wneud gwelliannau
- Ystyried materion ymarferol o ran gweithredu
- Effaith absenoldeb y rhyddhad i brynwyr tro cyntaf yng Nghymru ar fynediad at berchnogaeth tai
Mae’r adroddiad llawn a’r crynodeb gweithredol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru - Adolygiad annibynnol: Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017. Bydd y casgliadau a’r argymhellion yn yr adroddiad yn llywio datblygiad y Dreth Trafodiadau Tir yn y dyfodol.