Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Ymrwymodd Cytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru (2021[1] i "gomisiynu cyngor annibynnol i archwilio llwybrau posibl i sero-net erbyn 2035 – y dyddiad targed presennol yw 2050. Bydd hyn yn edrych ar effaith ein heconomi ar gymdeithas a sectorau a sut y gellir lliniaru unrhyw effeithiau andwyol, gan gynnwys sut mae'r costau a'r buddion yn cael eu rhannu'n deg".
Yn dilyn trafodaethau gyda Siân Gwenllian AS, hysbysais y Senedd fod Dr. Jane Davidson wedi cytuno i Gadeirio'r gwaith.
Gallaf bellach roi gwybod i'r Senedd bod y Grŵp Her Net Sero wedi ei greu ac wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf ddydd Mercher 11 Ionawr. Mae 14 o arbenigwyr technegol wedi ymuno â'r Grŵp, a ddewiswyd o'r byd academaidd, sefydliadau cyhoeddus a phreifat, gydag arbenigedd ar draws pob sector allweddol o'n heconomi. Mae nifer o sylwedyddion yn ymuno â nhw a bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn eu cefnogi.
Ystyriodd y cyfarfod cyntaf sut y bydd y Grŵp yn trefnu ac yn ymgymryd â'i waith. Gallwn ddisgwyl cyhoeddi rhagor o fanylion, yn dilyn ail gyfarfod y Grŵp ddechrau Chwefror.
Gwnes i ac Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Sian Gwenllian, ymuno â’r cyfarfod rhithwir cyntaf er mwyn diolch i aelodau’r grŵp am ymgymryd â’r gwaith pwysig hwn.
Y disgwyl yw y bydd y grŵp yn cyhoeddi nifer o ddogfennau ar sylwedd eu gwaith rhwng dechrau 2023 a chanol 2024. Byddaf yn cadw cysylltiad rheolaidd gyda Dr Davidson a Sian Gwenllian trwy gyfarfodydd chwarterol a byddaf yn diweddaru'r Senedd fel y bo'n briodol.
Rwy'n ddiolchgar i Dr. Davidson a'r arbenigwyr sy'n rhan o’r Grŵp, sy'n rhoi eu hamser am ddim.
Mae aelodaeth y Grŵp Her Sero Net 2035 fel a ganlyn.
Cadeirydd:
Dr. Jane Davidson
Aelodau arbenigol:
Matthew Knight – Siemens Energy
Nick Molho - Grŵp Aldersgate
Yr Athro Gavin Bunting – Prifysgol Abertawe
Paul Allen - Canolfan Technoleg Amgen
Simon Wright - Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Keith Jones - Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Dr. Judith Thornton - Prifysgol Aberystwyth
Rachel Sharp - Ymddiriedolaeth Natur Cymru
Yr Athro Lorraine Whitmarsh - Prifysgol Caerfaddon
Jyoti Banerjee – Wales Transition Lab
Yr Athro Karen Morrow - Prifysgol Abertawe
Dr. Jennifer Rudd - Prifysgol Abertawe
Dr. Eurgain Powell - Iechyd Cyhoeddus Cymru
Derek Walker - Cwmpas
Sarah Dickins – Cyn Ohebydd y BBC ar yr Economi
Will Penri Evans – Cynhadledd Ffermio Rhydychen
Ben Rawlence – Cyfarwyddwr Coleg y Mynyddoedd Du