Yn y canllaw hwn
11. Costau Byw
Os ydych chi'n poeni am reoli'ch arian, gan gynnwys eich taliadau Morgais Ecwiti, efallai y bydd yn ymddangos yn haws ei anwybyddu, ond peidiwch â gwneud hynny.
Beth yw eich opsiynau
Mae yna nifer o opsiynau ar gael a allai eich helpu. Mae'n bwysig eich bod yn gwybod beth yw'r opsiynau hyn ond hefyd sut y gallent effeithio arnoch chi yn y dyfodol.
Byddwch yn onest
Byddwch yn onest am eich sefyllfa, gan gynnwys dweud wrthym am unrhyw wybodaeth gefndir a allai ein helpu i ddod o hyd i'r opsiwn gorau i chi.
Os gallech fethu taliadau oherwydd trafferthion gydag arian, cysylltwch â ni a gallwn weithio ar gynllun gweithredu addas.
Taliadau ar goll
Mae'n bwysig dweud wrthym os ydych yn mynd i fethu taliad oherwydd bydd angen i chi dalu hwn yn ôl pan fyddwch yn dod i ad-dalu'ch Morgais Ecwiti.
Os byddwch yn gwneud trefniant gyda'ch benthyciwr morgais, rhowch wybod i ni fel y gallwn geisio eich helpu.
Gallai gwneud dim byd wneud pethau'n waeth
Mae’n bosibl y cymerir camau yn eich erbyn am fethu taliadau, a gallech yn y pen draw dalu mwy mewn llog a thaliadau.
Gallai taliadau a fethwyd effeithio ar eich statws credyd, gan ei gwneud yn anoddach i chi gael credyd yn y dyfodol.
Gweithiwch allan faint rydych chi'n ei wario
Bydd creu cofnod misol o’ch gwariant, beth sy’n dod i mewn a beth sy’n mynd allan, yn rhoi cipolwg i chi ar yr hyn y gallech fod yn gwario gormod arno neu ar yr hyn y gallech ei gwtogi.
Nodwch eich dyledion blaenoriaeth fel morgeisi, treth gyngor, neu nwy neu drydan, a rhowch nhw yn gyntaf i ddelio â nhw fel y mae
dyledion brys.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni a gall un o'n cynghorwyr arbenigol esbonio'ch opsiynau a'ch cynlluniau.
Ffôn: 08000 937 937
(Dydd Llun i ddydd Gwener 9yb i 5yp) Opsiwn 3
Ffacs: 029 2080 3451
E-bost: casgliadau@cymorthibrynucymru.co.uk
Sefydliadau eraill a allai helpu
StepChange mae nhw’n darparu cyngor am ddim ar ddyledion, i'ch helpu i ddelio â'ch dyled a sefydlu datrysiad.
Ffôn: 0800 138 1111
Cyngor ac arweiniad ariannol cyffredinol
Cyngor ar Bopeth mae’n nhw’n rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud y dewisiadau cywir, gan gynnwys help i ddelio â’ch problemau dyledion.
Ffôn: 0300 330 1313
MoneyHelper mae’n nhw’n helpu cannoedd o filoedd o bobl â phryderon tebyg bob blwyddyn. Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i ddatrys eich anawsterau.
Ffôn: 0800 138 7777