Daeth yr ymgynghoriad i ben 28 Ebrill 2023.
Crynodeb o’r canlyniad
Yn dilyn ein cynigion a’n cais i gael barn ar fframwaith Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) yn gwneud cais i ddod yn God Ymddygiad cymeradwy gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) o dan ddarpariaethau erthygl 40 o Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU, rydym bellach wedi cyhoeddi adroddiad ar yr ymatebion a gawsom i'r ymgynghoriad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym eisiau eich barn ar y cynnig i fframwaith WASPI gyflwyno cais i ddod yn God Ymddygiad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) cymeradwy o dan ddarpariaethau erthygl 40 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad yn nodi’r canlynol:
- strwythur llywodraethu arfaethedig Cod Ymddygiad WASPI
- y safonau monitro a sicrwydd a fyddai'n gysylltiedig â'r cod
- y buddion a'r trefniadau adrodd sy'n gysylltiedig ag aelodaeth â’r cod