Mae ein hystadegau blynyddol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir yn rhoi lefel uwch o fanylion, gan gynnwys dadansoddiad o fewn Cymru.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Treth Trafodiadau Tir
Mae ein hystadegau blynyddol ar gyfer Treth Trafodiad Tir yn cynnwys:
- datganiad ystadegol blynyddol yn rhoi sylwadau ar dueddiadau blynyddol Treth Trafodiad Tir, gan gynnwys data ar gyfer ardaloedd lleol yng Nghymru. Ystadegau Cenedlaethol yw’r rhain.
- esboniwr yar gyfer ein hystadegau ardaloedd lleol a sut i ddefnyddio ystadegau ar gyfraddau uwch Treth Trafodiad Tir. Diweddarwyd data ychwanegol sy'n dadansoddi trafodiadau cyfraddau uwch (gweler yr adran Data). Ystadegau Cenedlaethol yw’r rhain.
Cymariaethau dros amser
Dylid cymryd gofal gydag unrhyw gymariaethau dros amser sy'n cynnwys data ar gyfer gwanwyn 2020 i’r haf 2021. Mae hyn oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir. O ganlyniad i’r clo cenedlaethol ar 23 Mawrth 2020, caewyd y farchnad dai gan mwyaf o'r dyddiad hwn tan 22 Mehefin 2020 pan ailagorodd yn rhannol. Ailagorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf, i gyd-fynd â newid yng nghyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir sy’n weithredol hyd at 30 Mehefin 2021. Mae tystiolaeth y gallai rhai prynwyr fod wedi symud eu trafodiadau ymlaen i fis Mehefin 2021 er mwyn elwa ar y gostyngiad treth dros dro.
Roedd rhai newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn weithredol o 22 Rhagfyr 2020. Effeithiwyd ar trafodiadau amhreswyl a thrafodiadau preswyl cyfraddau uwch.
Roedd y prif gyfraddau a bandiau preswyl ar gyfer Trafodiadau Tir yn newid ar gyfer trafodiadau sy'n dod i rym o 10 Hydref 2022. Cyflwynir dadansoddiad o effeithiau'r newidiadau hyn yn y datganiad hwn.
Gellir darllen gwybodaeth am yr holl newidiadau hyn i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn:
- Newidiadau i drothwy cyfradd sero y Dreth Trafodiadau Tir
- Y Dreth Trafodiadau Tir – ymestyn cyfnod y gostyngiad dros dro yn y dreth
- Newidiadau i gyfraddau a bandiau Treth Trafodiadau Tir
- Newidiadau i brif gyfraddau a bandiau preswyl y Dreth Trafodiadau Tir
Gwybodaeth bellach
Gweler yr adran ‘Data’ isod am daenlen gyda’r tablau data a’r data siartiau a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwn. Hefyd, mae’r setiau data Treth Trafodiadau Tir manwl i’w gweld ar wefan StatsCymru.
Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau misol a chwarterol i'w gweld ar dudalen cyfres y Dreth Trafodiadau Tir.
Mae ystadegau misol yn ddiweddariadau data yn unig heb unrhyw sylwebaeth. Gall yr ystadegau misol fod â mwy o ddata cyfoes nag ystadegau chwarterol neu flynyddol. Mae ystadegau chwarterol yn cynnwys y sylwebaeth ystadegol ddiweddaraf
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Ebrill 2022 i Mawrth 2023 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 130 KB
Data a ddefnyddir gan Awdurdod Cyllid Cymru wrth adrodd ar berfformiad o 2022 hyd 2023 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 46 KB
Eglurhad o ystadegau ardaloedd lleol 2022 i 2023 Awdurdod Cyllid Cymru , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 38 KB
Cyswllt
Ystadegydd: Dave Jones
Rhif ffôn: 03000 254 729
E-bost: data@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 03000 254 770
E-bost: newyddion@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.