Heddiw (dydd Llun, 23 Ionawr), cafodd y Gweinidog Julie James wahoddiad i weld gwaith sy’n cael ei wneud i adfer diogelwch adeiladau yng Nghaerdydd ar ôl i 11 o ddatblygwyr mawr ymrwymo i gytundeb newydd gyda Llywodraeth Cymru.
Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd y Gweinidog fanylion y cytundeb hwnnw, sy'n ymrwymiad cyhoeddus gan ddatblygwyr i fynd i'r afael â phroblemau sy’n gysylltiedig â diogelwch tân mewn adeiladau 11 metr ac uwch a gafodd eu datblygu yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.
Mae’r Cytundeb rhwng Datblygwyr a Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei ategu gan ddogfennau cyfreithiol ffurfiol, wedi cael ei rannu gyda’r Ffederasiwn Adeiladwyr ac mae disgwyl i ddatblygwyr dderbyn y telerau cyn bo hir.
Mae rhai datblygwyr, gan gynnwys Persimmon Homes a Bellway, wedi dechrau ar y gwaith cyn derbyn y telerau'n ffurfiol, a gwahoddwyd y Gweinidog i weld gwaith diogelwch tân hanfodol sy’n cael ei wneud yn Century Wharf.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
"Roedd yn wych cael ymweld â Century Wharf heddiw i weld â’m llygaid fy hun y gwaith sydd eisoes wrthi’n cael ei wneud yng Nghymru.
"Dw i wedi bod yn gwbl glir erioed ’mod i ddim yn disgwyl i lesddeiliaid ysgwyddo'r gost o wneud gwaith atgyweirio oherwydd problemau diogelwch tân. Dyw’r problemau hynny’n ddim byd i'w wneud â nhw a dw i’n disgwyl i ddatblygwyr ysgwyddo’r cyfrifoldebau sydd arnyn nhw.
"Dw i'n ddiolchgar iawn i Persimmon am y gwahoddiad heddiw. Dw i’n falch iawn eu bod wedi gweithio’n agos gyda’r cwmni rheoli i wneud y gwaith hwn cyn derbyn telerau'r Cytundeb yn ffurfiol a dw i’n edrych ’mlaen at barhau â’r berthynas gynhyrchiol hon."
Dywedodd Cadeirydd Rhanbarthol Persimmon, Liam Scott:
"Roedden ni'n falch iawn o groesawu'r Gweinidog Newid Hinsawdd i weld y camau yn cael eu gweithredu yn Century Wharf.
"Fe wnaethom ymrwymiad ddwy flynedd yn ôl i dalu am unrhyw waith adfer angenrheidiol sy’n gysylltiedig â chladin a diogelwch ar adeiladau aml-lawr a adeiladwyd gan Persimmon. Fe wnaethon ni gymryd y rôl arwain hon gan ein bod eisiau diogelu ein cwsmeriaid a chael gwared ar ansicrwydd iddyn nhw.
"Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r cwmni rheoli sy'n goruchwylio'r gwaith, a byddwn yn parhau i wneud hynny wrth inni ariannu'r rhaglenni adfer ar adeiladau o'r fath yng Nghymru.
"Mae Persimmon yn cefnogi'n gryf ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddatrys yr her cladin a diogelwch tân gan ein bod yn credu ei fod nid yn unig yn deg i lesddeiliaid yng Nghymru, ond hefyd y peth iawn i'w wneud fel un o brif adeiladwyr tai'r genedl.
"Byddwn yn parhau i weithio'n adeiladol gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd a Llywodraeth Cymru wrth inni gefnogi cwblhau gwaith cyn gynted â phosib i lesddeiliaid."
Mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd yn fuan wedi'r ymweliad, rhoddodd y Gweinidog yr wybodaeth ddiweddaraf i'r bobl hynny sydd wedi cael trafferthion gyda morgeisi oherwydd problemau sy’n gysylltiedig â diogelwch tân.
"Rydyn ni’n gwneud cryn gynnydd o ran mynd i'r afael â'r mater hwn ac o ran rhoi’r sicrwydd angenrheidiol i'r sector cyllid,"
meddai.
"Ar hyn o bryd, mae benthycwyr yn gweithredu fesul achos yng Nghymru, ac rydyn ni’n gweithio'n agos gyda Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ac UK Finance Ltd i sicrhau bod y cyhoeddiad diweddar a wnaed ar gyfer Lloegr yn cael ei ystyried yn yr un modd ar gyfer eiddo yng Nghymru."
Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd y byddai newidiadau i’r ffordd y mae'r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid yn gweithio.
"Er gwaetha’r camau cadarnhaol a gymerwyd gan ddatblygwyr, a’r cynnydd arall a wnaed, dw i'n sylweddoli na fydd y gwaith hyn yn dod yn ddigon buan i rai lesddeiliaid sy'n wynebu caledi ariannol oherwydd problemau diogelwch tân yn eu cartrefi,"
meddai.
"Ym mis Mehefin y llynedd, fe wnes i lansio'r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid, gan ymrwymo i fynd ati’n gyson i ailedrych ar y meini prawf cymhwysedd er mwyn sicrhau mai’r bobl fwyaf anghenus fyddai’n elwa ar y cynllun.
"Ar ôl i’r adolygiad gael ei gwblhau, dw i wedi cyfarwyddo swyddogion i ddiwygio meini prawf cymhwysedd y cynllun mewn dwy ffordd sylfaenol.
"Y ffordd gyntaf yw diwygio'r asesiad o galedi ariannol er mwyn ystyried cost gynyddol ynni.
"Mae hynny’n hanfodol oherwydd y bydd yn fodd i adnabod rhagor o bobl sy’n wynebu caledi ariannol o ganlyniad i'r cynnydd diweddar i'r cap ar brisiau ynni, a bydd yn caniatáu i ragor o bobl fanteisio ar y cynllun.
"Yr ail newid sylfaenol yw cael gwared ar y cymal Preswylwyr a Ddadleolwyd.
"Cyn hynny, er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth dan y cynllun, roedd yn rhaid i lesddeiliaid naill ai fod yn breswylwyr, neu’n breswylwyr a orfodwyd i adael eu heiddo oherwydd bod eu hamgylchiadau wedi newid.
"Drwy ddileu'r maen prawf yma, mae'r cynllun ar gael erbyn hyn i lesddeiliaid sydd wedi prynu eiddo fel buddsoddiad, megis pensiynwyr, neu bobl sydd wedi cael y lesddaliad drwy ei etifeddu.
"Bydd y cymorth sy’n cael ei gynnig gan y cynllun hwn yn helpu rhagor o lesddeiliaid sy’n wynebu caledi ariannol i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw."
Gallwch ddarllen y Datganiad Ysgrifenedig yn llawn yma: llyw.cymru/cyhoeddiadau.