Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r pwysau brys cynyddol ar y GIG, sydd wedi bod mor amlwg dros fisoedd y gaeaf, wedi cael eu gwaethygu gan sawl ffactor, gan gynnwys y cynnydd sydyn yn nifer yr achosion o amrywiaeth o feirysau anadlol ar yr un pryd, gan gynnwys COVID-19, ffliw a'r dwymyn goch.

Ond mae heriau allanol megis canlyniadau parhaus Brexit, yr argyfwng costau byw a'r rhyfel yn Wcráin hefyd yn effeithio ar ein gwasanaethau iechyd a gofal.

Rwyf wedi sôn yn ddiweddar am yr angen am flaenoriaethau clir – mae’r datganiad hwn yn tynnu sylw at y blaenoriaethau a osodwyd gennyf ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Byddant yn helpu i fynd i’r afael â’r pwysau y mae angen eu trin ar unwaith, ac yn helpu i ddatblygu gwasanaeth iechyd a gofal cynaliadwy dros y flwyddyn nesaf.

Mae’n bwysig bod pobl yn chwarae eu rhan i helpu’r GIG drwy ofalu am eu hiechyd a’u llesiant eu hunain, a thrwy gymryd camau i gadw’n iach. Rwyf am barhau’r sgwrs hon â’r cyhoedd fel y gallwn gydweithio i feithrin poblogaeth fwy iach, lleihau’r pwysau ar wasanaethau acíwt y GIG a gwella canlyniadau yn y tymor hwy.

Mae’r amgylchiadau presennol yn golygu bod angen targedu blaenoriaethau at yr heriau a wynebir gennym. Mae Fframwaith Cynllunio’r GIG 2023-26 yn nodi’r gofynion cyffredinol a fydd yn sylfaen i gynlluniau’r GIG yn y dyfodol, gan gynnwys pwysigrwydd rhoi ansawdd, diogelwch, atal a chanlyniadau iechyd da wrth wraidd y GIG yng Nghymru.

Rhaid inni barhau i ganolbwyntio ar iechyd poblogaethau ac atal fel y llwybr tuag at iechyd a llesiant gwell, ac at gynaliadwyedd yn y tymor hwy. Rhaid sicrhau bod lleihau annhegwch a gwella ansawdd, diogelwch a phrofiad pobl y mae angen gwasanaethau iechyd arnynt yn sbardun bob amser i'r gwaith o gynllunio gwasanaethau a'u darparu. Rhaid plannu'r gwelliannau yn ddwfn yn y GIG yng Nghymru drwy ddarparu gwasanaethau mewn modd effeithlon ac effeithiol, ac yn y ffordd orau bosibl.

Mae'n hollbwysig bod y GIG yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau hyn fel y gellir defnyddio adnoddau a chapasiti er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl ym mhob cwr o Gymru.

Bydd aelodau’n gwybod yn iawn fod eiddilwch yn ysgogi’r galw am ofal iechyd, yn benodol gofal brys mewn argyfwng a gofal cymdeithasol. Pan fydd ymyriadau clinigol wedi eu cwblhau, dylai fod modd i bobl ddychwelyd i’r gymuned, a rhaid sicrhau bod gwasanaethau ar gael mewn modd integredig er mwyn hwyluso hynny. Dyna’r rheswm, yn ystod y flwyddyn galendr hon, fy mod yn blaenoriaethu gwaith i sicrhau bod pobl sy’n profi eiddilwch yn gallu treulio mwy o ddiwrnodau iach yn y cartref.

Rhaid mynd i’r afael â hyn drwy bartneriaeth gyfartal rhwng y GIG a sefydliadau gofal cymdeithasol, a rhaid canolbwyntio ar sicrhau bod pobl yn cael safon gyson o ofal yn y gymuned ledled Cymru. Drwy weithredu yn y ffordd hon, gyda chymorth arferion casglu data gwell, gellir sicrhau sail well ar gyfer cymorth â ffocws. Y nod wrth ddatblygu cynllun ar gyfer y gwaith hwn gyda sefydliadau a phartneriaid allweddol eraill yw sicrhau bod rhanbarthau a lleoliadau yn gweithio tuag at y fanyleb gwasanaeth genedlaethol a’r model cenedlaethol ar gyfer y gweithlu ymhell cyn y gaeaf nesaf, a gwneud yn siŵr bod dull o nodi’r effaith gymharol ar waith.   

Blaenoriaethau

  • Mae'n hanfodol meithrin cydberthynas agosach rhwng y GIG a llywodraeth leol er mwyn mynd i'r afael ag achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal, a gwneud ymgais i symud ymhellach a darparu gwasanaeth gofal integredig yn y gymuned yng Nghymru. Mae gwaith yn mynd rhagddo ym mhob rhan o'r meysydd iechyd a gofal cymdeithasol i gyflwyno'r fframwaith Adrodd ar Lwybrau Gofal ar gyfer achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn 2023. Bydd disgwyl i fyrddau iechyd ddefnyddio'r fframwaith hwn i fonitro cynnydd o ran rhyddhau cleifion yn ddiogel ac yn amserol. Rhaid i bob sefydliad ddarparu gofal yn nes at y cartref. Dylai'r pwyslais fod ar wneud y pethau iawn i gefnogi pobl, er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gofal sydd ei angen arnynt yn y cartref.
     
  • Sicrhau bod gwasanaethau ymarfer cyffredinol, deintyddiaeth, optometreg a fferylliaeth ar gael yn haws Bydd hyn yn cynnwys rhagnodi annibynnol a mwy o hunanatgyfeirio at ystod ehangach o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn y gymuned, gan gynnwys gwasanaethau adsefydlu, iechyd meddwl ac awdioleg.
  • Rhaid sicrhau bod gofal brys a gofal mewn argyfwng yn canolbwyntio ar reoli pobl ag anghenion gofal brys yn y gymuned yn effeithiol 24/7, ac yn helpu rhagor o bobl i fanteisio'n ddiogel ar ddewisiadau eraill yn lle gofal yn yr ysbyty, er enghraifft drwy wasanaethau gofal brys yr un diwrnod saith diwrnod yr wythnos yn ogystal â modelau iechyd integredig ac ymateb cymunedol ar gyfer gofal cymdeithasol. Rhaid i fyrddau iechyd weithio gyda phartneriaid i leihau'n sylweddol yr amser y mae cleifion yn ei dreulio yn aros mewn ambiwlansys y tu allan i adrannau brys.
  • Caiff gofal ac adfer wedi'u cynllunio eu harwain bellach gan y Rhaglen Adfer Genedlaethol, a fydd yn pennu gofynion penodol i fyrddau iechyd. Rhaid rhoi blaenoriaeth i fodloni'r gofynion hyn. Dylai canolfannau diagnostig a chanolfannau triniaeth rhanbarthol gael lle blaenllaw yng nghynlluniau sefydliadau. Rhaid i hyn gynnwys camau gweithredu i symud gwasanaethau, y gweithlu a chyllid o ysbytai i'r gymuned er mwyn sicrhau mai ond os yw hynny’n iawn iddyn nhw y bydd angen i bobl fynd i'r ysbyty. Rhaid i sefydliadau ddangos sut y byddant yn cynyddu'n sylweddol nifer y cleifion sy'n ymgymryd â phroses rhagsefydlu. Rhaid sicrhau bod gwelliannau i wasanaethau diagnosteg yn arwain at ostyngiad yn nifer y bobl sy'n aros am brofion diagnostig i lefelau cyn y pandemig o leiaf, gan gynnwys ar gyfer diagnosis iechyd meddwl.
  • Rhaid sicrhau bod gwasanaethau canser yn cyflawni'r datganiad ansawdd ar ganser ac yn lleihau'r ôl-groniad o gleifion sy'n aros yn rhy hir ar y llwybr canser. Rhaid i fyrddau iechyd roi blaenoriaeth i gyrraedd y safonau gofynnol.
  • Rhaid sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed (CAMHS) yn gwella gwasanaethau i bobl o bob oed ac yn darparu tegwch a chydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Rhaid i fyrddau iechyd gynllunio i ehangu cymorth haen 0/1 er mwyn sicrhau bod cymorth ar lefel y boblogaeth ar gyfer materion iechyd meddwl lefel is ar gael yn hawdd, yn ogystal â gwella gwasanaethau ym mhob rhan o CAMHS, gwasanaethau oedolion ac oedolion hŷn, a gweithredu gwasanaeth ‘pwyswch 2’ 111 ar gyfer cymorth iechyd meddwl brys. Mae angen ad-drefnu gwasanaethau anhwylderau bwyta er mwyn targedu ymyriad cynharach a sicrhau nad oes neb yn aros dros bedair wythnos am fynediad rheolaidd at wasanaethau anhwylderau bwyta. Dylid hefyd gynnwys gwella gwasanaethau asesu'r cof er mwyn sicrhau diagnosis a thriniaeth amserol. Mae angen gwella mynediad at ystod lawn o wasanaethau iechyd meddwl a llesiant i bobl o bob oed, yn enwedig i blant a phobl ifanc, gan wella cymorth ataliol i oedolion a phlant a chan osgoi defnyddio dull meddygol o ymdrin â gwasanaethau iechyd meddwl lle bo hynny'n briodol.

Swyddogaethau Ategol Craidd

Rhaid sicrhau bod dulliau digidol, arloesi, technoleg a thrawsnewid wrth wraidd y gwaith o ddarparu'r gofal a'r gwasanaethau gorau posibl i gleifion, ar y cyd â llesiant, y gweithlu ac arferion rheoli ariannol cadarn.

Mae'n bwysig bod y GIG yn canolbwyntio ar ffyrdd o ddefnyddio'r gweithlu presennol a gweithlu'r dyfodol mor effeithiol â phosibl. Mae hyn yn cynnwys gwella'r defnydd o waith tîm amlddisgyblaethol, ailgynllunio rolau, datblygu rolau newydd, a modelau ymarfer uwch, gan roi cyfle i bobl ddatblygu eu gyrfaoedd a gweithio ar frig eu trwydded.

Mae'r rhagolygon economaidd ac ariannol yn heriol iawn. Mae gwerth cyffredinol cyllideb Llywodraeth Cymru wedi gostwng £3 biliwn mewn termau real dros y cyfnod adolygu gwariant presennol. Felly, mae ffocws o'r newydd ar leihau costau a gwella gwerth yn y GIG yn hanfodol i sicrhau bod gwasanaethau'n gynaliadwy yn barhaus.

Mae gwaith cynllunio ariannol cadarn, wedi'i integreiddio'n llawn â chynllunio gwasanaethau a'r gweithlu hefyd yn hanfodol, yn ogystal â threfniadau llywodraethu ariannol llym ac arferion rheoli ariannol cadarn. Rhaid blaenoriaethu cynlluniau cyfalaf a sicrhau eu bod yn gyson â thargedau datgarboneiddio.

Mae rôl sefydliadau'r GIG fel sefydliadau angor yn ysgogi'r gwaith o ddarparu gofal a gwasanaethau mewn ffordd sy'n cefnogi unigolion a chymunedau fel rhan o'u busnes arferol. Bydd hyn yn cynnwys y dull gweithredu ar gyfer yr economi sylfaenol a sut mae'r GIG yn gallu ymateb i'r argyfwng costau byw ar gyfer cleifion a staff.

Mae'r targed sero net ar gyfer y sector cyhoeddus yn 2030, cynlluniau gweithredu datgarboneiddio a gwerth cymdeithasol, fel rhan o'r broses o gyfrannu at gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn parhau i fod yn ymrwymiadau ac yn gyfleoedd i gynnwys camau gweithredu a manteision fel rhan o waith cynllunio gwasanaethau, a dylid manteisio arnynt.

Rhaid i holl sefydliadau'r GIG gyflwyno cynlluniau wedi'u cymeradwyo gan y bwrdd sy'n cynnig ymrwymiadau cadarn ynghylch sut y caiff y blaenoriaethau hyn eu cyflawni 31 Mawrth 2023.

Mae hwn yn gyfnod anodd i fynd ati i gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd, ond rwy'n hyderus y bydd y GIG yn parhau i adeiladu ar y cynnydd a'r gwersi a ddysgwyd o'r pandemig a'r pwysau parhaus er mwyn darparu'r gwasanaethau cynaliadwy y mae pob un ohonom am eu cael.