Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad ar reolau drafft sy’n nodi sut y dylid cynnal etholiadau os yw prif gyngor yn penderfynu ei fod yn dymuno defnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy (system STV).
Rhoddodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yr opsiwn i brif gynghorau yng Nghymru ddewis rhwng system ‘y cyntaf i’r felin’ a system STV ar gyfer cynnal etholiadau i brif gynghorau. Mae’r un Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod yna reolau ar gyfer cynnal etholiad i brif gyngor gan ddefnyddio system STV.
Bydd y 22 o brif gynghorau yng Nghymru i gyd yn parhau i ddefnyddio’r system ‘y cyntaf i’r felin’ oni bai eu bod yn penderfynu newid yn unol â’r weithdrefn a nodir yn Neddf 2021. Byddai angen i’r cyngor o dan sylw basio cynnig cyn 15 Tachwedd yn y flwyddyn sydd dair blynedd cyn y disgwylir cynnal yr etholiad cyffredin nesaf. I newid y system ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol nesaf yn 2027, byddai angen i hyn ddigwydd cyn 15 Tachwedd 2024.
Mae Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 yn pennu sut mae’n rhaid cynnal etholiadau i brif gynghorau. Ar hyn o bryd, nid ydynt yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnal etholiadau pan ddefnyddir system STV. I fynd i’r afael â hyn, ac er mwyn cefnogi cynghorau i wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â newid y system bleidleisio maen nhw’n ei defnyddio, rydym wedi llunio rheolau drafft, sef Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023, sy’n nodi sut y byddai etholiad llywodraeth leol yn gweithredu gan ddefnyddio system STV.
Bydd yr ymgynghoriad yn para am gyfnod o wyth wythnos yn dechrau ar 10 Chwefror, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed gan bartïon â diddordeb cyn gwneud y rheolau hyn yn ffurfiol.