Mae BioCymru yn ddigwyddiad sydd wedi ennill ei blwyf fel un o brif gynadleddau gwyddorau bywyd y DU. Dyma brif ddigwyddiad y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru.
Ein bwriad yw gwella iechyd a llesiant yng Nghymru, i unigolion, teuluoedd a chymunedau, sy’n ein helpu ni i gyrraedd ein nod o ffyniant i bawb. Maen hawdd iawn gwneud penderfyniadau’n gyflym a chyfarfod y bobl iawn, gan fod Canolfan Gwyddorau Bywyd yma yng Nghymru, heb sôn am y cysylltiadau arbennig sydd gan y Ganolfanâ’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r byd academaidd.
Yn y cynadleddau BioCymru blaenorol croesawyd cwmnïau byd-eang (Phillips, Renishaw, Pfizer Limited a GE Healthcare), Busnesau Bach a Chanolig sy’n arloesi, Canolfannau Gwirfoddol, prif weithwyr proffesiynol y Gwasanaeth Iechyd, prifysgolion, rhwydweithiau rhyngwladol a sefydliadau cefnogi busnes.
Gall pawb sy’n dod i BioCymru fanteisio ar gyfleoedd i drafod gyda’n noddwyr a defnyddio Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru fel lleoliad ar gyfer lasio cynnyrch, cyfarfodydd neu giniawau busnes.
Cofrestrwch yma i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am BioWales.