Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd
Hoffwn ddiweddaru Aelodau'r Senedd am nifer yr hawliadau Glastir 2022 a dalwyd ar ddiwedd mis Ionawr.
Dechreuodd Taliadau Gwledig Cymru wneud taliadau ardal Glastir 2022 ddoe, 31 Ionawr. Cafodd dros 3,100 o hawliadau eu talu ar y diwrnod cyntaf, oedd yn cynnwys hawliadau am gynlluniau Glastir Mynediad ac Uwch, Tiroedd Comin, ac Organig. Mae hyn yn cynrychioli 85% o'r holl hawliadau a dderbyniwyd, gwerth dros £28.5m i fusnesau fferm Cymru, sy'n cyfrannu at ein nodau o warchod a gwella bioamrywiaeth, gwella ein hadnoddau pridd a dŵr, ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd.
Mae hyn yn welliant ar nifer y taliadau a gafwyd y llynedd, a hoffwn ddiolch i bawb, gan gynnwys rhanddeiliaid y diwydiant, sydd wedi gweithio gyda ni i gyflwyno'r nifer ardderchog hwn o daliadau i fusnesau fferm Cymru.
Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio'n galed i brosesu'r hawliadau sy'n weddill cyn gynted â phosib. Rwy'n disgwyl cyrraedd targed talu'r Comisiwn Ewropeaidd cyn 30 Mehefin, gyda'r holl hawliadau ar wahân i’r rhai mwyaf cymhleth i'w talu erbyn y dyddiad hwn.
Rydym wedi cynnig estyniadau Glastir hyd at fis Rhagfyr 2023 i alluogi ffermwyr i gynnal y buddion amgylcheddol a gyflawnwyd hyd yma Byddwn yn dod â'r taliadau Glastir 2023 cyntaf hyd at 1 Rhagfyr ymlaen i sicrhau ein bod yn cadw at y dyddiad cau diwedd blwyddyn ar gyfer gwneud y taliadau terfynol o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru a ariennir gan yr UE.
Yn ogystal, rwyf wedi cyhoeddi ein bod yn sicrhau bod mwy na £200m ar gael i gefnogi cadernid yr economi wledig dros y tair blynedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer arferion ffermio mwy cynaliadwy i ategu datblygiad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.