Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y ceisiadau llwyddiannus o ail gylch ei Chronfa Ffyniant Bro, sy’n dyrannu cyllid mewn meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru.
Yng Nghymru, mae ceisiadau 11 o’n 22 o awdurdodau lleol wedi’u derbyn. O'r 43 cais a wnaed gan awdurdodau lleol Cymru, mae 11 wedi bod yn llwyddiannus. O'r £790m mewn cyllid y gofynnwyd amdano, mae £208m wedi'i gymeradwyo.
Mae'r Gronfa Ffyniant Bro, fel y Gronfa Ffyniant Gyffredin, wedi profi oedi ac mae bron i chwe mis bellach ers cyflwyno ceisiadau i Lywodraeth y DU i'w hasesu.
Mae'r oedi yma wedi creu pwysau sylweddol ar yr awdurdodau lleol fydd nawr yn symud prosiectau ymlaen, yn ogystal â chostau chwyddiant uwch. Bydd hyn yn arwain at ganlyniadau ar gyflawni, gwerth am arian ac effaith economaidd.
Mae'r Gronfa yn faes arall lle mae Llywodraeth y DU yn defnyddio pwerau Deddf Marchnad Fewnol y DU i wneud penderfyniadau gwario'n uniongyrchol mewn meysydd datganoledig tra'n osgoi Llywodraeth Cymru a'r Senedd.
Ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddwyd y byddai'r Gronfa Ffyniant Bro yn gweithredu yn Lloegr, gyda Llywodraeth Cymru yn derbyn cyllid canlyniadol Barnett. Fodd bynnag, ym mis Chwefror 2021 fe benderfynodd Llywodraeth y DU yna ddarparu'r Gronfa ar gyfer y DU gyfan heb unrhyw ymgynghoriad na chyfathrebu blaenorol.
Mae'r dull anhrefnus hwn wedi bod yn nodwedd gyson o ymdrechion Llywodraeth y DU i weithredu'n rymus mewn meysydd datganoledig. Mae ei gynllun disodli ar gyfer cronfeydd yr UE, y Gronfa Ffyniant a Rennir, yn gadael Cymru £1.1bn yn brin a bellach mae'n arwain yn uniongyrchol at ddiswyddiadau a chau rhaglenni a ariannwyd gan yr UE gynt mewn meysydd fel sgiliau, ymchwil a datblygu a chefnogaeth i'r bobl fwyaf agored i niwed.
Mae amrywiol bwyllgorau trawsbleidiol, yn y Senedd a San Steffan, yn ogystal â melinau trafod annibynnol a'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi ategu llawer o'n beirniadaeth o ddull Llywodraeth y DU o gyllido'r Gronfa Ffyniant Bro a chyllid ôl Brexit.
Mae hyn yn cynnwys diffyg partneriaeth â llywodraeth ddatganoledig, atebolrwydd anfoddhaol am ganlyniadau, darnio'r tirwedd ariannu a photensial economaidd cyfyngedig.
Er bod cyhoeddiad ddoe yn cadarnhau nifer cyfyngedig o brosiectau, golyga hyn mewn gwirionedd fod gan Gymru lai o lais o ran arian.
Mae’n cynrychioli ymosodiad niweidiol ar ddatganoli demograffig ac mae’n anffodus iawn fod rhaglenni annigonol y DU mewn meysydd datganoledig yn cael effaith negyddol ar swyddi a thwf yng Nghymru.
Byddwn ni'n parhau i weithio gyda llywodraeth leol a phartneriaid i sicrhau'r cyllid gorau posibl sydd ar gael a chefnogi'r sectorau sy'n wynebu toriadau sylweddol o ganlyniad i ddull Llywodraeth y DU o weithredu, heb fawr o ystyriaeth i ddatganoli nac anghenion penodol economi Cymru.