Mae'r data’n cynnwys nifer y trafodiadau tir ac eiddo, y dreth a oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Treth Trafodiadau Tir
Mae'r adroddiad chwarterol hwn ar gyfer Treth Trafodiad Tir yn sylw ar:
- nifer y trafodiadau, treth yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd
- dadansoddiad o drafodiadau preswyl ac amhreswyl yn ôl gwerth
- rhyddhadau treth
- ad-daliadau cyfradd uwch y dreth breswyl
- arian a dderbyniwyd gan yr Awdurdod Cyllid Cymru
Cymariaethau dros amser
Dylid cymryd gofal gydag unrhyw gymariaethau dros amser sy'n cynnwys data ar gyfer gwanwyn 2020 i’r haf 2021. Mae hyn oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir. O ganlyniad i’r clo cenedlaethol ar 23 Mawrth 2020, caewyd y farchnad dai gan mwyaf o'r dyddiad hwn tan 22 Mehefin 2020 pan ailagorodd yn rhannol. Ailagorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf, i gyd-fynd â newid yng nghyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir sy’n weithredol hyd at 30 Mehefin 2021. Mae tystiolaeth y gallai rhai prynwyr fod wedi symud eu trafodiadau ymlaen i fis Mehefin 2021 er mwyn elwa ar y gostyngiad treth dros dro.
Roedd rhai newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn weithredol o 22 Rhagfyr 2020. Effeithiwyd ar trafodiadau amhreswyl a thrafodiadau preswyl cyfraddau uwch.
Roedd y prif gyfraddau a bandiau preswyl ar gyfer Trafodiadau Tir yn newid ar gyfer trafodiadau sy'n dod i rym o 10 Hydref 2022.
Gellir darllen gwybodaeth am yr holl newidiadau hyn i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn:
- Newidiadau i drothwy cyfradd sero y Dreth Trafodiadau Tir
- Y Dreth Trafodiadau Tir – ymestyn cyfnod y gostyngiad dros dro yn y dreth
- Newidiadau i gyfraddau a bandiau Treth Trafodiadau Tir
- Newidiadau i brif gyfraddau a bandiau preswyl y Dreth Trafodiadau Tir
Gwybodaeth bellach
Gweler yr adran ‘Data’ isod am daenlen gyda’r tablau data a’r data siartiau a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad chwarterol hwn. Hefyd, mae’r setiau data Treth Trafodiadau Tir manwl i’w gweld ar wefan StatsCymru.
Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau misol a blynyddol i'w gweld ar dudalen cyfres y Dreth Trafodiadau Tir.
- Mae ystadegau misol yn ddiweddariadau data yn unig heb unrhyw sylwebaeth. Gall yr ystadegau misol fod â mwy o ddata cyfoes nag ystadegau chwarterol neu flynyddol.
- Mae ystadegau blynyddol yn rhoi mwy o fanylion. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol a dadansoddiad gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Ebrill i Mehefin 2023 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 115 KB
Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: dadansoddiad manwl o drafodion yn ôl gwerth trafodion , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 622 KB
Cyswllt
Ystadegydd: Dave Jones
Rhif ffôn: 03000 254 770
E-bost: data@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 03000 254 770
E-bost: newyddion@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.