Manteisiodd 33,351 o bobl a oedd yn wynebu caledi ariannol ar £2.36 miliwn o daliadau arian parod o Gronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr yn unig, yn ôl ffigurau newydd a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru.
Daw wrth i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, annog pobl yng Nghymru i sicrhau a ydynt yn gymwys i gael cymorth gan gynlluniau cymorth Llywodraeth Cymru os ydynt yn wynebu anawsterau ariannol.
Mae ffigurau Llywodraeth Cymru yn dangos bod 200,000 o bobl yng Nghymru wedi cael cymorth gan y Gronfa Cymorth Dewisol yn y flwyddyn ariannol 2022-2023, a £23 miliwn wedi’i ddyrannu mewn grantiau.
Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol yn darparu dau fath o grant nad oes angen eu had-dalu, a’i nod yw helpu pobl mewn caledi ariannol eithafol, pobl a allai fod wedi colli eu swyddi, sy’n aros am eu taliad credyd cynhwysol cyntaf neu i helpu pobl i fyw’n annibynnol mewn cartref y maent yn symud iddo.
Yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24, cyhoeddwyd gyllid ychwanegol o £18.8 miliwn ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol er mwyn helpu yn ystod yr argyfwng costau byw.
Dywedodd Jane Hutt AS fod y Gronfa yn un o gyfres o fentrau sy’n ceisio cefnogi pobl yng Nghymru yn ystod yr argyfwng costau byw.
Mae’r Gweinidog wedi annog y cyhoedd i ‘hawlio’r hyn sy’n ddyledus i chi’ drwy gysylltu ag Advicelink Cymru, a all gynnig cyngor a chymorth i’r bobl hynny’ sy’n ei chael hi’n anodd talu eu biliau, gan gadarnhau a allant gael cymorth taliadau neu gymorth budd-daliadau.
Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS:
"Mae'r argyfwng costau byw hwn, sy'n cael ei ysgogi gan gostau ynni, tanwydd a bwyd sy’n cynyddu’n gyflym, yn ddigynsail.
"Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn un o nifer o ffyrdd yr ydym yn cefnogi pobl ledled Cymru drwy raglenni a chynlluniau sy'n rhoi arian yn ôl yn eu pocedi. Mae'r ffigurau hyn yn dangos y bu’n ffynhonnell hanfodol o gymorth brys i lawer, ac maent yn ei gwneud hi'n glir pam na fyddwn yn gwneud toriadau i'r gyllideb.
"Byddwn yn parhau i gynnig help i'r rhai hynny sydd mewn angen a byddwn unwaith eto yn annog y rhai sy'n cael trafferthion i wirio a allant gael taliadau neu fudd-daliadau a allai roi rhywfaint o gysur yn ystod y cyfnod heriol hwn."
Mae Advicelink Cymru yn wasanaeth gan Gyngor ar Bopeth wedi’i dargedu ar gyfer y bobl y mae angen gwasanaethau cynghori arnynt fwyaf, a ariennir gan Lywodraeth Cymru
Dywedodd Luke Young, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyngor ar Bopeth Cymru:
"Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yma i’ch helpu i ganfod ffordd ymlaen. Gallwn gadarnhau eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau a thaliadau y mae gennych hawl iddynt. Mae llawer o bobl yn poeni am ddyled a chostau ynni cynyddol. Gall ein cynghorwyr eich cyfeirio at gynlluniau lleol a chenedlaethol a allai wneud gwahaniaeth mawr y gaeaf hwn.
"Os ydych chi'n profi caledi ariannol fel colli eich swydd neu aros am eich taliad budd-dal cyntaf neu os nad oes gennych arian i brynu bwyd, nwy a thrydan, efallai y bydd y Gronfa Cymorth Dewisol yn gallu eich helpu nawr. Hefyd, mae mwy o bobl nag erioed â hawl i Gynllun Cymorth Tanwydd gwerth £200 Cymru, sef arian gan Lywodraeth Cymru ar ben taliadau costau byw Llywodraeth y DU - gwnewch yn siŵr nad ydych chi'n colli allan."
Dywedodd Victoria Winckler, Cyfarwyddwr y felin drafod flaenllaw yng Nghymru, Sefydliad Bevan:
"Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn achubiaeth i bobl mewn caledi ariannol difrifol. Pan nad oes unman ar ôl i droi, gall y gronfa helpu gydag arian ar gyfer bwyd a gwresogi, a phethau eraill."
Mae Llywodraeth Cymru wedi addo £1.6 biliwn i fynd i’r afael â phwysau uniongyrchol ar gostau byw yng Nghymru, gan gynnwys ei chynllun cymorth tanwydd.
Mae'r fenter wedi golygu bod 290,000 o gartrefi yng Nghymru yn cael £200 i helpu gyda chostau tanwydd dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae’r cynllun yn ar gael i aelwydydd lle mae ymgeisydd yn cael un o’r budd-daliadau cymwys ar unrhyw adeg rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023.
Mae 400,000 o aelwydydd yng Nghymru yn gallu hawlio’r taliad, sydd ar gael drwy gais i awdurdodau lleol a gellir ei gael ar ben Taliad Tanwydd Gaeaf Llywodraeth y DU.
Yn ogystal â’r cynllun cymorth tanwydd, mae’r cymorth arall sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys prydau ysgol am ddim a hanfodion ysgol, cymorth gyda chostau gofal plant, gostyngiadau yn y dreth gyngor, lle y bo’n berthnasol, yn ogystal â chyngor ar reoli dyled a chyfeiriadau at gymorth llesiant ac iechyd meddwl.
Mae'r cymorth hwn yn ychwanegol at gymorth gan Lywodraeth y DU, sy'n darparu taliad costau byw untro o £650 i bobl sy'n cael budd-daliadau ar sail prawf modd ar hyn o bryd; gostyngiad o £400 ar filiau ynni; taliad i bensiynwr o £350; a thaliad costau byw o £150 i bobl anabl.
Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl sy’n poeni am eu gallu i dalu biliau neu sydd am gadarnhau pa gymorth ariannol y maent yn gymwys ar ei gyfer i ffonio Advicelink Cymru am ddim ar 0808 250 5700.
Gall y bobl hynny na allant glywed neu siarad ar y ffôn deipio'r hyn y maent eisiau ei ddweud drwy ffonio 18001 yna 08082 505 720 drwy Relay UK.