Llywodraeth Cymru
Siarter cwsmeriaid
Mae Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru'n ymrwymo i gynorthwyo datblygu cynaliadwy trwy ddarparu gwasanaeth agored, teg a diduedd sy’n cwrdd ag anghenion ein holl gwsmeriaid.
Ein haddewidion i chi – byddwn yn:
- bod yn gymwynasgar ac yn gwrtais ac yn eich trin â chwrteisi a pharch bob amser
- gwrando ac yn ymateb i’ch pryderon, ymddiheuro a dysgu o’n camgymeriadau, ac yn defnyddio eich adborth i wella ein ffordd o wneud pethau pan fo hynny’n bosibl
- penderfynu ar bob achos yn effeithlon a chyn gynted â phosibl
- sicrhau bod arweiniad ar gael i’ch helpu i ddeall y broses a’r amserlen
- sicrhau bod achosion yn cael eu trin gan bobl sydd â’r lefel gywir o brofiad ac arbenigedd;
- gwneud penderfyniadau rhesymegol sy’n cwmpasu’r prif faterion i gyd ac sy’n seiliedig ar bolisïau lleol a chenedlaethol cyhoeddedig a bod yr holl dystiolaeth yn cael ei gyflwyno erbyn y terfyniadau amser a osodwyd
- hyrwyddo ac annog defnyddio’r Gymraeg wrth ddelio â’i swyddogaethau yng Nghymru.
Yn gyfnewid am hyn – rydym yn gofyn i chi:
- ddarllen y canllawiau rydym yn eu rhyddhau a’n hysbysu os yw rhywbeth yn aneglur
- darparu’r wybodaeth mewn ffordd gyflawn, gryno a chywir yn unol â'r amserlen neu derfynau amser eraill, gan ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein pan fydd hynny’n bosibl;
- deall efallai na fyddwch yn cael y canlyniad rydych yn dymuno ei gael
- trin ein staff â chwrteisi a pharch, a derbyn na fyddwn yn caniatáu ymddygiad anghwrtais neu ddifrïol trwy unrhyw fodd o gyfathrebu
- ein hysbysu os yw ein gwasanaeth yn ddiffygiol a rhoi cyfle i ni unioni hyn
- deall na allwn (a) eich cynghori ar sut i ddadlau eich achos, (b) gynnig cyngor cyfreithiol, na (c) newid penderfyniad ar achos ar ôl ei wneud.