Lesley Griffiths AS, Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefyndd
Yn unol â'r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol, hoffwn roi gwybod i chi am gyfarfod o'r Grŵp Rhyng-Weinidogol ar gyfer yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2023.
Cadeirydd y cyfarfod oedd Mark Spencer AS, Gweinidog Gwladol dros Fwyd Llywodraeth y DU, ar ran Gogledd Iwerddon. Mynychwyd y cyfarfod hefyd gan Mairi Gougeon ASA, Ysgrifennydd Cabinet dros Faterion Gwledig a'r Ynysoedd, Llywodraeth yr Alban; Lorna Slater ASA, Gweinidog Sgiliau Gwyrdd, Economi Gylchol, a Bioamrywiaeth Llywodraeth yr Alban y DU; John Lamont AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, Llywodraeth y DU; James Davies AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol yn Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Llywodraeth y DU; a Katrina Godfrey, Ysgrifennydd Parhaol, DAERA yn absenoldeb gweinidogion Gogledd Iwerddon.
Yn y cyfarfod buom yn trafod Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygio a Dirymu), gan gynnwys statws y Bil, ac yn arbennig gynlluniau Defra ar gyfer rheoli'r ddeddfwriaeth helaeth yn y portffolio.
Yna, gwnaethom drafod canlyniadau cadarnhaol y CBD COP15. Byddwn yn trafod y camau nesaf ym mis Mawrth.
Yn dilyn hyn, rhoddodd Grŵp Monitro Marchnad Amaethyddol y DU ddiweddariad ar y problemau cyflenwi sy'n effeithio ar y sector.
Roedd sawl eitem o Unrhyw Fusnes Arall. Gofynnais am ddiweddariad ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a a Gedwir) a nodwyd y byddaf yn ymateb i lythyr yr Arglwydd Beynon ar y Bil Anifeiliaid (Gweithgareddau Lles Isel Dramor). Gofynnais hefyd am ddiweddariad ar yr alwad am dystiolaeth ar adar mewn cawell y cytunais iddi y llynedd.
Ailadroddodd gweinidogion Llywodraeth yr Alban eu pryderon ynghylch y Pecyn Gwella Amgylchedd Gwynt ar y Môr.
Yna, gofynnais am ddiweddariad ar Strategaeth Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol Prydain, y cytunais i’w gyhoeddi ym mis Hydref 2022.
Yn olaf, cododd Llywodraeth yr Alban offer pysgota diwedd oes a gofyn am weithio gyda'i gilydd i leihau gwastraff plastig o'r diwydiant.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Llun 6 Mawrth.
Bydd gohebiaeth am y cyfarfod hwn yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU ar https://www.gov.uk/government/publications/communique-from-the-inter-ministerial-group-for-environment-food-and-rural-affairs. (Saesneg yn Unig)