Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mae ein ffordd o ymdrin â llesiant cenedlaethau'r dyfodol – ffordd sydd wedi cael ei chreu yng Nghymru – yn golygu bod Cymru yn parhau i ysbrydoli gwledydd ym mhedwar ban byd. Mae’n dangos sut mae'n bosibl i wlad fach ymrwymo i sicrhau ansawdd bywyd gwell i genedlaethau'r dyfodol, gan fynd i'r afael â'r heriau byd-eang a wynebir gennym heddiw ar yr un pryd.
Mae ein taith, a ddechreuodd ym 1998 gyda'n dyletswydd datblygu cynaliadwy gyntaf, gan arwain at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn parhau i lywio, i herio ac i ysbrydoli'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ledled Cymru. Dros yr wythnosau diwethaf, mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi rhannu'r llwyddiannau niferus sydd wedi deillio o'r Ddeddf, gan ddangos sut y mae wedi pennu safbwynt mwy holistaidd, sy'n pontio'r cenedlaethau, wrth wneud penderfyniadau yng Nghymru.
Ym mis Rhagfyr 2022, cafodd adroddiad ei gyhoeddi gan y Comisiynydd hefyd ar yr adolygiad adran 20 o fecanwaith Llywodraeth Cymru. Roedd cydweithio wrth wraidd y ffordd yr aed ati i gynnal yr adolygiad statudol, gan helpu i sicrhau bod modd troi canfyddiadau newydd yr adolygiad yn welliannau mewn modd amserol er mwyn llywio ein hymateb.
Nododd adroddiad yr adolygiad adran 20 mai un o'r prif gyfleoedd i wella fyddai casglu ynghyd yr amrywiaeth o gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd, ac yn bwriadu eu cymryd, er mwyn gwella'r ffordd y mae'n rhoi'r egwyddor datblygu cynaliadwy ar waith, a llunio cynllun gweithredu gyda threfniadau cysylltiedig ar gyfer monitro ac adrodd. Rydym wedi ystyried yr argymhelliad hwn ac wedi ei dderbyn, ac wedi ysgrifennu at y Comisiynydd i gadarnhau'r safbwynt hwn, gan nodi sut y byddwn yn mynd ati i ddilyn y camau gweithredu a nodir yn yr argymhelliad.
Heddiw, ar y cyd â'r Ysgrifennydd Parhaol, Dr Andrew Goodall, rwyf wedi cyhoeddi Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus Llywodraeth Cymru ar gyfer Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2023-25. Mae'r Cynllun yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd er mwyn gwella dealltwriaeth o'r egwyddor datblygu cynaliadwy sydd wrth wraidd Llywodraeth Cymru, a'i rhoi ar waith yn well.
Drwy gyhoeddi'r Cynllun, cofiwn fod dysgu a gwella parhaus yn rhan o daith sy'n galw am ddyfalbarhad, ymdrech fwriadol ac arweinyddiaeth barhaus er mwyn llwyddo. Drwy ein Cynllun a'r diweddariadau blynyddol rydym wedi ymrwymo i'w darparu, rydym yn cryfhau ein diwylliant gweithio cynaliadwy er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i bobl Cymru, nawr ac yn y dyfodol.