Bywyd fel tad sengl
Magu plant o safbwynt Stephen.
Mewn teulu rhiant sengl fel fy un i, fy nghyfrifoldeb i yw popeth, da a drwg. Wrth i Ayda, fy hynaf, a George, fy ieuengaf, fynd yn hŷn, maen nhw yn naturiol wedi aeddfedu a dod yn fwy annibynnol. Rhywbeth y bu’n rhaid i mi ddysgu wrth iddyn nhw dyfu yw bod pawb angen eu hamser eu hunain ac mae’n bwysig cydbwyso amser teulu o ansawdd uchel gyda gwneud yn siŵr bod y plant a fi hefyd, fel eu rhiant, pan fo angen, yn cael amser i’n hunain.
Rydyn ni’n ceisio treulio amser gyda’n gilydd fel teulu pan allwn ni, ond mae’n gallu bod yn anodd pan fo gennych chi ferch 11 oed sy’n hoffi meddwl ei bod hi’n 18 a mab 8 oed y mae ei chwaer yn credu ei fod yn fabi. Mae’n anodd iawn cydbwyso’r cyfan! Y rhan fwyaf o’r amser, byddai’n well ganddyn nhw dreulio eu hamser hamdden gyda’u ffrindiau, yn enwedig Ayda, ac mae’n siŵr bod hynny i’w ddisgwyl! Dyw treulio amser gyda dad “ddim yn cŵl” bellach ac er fy mod i’n hoffi meddwl fy mod i’n dal yn gallu bod yn cŵl, rwy’n deall. Rwyf eisiau bod yn agos iawn iddyn nhw a byddwn i’n hoffi meddwl fy mod i, ond mae’n rhaid i mi hefyd sylweddoli eu bod nhw angen eu hamser a’u lle eu hunain hefyd. Maen nhw’n mynd yn hŷn nawr a bydd eu bywydau cymdeithasol yn parhau i dyfu.
Dyw hi ddim yn hawdd bod yn rhiant. Mae’n gallu bod yn her ac yn anodd ond mae’n rhoi llawer o foddhad. Y wers fwyaf rwyf wedi’i dysgu, rwy’n meddwl, yw ei bod yn hanfodol bwysig i wneud amser i chi’ch hun. Rwy’n gwybod y bydd hyn efallai’n teimlo’n od ond weithiau mae angen i chi ymlacio, dod at eich hun a mwynhau rhai o’r pethau nad ydych efallai’n cael eu gwneud cymaint erbyn hyn. Rwy’n credu fy mod wedi sylweddoli wrth i'r plant fynd yn hŷn, os ydyn nhw’n cael ychydig o amser i’w hunain, yn eu hystafelloedd neu yn cysgu yn nhŷ ffrind, os gallaf i, mae angen i mi gymryd ychydig o amser i fy hun. Hyd yn oed os yw’n eistedd i lawr gyda phaned a phennod o rywbeth rwy’n ei wylio, mae’r amser hwnnw’n bwysig. Yn ddiweddar, rwyf hyd yn oed wedi mynd i’r sinema ar fy mhen fy hun neu gyda Mam a Dad. Rwy’n dwlu ar ffilm dda ac mae’r sinema bob amser yn teimlo fel dihangfa go iawn lle mae modd anghofio am bopeth. Mae’n bwysig gallu arafu bywyd a chael hoe o’r ‘dadmin’ parhaol.
Wedi dweud hynny, er bod yr amser yr ydym yn ei dreulio ar wahân yn bwysig iawn, rwyf eisiau iddyn nhw wybod fy mod i yma pan fyddan nhw fy angen i a bydda i yma bob amser.