Dysgwch ragor am y brechiadau sy'n cael eu cynnig i bobl â chyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes.
Mae tudalen 2 o'r amserlen imiwneiddio yn rhoi gwybodaeth am y rhaglenni brechu detholus ac ychwanegol sydd ar gael. Os ydych chi'n perthyn i un o'r grwpiau risg hyn, siaradwch â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Enghreifftiau o'r grwpiau hyn yw:
- babanod sy'n cael eu geni i famau sydd wedi'u heintio â hepatitis B
- menywod beichiog
- pobl â diabetes
- pobl â hemoffilia
- pobl â system imiwnedd wan o ganlyniad i glefyd neu driniaeth
Mae rhestr lawn ar gael yn yr amserlen imiwneiddio.