Mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru wedi annog Prif Ysgrifennydd y Trysorlys i ddefnyddio cyllideb y Gwanwyn fis nesaf i ddarparu’r cymorth angenrheidiol i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus ac ymateb i bwysau chwyddiant, cyflogau a chostau.
Mewn cyfarfod rhwng Gweinidogion Cyllid o wledydd y Deyrnas Unedig yng Nghaeredin yn gynharach heddiw, galwodd y Gweinidog ar Lywodraeth y DU i fuddsoddi mwy mewn iechyd a gofal cymdeithasol i helpu’r sectorau i ymateb i’r pwysau sylweddol sydd arnynt ac i wneud diwygiadau ehangach.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
“Yn y cyfarfod heddiw dywedais wrth y Prif Ysgrifennydd nad yw’r cyllid ychwanegol a gafodd ei gyhoeddi gan y Canghellor yn yr hydref yn ddigonol i ddelio ag effaith chwyddiant a’r pwysau sydd arnom. Mae ein setliad 3 blynedd yn dal i fod yn werth hyd at £3 biliwn yn llai mewn termau real na phan gafodd y cyllid ei gyhoeddi yn 2021.
“Gwnaethom hefyd drafod yr effaith y mae penderfyniadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig am gyllid yn lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd wedi’i chael ar Gymru. Rwy’n ceisio sicrhau ymrwymiad brys i unioni’r £1.1 biliwn o gyllid yr ydym wedi’i golli oherwydd trefniadau cyllido ar ôl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Rwyf hefyd wedi galw eto am rôl briodol inni mewn penderfyniadau. Ni ddylai’r cyfrifoldeb dros gymeradwyo prosiectau cyfalaf yng Nghymru fod yn nwylo’r Adran Ffyniant Bro neu’r Trysorlys yn unig. Pan ddaw hi at wariant yng Nghymru mewn meysydd sydd wedi’u datganoli, mae’n glir y dylai fod gan Weinidogion Cymru rôl.
“Yn olaf, o ystyried maint yr elw a wnaed gan gwmnïau cynhyrchu ynni, fel Shell a BP, rhoddais bwysau ar y Prif Ysgrifennydd i sicrhau bod trefniadau rhyddhad trethi presennol yn cyflawni’r dibenion y bwriadwyd iddynt eu cyflawni. Rhaid cau unrhyw fylchau fel y bydd y swm priodol yn cael ei adfer drwy drethi ffawdelw i gefnogi’r rhai sy’n ei chael yn anodd ymdopi â chostau ynni.”