Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi a Lesley Griffiths,
Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru
Fel y gŵyr yr Aelodau, yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd cwmni 2-Sisters Poultry Limited, y byddai'n dechrau ymgynghori â’r staff ynglŷn â chau ei ffatri yn Llangefni. Golyga hyn, y byddai rhyw 730 o swyddi yn cael eu colli ar Ynys Môn. Mewn ymateb, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n mynd ati ar unwaith i sefydlu tasglu er mwyn cynnig ein cefnogaeth lawn i’r gweithwyr sy’n cael eu heffeithio , ac i’r gymuned ehangach.
Heddiw, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tasglu hwnnw. Mae’n cynnwys uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru, a chynrychiolwyr ar ran: Cyngor Ynys Môn; Llywodraeth y DU; yr Adran Gwaith a Phensiynau; 2 Sisters Poultry Ltd ac Undeb Unite. Hefyd yn bresennol, yr oedd partneriaid eraill a allai gynghori a llywio camau gweithredu mewn ymateb i effeithiau economaidd a chymdeithasol ehangach y cyhoeddiad.
Gwnaeth y tasglu ailddatgan ei gefnogaeth lawn i'r gweithwyr ac i'r cymunedau ym Môn a Gogledd Cymru ar ôl y newyddion trychinebus.
Ymrwymodd yr holl aelodau i weithio’n gyflym, a bydd rhagor o gyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rheolaidd dros yr wythnosau nesaf. Cytunwyd mai’r amcan pennaf oll, yw ymchwilio i ffyrdd newydd o sicrhau dyfodol y ffatri a'r swyddi yn Llangefni. Ochr yn ochr â hynny, gwnaeth y partneriaid adduned i gydweithio i ddeall goblygiadau rhanbarthol ac ehangach y cyhoeddiad ac i gynnig pob cymorth posibl i'r gweithlu.