Neidio i'r prif gynnwy

Dysgwch ragor am frechiadau rheolaidd a'r clefydau y maent yn amddiffyn eich plentyn rhagddynt.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae brechiadau i blant yn ffordd bwysig o amddiffyn eich plentyn rhag salwch difrifol.

Caiff eich plentyn ei wahodd i gael ei frechiadau rheolaidd ar gamau penodol o'i ddatblygiad. Ceir crynodeb o'r rhain yn yr amserlen imiwneiddio rheolaidd

Brechlyn 6 mewn 1

Caiff y brechlyn DTaP/IPV/Hib/HepB, a elwir hefyd yn frechlyn 6 mewn 1, ei roi mewn un pigiad. Mae'n amddiffyn yn effeithiol rhag 6 chlefyd difrifol:

  • difftheria
  • tetanws
  • y pas (pertwsis) 
  • polio 
  • haemophilus influenzae math b (Hib) 
  • hepatitis B 

Caiff y brechlyn 6 mewn 1 ei gynnig i'ch baban fel rhan o'i frechiadau rheolaidd cyntaf pan fydd yn:

  • 8 wythnos oed 
  • 12 wythnos oed
  • 16 wythnos oed

Mae angen rhoi 3 dos o'r brechlyn hwn i fabanod er mwyn eu hamddiffyn yn llawn.  Siaradwch â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os yw eich baban wedi colli unrhyw ddosau.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y brechlyn a'r clefydau y mae'n amddiffyn rhagddynt ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Brechlyn rotafeirws

Mae haint rotafeirws yn achosi dolur rhydd a chwydu difrifol mewn babanod a phlant ifanc. Mae'r brechlyn rotafeirws yn amddiffyn eich baban rhag cael ei heintio.

Caiff y brechlyn rotafeirws ei gynnig i'ch baban gyda'i frechiadau eraill pan fydd yn:

  • 8 wythnos oed 
  • 12 wythnos oed 

Mae angen rhoi 2 frechiad rotafeirws i fabanod, un 4 wythnos ar ôl y llall, er mwyn eu hamddiffyn yn llawn.

Os bydd eich baban yn colli un o'r brechiadau, mae modd iddo gael ei ddos cyntaf hyd at 15 wythnos oed a'i ail ddos hyd at 24 wythnos oed.

Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn rotafeirws ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Brechlyn meningococol grŵp B (MenB)

Y brechlyn MenB yw'r ffordd fwyaf diogel ac effeithiol o amddiffyn eich baban rhag bacteria meningococol grŵp B, sy'n gallu achosi llid yr ymennydd a sepsis. Mae’r rhain yn glefydau difrifol, sy’n gallu bod yn angheuol hefyd.

Caiff y brechlyn MenB ei gynnig i'ch baban pan fydd yn:

  • 8 wythnos oed 
  • 16 wythnos oed 
  • 12 i 13 mis oed (brechiad atgyfnerthu) 

Caiff eich baban apwyntiad i gael y brechiad MenB, ar y cyd â'i frechiadau rheolaidd eraill. Mae angen rhoi 3 dos o'r brechlyn MenB i fabanod er mwyn eu hamddiffyn yn llawn. Siaradwch â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os yw eich plentyn wedi colli unrhyw ddosau.

Mae rhagor o wybodaeth am MenB a'r brechlyn ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Brechlyn Hib/MenC

Gall heintiau haemophilus influenzae math b (Hib) a meningococol grŵp (MenC) achosi llid yr ymennydd a sepsis. Mae’r rhain yn glefydau difrifol, sy’n gallu bod yn angheuol.

Mae'r brechlyn Hib/MenC yn ffordd ddiogel ac effeithiol o helpu i amddiffyn plant pan fyddant fwyaf agored i niwed gan y clefydau hyn.

Caiff y brechlyn Hib/MenC ei gynnig i'ch baban fel rhan o'i frechiadau rheolaidd pan fydd yn:

  • 12 i 13 mis oed

Siaradwch â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os yw eich baban wedi colli unrhyw ddosau o'r brechlyn.

Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn HIB/MenC ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Brechlyn y frech goch, clwy'r pennau a rwbela (MMR)

Mae'r brechlyn MMR yn amddiffyn rhag 3 haint difrifol: y frech goch, clwy'r pennau a rwbela. Mae’r rhain yn glefydau cyffredin, heintus sy'n gallu arwain at gymhlethdodau difrifol, a all fod yn angheuol.

Mae brigiadau o achosion o'r frech goch a chlwy'r pennau wedi bod yn ddiweddar yng Nghymru. Mae'n bwysig sicrhau eich bod chi a'ch plant wedi cael eich brechiadau MMR diweddaraf.

Mae angen 2 ddos er mwyn cwblhau cwrs cyflawn o'r brechiad MMR. Caiff y dosau hyn eu cynnig i'ch baban pan fydd yn:

  • 12 a 13 mis oed 
  • 3 blwydd a 4 mis oed 

Os bydd eich plentyn yn colli dos o'r brechlyn, mae modd iddo ei gael beth bynnag fydd ei oedran. Os nad ydych yn siŵr a ydych chi neu'ch plentyn wedi cael dau ddos o'r brechlyn, cysylltwch â'ch practis meddyg teulu cyn gynted â phosibl, sy’n gallu edrych ar eich cofnodion a threfnu ichi gael brechiad arall os bydd ei angen arnoch.

Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn MMR a cholli brechiadau ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Brechlyn atgyfnerthu 4 mewn 1

Mae'r brechlyn DTaP/IPV, a elwir hefyd yn frechlyn 4 mewn 1, yn helpu i amddiffyn rhag 4 gwahanol glefyd:

  • difftheria
  • tetanws
  • pertwsis (y pas) 
  • polio

Mae'r brechlyn 4 mewn 1 yn effeithiol iawn o ran atgyfnerthu'r amddiffyniad a roddir gan y brechlyn 6 mewn 1. Caiff ei gynnig i'ch plentyn fel brechiad atgyfnerthu cyn ysgol pan fydd yn:

  • 3 blwydd a 4 mis oed

Siaradwch â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os yw eich plentyn wedi colli unrhyw ddosau o'r brechlyn.

Caiff y brechlyn 4 mewn 1 ei gynnig yn ystod beichiogrwydd hefyd er mwyn helpu i amddiffyn y baban rhag y pas. Siaradwch â’ch bydwraig neu’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael rhagor o wybodaeth.

Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn 4 mewn 1 a'r clefydau y mae'n amddiffyn rhagddynt ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Brechlyn y ffliw

Mae'r ffliw yn feirws sy'n gallu arwain at salwch difrifol a marwolaeth. Gall unrhyw un gael y ffliw, ond mae’r lefelau heintio uchaf ymhlith plant, a gall y ffliw fod yn ddifrifol iddynt. Bob blwyddyn, mae brechlynnau’r ffliw yn cael eu newid i gyd-fynd â'r feirysau ffliw sydd ar led y flwyddyn honno, fel bod pobl yn cael yr amddiffyniad gorau.

Bob blwyddyn, mae brechlyn y ffliw yn cael ei gynnig i blant rhwng 2 ac 16 oed. Mae hyn yn cynnwys: 

  • pob plentyn sy'n 2 neu 3 oed ar 31 Awst 2023
  • pob plentyn mewn ysgol gynradd

Hefyd, mae plant chwe mis oed neu hŷn yn gymwys os oes ganddynt unrhyw un o'r cyflyrau iechyd hirdymor sy’n golygu bod mwy o risg iddynt os byddant yn dal y ffliw. 

Mae brechlynnau’r ffliw yn cael eu rhoi rhwng mis Medi a mis Mawrth. Os ydych chi'n credu y gallai eich plentyn fod wedi colli’r cyfle i gael brechiad, cysylltwch â nyrs yr ysgol neu â’ch meddygfa.

Os nad yw'ch plentyn yn yr ysgol neu os yw'n cael ei addysgu gartref, bydd yn gallu cael brechlyn y ffliw yn y feddygfa pan ddaw’r amser.

Mae rhagor o wybodaeth am frechlyn y ffliw ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.