Mae mentrau iaith a’r papurau bro ymysg y sefydliadau sy’n rhannu bron i £260,000 i helpu pawb i ddefnyddio mwy o Gymraeg.
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi bod cyllid newydd ar gael i 36 o sefydliadau, i’w helpu i barhau â’u gwaith pwysig er gwaetha’r ffaith bod costau byw yn cynyddu.
Bydd y Mentrau Iaith, sy’n darparu gweithgareddau a chyfleoedd yn Gymraeg i bobl yn eu hardal leol, yn cael taliad un-tro er mwyn delio â chynnydd mewn costau gweinyddu ac i godi cyflogau. Mae’r Mentrau yn cefnogi siaradwyr Cymraeg o bob oed a gallu i ddefnyddio mwy o Gymraeg.
Mae’r Papurau Bro yn rhwydwaith o 53 o bapurau newydd Cymraeg lleol. Maent wedi eu hysgrifennu gan y gymuned ar gyfer y gymuned, er mwyn rhannu straeon, digwyddiadau a gwybodaeth leol. Bydd pob un yn cael taliad i helpu â chostau cyhoeddi.
Bydd Prifysgol Bangor yn cael cyllid i barhau â’r gwaith ar Gynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg Llywodraeth Cymru, ac i’n helpu i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle drwy brosiect ARFer.
Dywedodd Jeremy Miles:
Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, a dylai pawb gael y cyfle i’w defnyddio hi yn eu bywydau bob dydd. Bydd y taliad un-tro hwn yn helpu ein rhwydwaith o sefydliadau sy’n rhoi cymorth i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn sgil yr argyfwng costau byw.