Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r wybodaeth hon ar gyfer awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach, ac awdurdodau esgobaethol. Bydd yn parhau i helpu’r broses bontio i'r rhaglen dreigl o fuddsoddiad cyfalaf.

Cyflwyniad

Roedd ton fuddsoddi gyntaf y rhaglen (Band A) o dan faner ‘Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif’. Roedd yn ymwneud â buddsoddiad o £1.7 biliwn dros y cyfnod o 5 mlynedd a ddaeth i ben yn 2018 i 2019. Cafodd 170 o ysgolion eu hailadeiladu neu eu hailwampio, diolch i’r buddsoddiad hwn. Dechreuodd buddsoddiad tranche dau (Band B) ym mis Ebrill 2019. Cafodd ei ehangu i gynnwys colegau addysg bellach. O ganlyniad, ailenwyd y Rhaglen yn ‘Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif’.

Ym mis Ionawr 2022, ailenwyd y rhaglen yn ‘Gymunedau Dysgu Cynaliadwy’. Mae’r enw hwn yn gwneud datganiad clir am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:

  • yr amgylchedd
  • cydlyniant cymunedol
  • cenedlaethau'r dyfodol

Bydd £2.3 biliwn arall yn cael ei fuddsoddi mewn seilwaith ysgolion a cholegau fel rhan o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Mae’r buddsoddiad hwn yn defnyddio cyllid cyfalaf a refeniw cyhoeddus.

Drwy weithio ar y cyd, cyflwynir Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn ôl amserlen a blaenoriaethau’r partneriaid cyflawni. Mae'r gwersi a ddysgwyd gan Fand A, a'r broses o symud ymlaen i Fand B, wedi tynnu sylw at y cymhlethdod sy'n gysylltiedig â chyflwyno nifer o brosiectau ar sail amserlenni ‘sefydlog’ presennol y Rhaglen, a pha mor hir y maent yn ei gymryd.

Nodau’r rhaglen dreigl

Bydd y rhaglen dreigl yn gwella effeithlonrwydd a’r ddarpariaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid cyflawni.

Bydd y rhaglen dreigl, sy’n seiliedig ar yr ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ‘Fuddsoddi dros £1.5 biliwn yng ngham nesaf y Rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain ganrif’, yn cryfhau un o nodweddion allweddol Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, sef sicrhau bod prosiectau yn cael eu datblygu yn ôl amserlen a blaenoriaethau’r partneriaid cyflawni. Mae hyn yn cael gwared â’r ‘optimistiaeth ormodol’, a'r angen i bartneriaid cyflawni gyflwyno cynigion rhy uchelgeisiol ar gyfer cyfnod cynnig sy’n dynn iawn fel arfer.

Bydd trawsnewid addysgol yn nod hollbwysig o hyd i’n buddsoddiad yn y rhaglen.

Effaith y rhaglen dreigl ar Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

Mae Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy bellach yn trosglwyddo o gylch buddsoddi rhaglen amlinellol strategol 5 mlynedd nodweddiadol i gylch buddsoddi rhaglen amlinellol strategol 9 mlynedd ddeinamig. Bydd:

  • yn cael ei hadolygu a'i diweddaru bob 3 blynedd
  • yn cyd-fynd â Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru (a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2021) a'i Chynlluniau Cyllid Seilwaith 3 blynedd

Gofynnwyd i bob awdurdod lleol a sefydliadau addysg bellach gyflwyno eu rhaglenni amlinellol strategol ar gyfer y rhaglen dreigl erbyn 31 Mawrth 2024.

Rhaglenni Amlinellol Strategol y rhaglen dreigl

Ategir rhaglenni amlinellol strategol y rhaglen dreigl gan gynlluniau buddsoddi 9 mlynedd. Mae’r cynlluniau hyn wedi'u rhannu'n 3 cham:

  • blynyddoedd 1 i 3
  • blynyddoedd 4 i 6
  • blynyddoedd 7 i 9

Mae cymeradwyo rhaglen amlinellol strategol yn darparu cefnogaeth 'mewn egwyddor' ar gyfer prosiectau ym mlynyddoedd 1 i 3 a blynyddoedd 4 i 6. Mae'r prosiectau a gynhwysir ym mlynyddoedd 7 i 9 wedi'u nodi fel blaenoriaethau i'r dyfodol.

Bydd partneriaid yn adolygu eu rhaglenni amlinellol strategol bob 3 blynedd o leiaf i ddilyn amcanion buddsoddi'r rhaglen, a nodir yn y tabl canlynol.

Fel rhan o gynllun 9 mlynedd eu rhaglen dreigl, caniatawyd i bartneriaid cyflawni gynnwys prosiectau a gymeradwywyd mewn egwyddor yn ystod Band B, ond nad oeddent wedi cyrraedd achos busnes llawn.

Rhaglen gyfalaf 9 mlynedd
BlynyddoeddDisgwyliadau
1, 2 a 3Disgwyl i brosiectau gyrraedd achos busnes llawn o fewn y 3 blynedd
4, 5 a 6Prosiectau'n cael eu datblygu ac yn mynd drwy ymgynghoriad statudol
7, 8 a 9Prosiectau hirdymor sydd mewn golwg

Gall y rhaglen ddarparu cyllid i gefnogi rhanddeiliaid i gyflawni eu prosiectau addysg blaenoriaeth. Mae’r swm y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu yn dibynnu ar y math o brosiect ysgol neu goleg sydd dan sylw.

Mae’r cyfraddau ymyrraeth presennol wedi cael eu cadw er mwyn hwyluso’r gwaith o gyflawni rhaglenni unigol partneriaid cyflawni a sicrhau eu bod yn ariannol bosibl, yn unol â'r tabl canlynol.

Cyfraddau ymyrraeth
CategoriCyfradd ymyrraethn (%)
Ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion sefydledig65
Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion â chymeriad crefyddol85
Ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion75
Model Buddsoddi Cydfuddiannol (elfen a ariennir gan refeniw)81
Model Buddsoddi Cydfuddiannol (cost gyfalaf gysylltiedig)65
Sefydliadau addysg bellach65
Costau ychwanegol carbon sero-net (Band B)100

Amcanion buddsoddi’r rhaglen

Yr amcanion buddsoddi yw’r canlyniadau y mae Llywodraeth Cymru am eu sicrhau drwy eu buddsoddiad gyda phartneriaid cyflawni’r Rhaglen. Mae’r amcanion hyn:

  • yn llywio’r buddsoddiad a’r cyllid a ddyrennir
  • yn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei flaenoriaethu’n briodol

Trawsnewid amgylcheddau dysgu a phrofiad dysgwyr

  • Cefnogi pob dysgwr i fod yn ddinasyddion iach, brwdfrydig, mentrus ac egwyddorol, sy’n barod i chwarae rhan gyflawn mewn bywyd a gwaith, mewn safleoedd dysgu sy’n ddiogel, yn gynhwysol ac yn rhydd rhag gwahaniaethu a bwlio.
  • Gwella profiad a lles dysgwyr yn yr amgylchedd adeiledig, gan ategu’r gwaith o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru.
  • Darparu seilwaith digidol o'r radd flaenaf i wella amgylcheddau dysgu a dulliau addysgu ar gyfer myfyrwyr o bob oedran ac ar gyfer y gymuned ehangach.
  • Cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai o gefndiroedd difreintiedig.

Bodloni’r galw am leoedd ysgol

  • Darparu seilwaith addysgol effeithlon ac effeithiol a fydd yn bodloni'r galw presennol am leoedd a'r galw i’r dyfodol.
  • Cefnogi gweithredu Cynllun Strategol yr awdurdod ar gyfer y Gymraeg mewn Addysg.
  • Darparu'r nifer iawn o leoedd ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg.
  • Mynd i'r afael â materion digonolrwydd lle bo'n berthnasol.

Gwella cyflwr ac addasrwydd yr ystad addysg

  • Lleihau’r ôl-groniad o ran costau cynnal a chadw ar gyfer yr ysgolion a'r colegau a ddewiswyd ar gyfer y rhaglen, gan ystyried yr ystad gyffredinol.
  • Gwneud i ffwrdd ag adeiladau cyflwr ac addasrwydd categori D o’r ystad.
  • Lleihau nifer adeiladau cyflwr ac addasrwydd categori C a gwella adeiladau i gategori A neu B.

Datblygu amgylcheddau dysgu cynaliadwy

  • Gweithio tuag at garbon sero-net oes gyfan drwy'r rhaglenni a fandadwyd felly a'r targedau carbon corfforedig yn unol ag Ymrwymiadau Lleihau Carbon Llywodraeth Cymru.
  • Darparu amgylcheddau dysgu cynaliadwy sy'n buddsoddi mewn bioamrywiaeth i wella'r ardaloedd o'u hamgylch a chefnogi teithio llesol.

Cefnogi'r gymuned

  • Ysgolion Bro, defnyddio seilwaith ac adnoddau i’r eithaf i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ochr yn ochr ag athrawon, staff, cyrff llywodraethu, dysgwyr, teuluoedd a chymunedau. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau hyblygrwydd ein hasedau fel bod gofod a chyfleusterau ar gael y tu allan i oriau ysgol ar gyfer sesiynau dysgu allgyrsiol, sesiynau dysgu i oedolion a sesiynau dysgu i’r gymuned.
  • Sicrhau'r buddion cymunedol a gwerth cymdeithasol mwyaf posibl drwy'r gadwyn gyflenwi.
  • Rhoi mwy o gyfleoedd i oedolion ddysgu, gan ganiatáu i aelodau o'r gymuned ddysgu sgiliau newydd a datblygu eu hyder.
  • Cefnogi partneriaethau amlasiantaethol a chynnig dull integredig o gefnogi dysgwyr a'r gymuned, gan gynnwys cydleoli gwasanaethau.

Mwy o wybodaeth

Dylid cyfeirio ymholiadau am y ddogfen hon i:

Is-adran Seilwaith, Llywodraethiant a Chyllid Addysg
Y Gyfarwyddiaeth Addysg
Llywodraeth Cymru Parc Cathays Caerdydd
CF10 3NQ

e-bost: cymunedaudysgucynaliadwy@llyw.cymru