Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwyf heddiw yn gosod gerbron y Senedd Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2023-24 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr Heddlu a Throseddu). Mae hwn yn amlinellu elfen Llywodraeth Cymru o Setliad Terfynol yr Heddlu ar gyfer heddluoedd yng Nghymru yn 2023-24. Mae’r cyhoeddiad heddiw a wnaed gan y Swyddfa Gartref yn cyhoeddi Dyraniadau Grant Terfynol yr Heddlu ar gyfer cyrff plismona yng Nghymru a Lloegr, er mwyn sicrhau bydd Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn gallu gosod eu praeseptau erbyn 1 Mawrth.
Nid yw polisi plismona wedi’i ddatganoli a darperir y cyllid ar gyfer pedwar Heddlu Cymru drwy drefniant tair ffordd, sy’n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a’r Dreth Gyngor. Ar gyfer 2022-2023, bydd cyfanswm y cymorth craidd ar gyfer heddluoedd yng Nghymru yn £433.9 miliwn.
Mae fformiwla gyffredin sy’n seiliedig ar anghenion yn cael ei gweithredu gan y Swyddfa Gartref i ddosbarthu cyllid ar draws heddluoedd Cymru a Lloegr, ac mae’r dull o bennu a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru o’r ddarpariaeth cyllido heddlu wedi ei seilio ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ar draws Cymru a Lloegr.
Fel 2022-23, mae'r Swyddfa Gartref wedi trosglwyddo’r cyllid ar gyfer y Gangen Arbennig allan o Brif Grant yr Heddlu i'r Grant Plismona Gwrthderfysgaeth ar gyfer 2023-24. Gan nad yw’r cyfanswm sy'n cael ei drosglwyddo yn newid, ni fydd y trosglwyddiad yn cael unrhyw effaith net ar yr heddluoedd.
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae’r Swyddfa Gartref wedi defnyddio mecanwaith cyllid gwaelodol ar gyfer ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn sicrhau y gall pob heddlu yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cael cynnydd o 0.3% mewn cyllid craidd ar gyfer 2023-24, cyn yr addasiad a wneir ar gyfer trosglwyddo cyllid y Gangen Arbennig, o'i gymharu â 2022-23.
Yn dilyn ymgynghoriad, mae’r ffigurau ar gyfer setliad terfynol yr heddlu yn parhau fel y nodais yn fy natganiad ar 14 Rhagfyr ar setliad dros dro'r heddlu. Rwy’n awgrymu y dylid pennu cyfraniad Llywodraeth Cymru i gyllid yr heddlu ar gyfer 2023-24 yn £113.47 miliwn. Mae’r cyllid gwaelodol yn cael ei darparu gan y Swyddfa Gartref. Mae’r ffigurau wedi’u crynhoi yn Nhablau 1 i 3 y Datganiad hwn.
Disgwylir i Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2023-24 fod yn destun trafodaeth yn y Senedd ar 14 Chwefror.
Mae’r wybodaeth hon hefyd wedi'i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru yma:
Setliad Terfynol yr Heddlu 2023-24
Cyllid Refeniw yr Heddlu
Tabl 1: Cyllid Allanol Cyfun (Grant Cynnal Refeniw ac Ardrethi Annomestig Cenedlaethol) (£ miliwn)1
Heddlu |
2019-20 |
2020-21 |
2021-22 |
2022-23 |
2023-24 |
Dyfed-Powys |
13.355 |
13.150 |
13.030 |
8.667 |
8.492 |
Gwent |
31.701 |
31.790 |
31.857 |
25.939 |
26.069 |
Gogledd Cymru |
22.496 |
22.614 |
22.523 |
16.513 |
16.334 |
De Cymru |
75.848 |
75.845 |
75.989 |
62.352 |
62.575 |
Cyfanswm |
143.400 |
143.400 |
143.400 |
113.470 |
113.470 |
Tabl 2: Grant yr Heddlu a Chyllid Gwaelodol (£ miliwn)1, 2, 3
Heddlu |
2019-20 |
2020-21 |
2021-22 |
2022-23 |
2023-24 |
Dyfed-Powys |
36.993 |
40.967 |
44.497 |
52.272 |
52.659 |
Gwent |
41.287 |
46.660 |
51.539 |
62.401 |
62.579 |
Gogledd Cymru |
50.738 |
56.101 |
61.153 |
72.125 |
72.612 |
De Cymru |
84.864 |
96.895 |
107.639 |
132.165 |
132.617 |
Cyfanswm |
213.882 |
240.622 |
264.828 |
318.964 |
320.465 |
Tabl 3: Cyfanswm Cymorth Canolog (£ miliwn)3
Heddlu |
2019-20 |
2020-21 |
2021-22 |
2022-23 |
2023-24 |
Dyfed-Powys |
50.348 |
54.116 |
57.528 |
60.939 |
61.150 |
Gwent |
72.988 |
78.451 |
83.396 |
88.341 |
88.647 |
Gogledd Cymru |
73.234 |
78.715 |
83.677 |
88.638 |
88.946 |
De Cymru |
160.712 |
172.740 |
183.629 |
194.517 |
195.192 |
Cyfanswm |
357.282 |
384.022 |
408.228 |
432.434 |
433.935 |
Nodiadau:
1. Yn dilyn Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant 2015, bu'r Swyddfa Gartref yn trosglwyddo cyllid yn flynyddol i Lywodraeth Cymru er mwyn i Lywodraeth Cymru ddarparu'r cyfraniad y cytunwyd arno ar ei chyfer at gyllid yr heddlu yng Nghymru. O 2022-23 ymlaen, ni chaiff y cyllid ychwanegol hwn ei drosglwyddo mwyach. Yn hytrach, y Swyddfa Gartref sy'n ei ddarparu drwy Grant yr Heddlu a'r Grant Atodol. O ganlyniad i hyn, bu cyfraniad Llywodraeth Cymru at blismona £29.93m yn llai y llynedd, ac mae hyn wedi ei bennu ar gyfer 2023-24 a blynyddoedd i ddod. Newid gweinyddol yn unig yw hwn, ac nid yw'n golygu unrhyw newid yn y cyllid cyffredinol i unrhyw Heddlu.
2. Dyma swm grant yr heddlu a nodir yn adran 3 o Adroddiad Grant yr Heddlu sy’n cynnwys y dyraniad o dan ‘Prif Fformiwla’ ac ‘Ychwanegu Rheol 1’ (colofnau a a b) ynghyd â swm y ’cyllid gwaelodol’ a sicrhawyd gan y Swyddfa Gartref.
3. Dangosir y ffigurau ar gyfer 2023-24 cyn yr addasiad a wneir ar gyfer trosglwyddo cyllid y Gangen Arbennig, fel y'i nodir ym mharagraff 4.8 o Adroddiad Grant yr Heddlu.