Adroddiad sy'n cynnwys gwybodaeth am danau, lleoliad, achosion, cymhelliad, anafiadau a galwadau ffug a fynychwyd ar gyfer Ebrill i Fedi 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ystadegau achosion tân ac achub
Gwybodaeth am y gyfres:
Mae’r dadansoddiad isod yn ymwneud â’r cyfnodau 1 Ebrill i 30 Medi 2022 o gymharu â’r un cyfnod y flwyddyn flaenorol, yr olaf oedd yn destun rhai cyfyngiadau oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19).
Prif bwyntiau
Tanau
- Ymatebodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru i 7,409 o danau yn y cyfnod hwn, cynnydd o 24%.
- Roedd 2,142 o brif danau yng Nghymru, cynnydd o 4%.
- Roedd 5,196 o danau eilaidd yng Nghymru, cynnydd o 35%. Gan fod canran fawr o’r tannau eilaidd yma yn digwydd y tu allan, mae’n debygol fod y tywydd yn dylanwadu arnynt.
- Gwelwyd cynnyd mawr yn y nifer o danau eilaidd ym mis Gorffennaf ac Awst 2022 o’u cymharu â’r un misoedd yn 2021. Cynyddod y niferoedd o 86% i 992 ym mis Gorffennaf a niferoedd ym mis Awst wedi mwy na treblu i 1,230. Roedd hyn yn ystod cyfnod ag ambell dymheredd eithriadol o uchel wedi’u cofnodi (Met Office).
- Roedd 2,339 o danau glaswelltir, coetir a chnydau yn y cyfnod hwn, cynnydd o 48%.
Anafusion
- Roedd 5 o farwolaethau tân yng Nghymru, 7 yn llai na adroddwyd yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.
- Roedd 74 o anafiadau yn y cyfnod hwn, 5 yn fwy na yn y flwyddyn flaenorol.
- Derbyniodd 138 pellach gymorth cyntaf, neu fe’u hanfonwyd i ysbyty am brofion rhagofalus neu fe’u cynghorwyd i ofyn am gyngor meddygol. Mae hyn 37 yn llai na’r nifer yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.
Galwadau ffug
- Roedd 8,293 o ffug alwadau tân yng Nghymru, 7% yn fwy nag a adroddwyd yn yr un cyfnod y flwyddyn flaenorol.
- Roedd 255 o alwadau ffug maleisus, 35% yn fwy nag yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.