Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’n bleser gennyf gyhoeddi’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Gweithlu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.
Bydd yn adeiladu ar y gwaith sydd ar y gweill fel rhan o Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), mewn partneriaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru, ac a gyhoeddwyd yn 2020.
Mae’r Cynllun hwn yn amlinellu cyfres o gamau ymarferol i’w gweithredu ar unwaith i fynd i’r afael â rhai o’r materion allweddol sy’n wynebu ein sefydliadau a’r bobl yng Nghymru sydd angen defnyddio gwasanaethau’r GIG. Nid yw’r heriau sy’n wynebu’r gweithlu yn unigryw i GIG Cymru ond maent yn effeithio ar ein staff a’u gallu i ofalu’n effeithiol am bobl Cymru. Mae’r Cynllun hefyd yn sicrhau ein bod, drwy Strategaeth y Gweithlu, yn parhau i gymryd camau clir i ddatblygu gweithlu cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Rydym am leihau’r pwysau ar ein gweithlu presennol drwy barhau i ganolbwyntio ar fuddsoddi mewn addysg a hyfforddiant fel y bydd gennym lif iach o recriwtiaid newydd ar gyfer y GIG yng Nghymru. Rydym hefyd am ganolbwyntio ar gadw staff ac ar eu llesiant, ac yn sail i hyn fydd ein huchelgais i recriwtio rhagor o nyrsys o dramor yn foesegol, gydag ymgyrch recriwtio yn yr arfaeth ar gyfer nes ymlaen yn 2023. Y llynedd, gwnaeth y cynllun peilot ‘Unwaith i Gymru’ i recriwtio nyrsys o dramor yn foesegol arwain at tua 400 o nyrsys yn ymuno â’r GIG.
Ceir hefyd gynlluniau i greu “Banc Cydweithredol Cymru Gyfan” i alluogi’r GIG i ddelio â materion staffio tymor byr a rhoi dewis a hyblygrwydd i staff, gan eu galluogi i sicrhau gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a hefyd annog symud i ffwrdd o waith asiantaeth. Byddwn hefyd yn sicrhau ein bod yn datblygu ac yn gweithredu rolau newydd i gefnogi ein gweithlu proffesiynol yn well a’u galluogi i ddefnyddio eu sgiliau proffesiynol i gael yr effaith fwyaf.
Mae AaGIC yn datblygu cynigion i ddefnyddio gweithwyr wrth gefn i gefnogi’r gweithlu rheolaidd pan fo pwysau eithafol arno, megis i weithredu rhaglen frechu genedlaethol ar frys. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu annog mwy o wirfoddolwyr i’r system iechyd a gofal, gan ychwanegu at y rhwydwaith presennol o wirfoddolwyr sydd eisoes yn rhoi o’u hamser i ddarparu gwasanaethau.
Bydd Bwrdd Gweithredu Strategol ar gyfer y Gweithlu, wedi’i gadeirio gan Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru a Phrif Weithredwr GIG Cymru, yn goruchwylio’r Cynllun. Bydd y Bwrdd hwn yn canolbwyntio ar gyflawni camau gweithredu sydd â blaenoriaeth ac yn ein galluogi i weithio mewn ffordd ystwyth i ymateb i heriau yn y gweithlu wrth iddynt ddod i’r amlwg. Bydd hefyd yn fodd o fanteisio ar y syniadau gorau a’u rhoi ar waith ledled Cymru.
Bydd y Bwrdd yn adrodd i mi gan ddarparu safbwynt cyfunol ystod o bartneriaid allweddol gan gynnwys cynrychiolwyr cyflogwyr y GIG, sefydliadau staff a chynrychiolwyr proffesiynol. Bydd aelodau’r Bwrdd yn cynnwys o leiaf sefydliadau GIG Cymru (gan gynnwys AaGIC a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru), Llywodraeth Cymru, arweinwyr proffesiynol, Undebau Llafur, y Trydydd Sector ac eraill i sicrhau cynrychiolaeth amlbroffesiwn.
Byddaf yn adrodd yn ôl i Aelodau o’r Senedd ynglŷn â chynnydd ar gyflawni’r Cynllun hwn.