Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru wedi bod yn symud tuag at ffordd newydd o addysgu a dysgu sy’n canolbwyntio ar helpu plant a phobl ifanc i gyflawni’r pedwar diben: bod yn barod i ddysgu, chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith, bod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd, a bod yn aelodau gwerthfawr o gymdeithas. Mae’r proffesiwn addysgu wedi gweithio’n galed ac yn greadigol i greu cwricwla newydd i’w dysgwyr, ac erbyn hyn mae ysgolion ledled Cymru yn cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Rydym wedi ei gwneud yn glir bob amser fod angen inni sicrhau bod pob agwedd ar y system addysg yn cyd-fynd â gwireddu’r cwricwlwm newydd, a’u bod yn cefnogi’r gwaith hwnnw yn llwyr. Rydym wedi cymryd camau clir ymlaen yng nghyswllt dysgu proffesiynol a gweithredu’r cymwysterau newydd o 2025.
Y camau nesaf – datblygu ecosystem/tirwedd data a gwybodaeth newydd
Ym mis Mehefin 2022, cyhoeddais ganllawiau ar wella ysgolion er mwyn cyflwyno ffordd newydd i’r system addysg gydweithio i gynorthwyo ysgolion wrth wella, magu hyder yn y system, a pharhau i ganolbwyntio’n glir ar gynorthwyo pob dysgwr i symud ymlaen drwy ei addysg. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr adroddiad cwmpasu ar werthuso’r cwricwlwm, a oedd yn cynnig argymhellion ynghylch sut y byddwn yn gwybod bod ein cwricwlwm newydd yn gwella’r broses ddysgu yng Nghymru. Heddiw, cyhoeddir adroddiad Datblygu ecosystem data a gwybodaeth newydd sy’n cefnogi’r system ysgolion ddiwygiedig yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn nodi argymhellion ar gyfer dulliau o ddefnyddio data a gwybodaeth mewn ffordd a fydd yn galluogi partneriaid ar draws y system i weithio gyda’i gilydd i gynorthwyo ein holl ddysgwyr i gyflawni eu potensial, beth bynnag fo’u cefndir.
Mae’r adroddiad yn amlinellu’r gwahanol anghenion gwybodaeth a geir yn y system: anghenion dysgwyr a’u rhieni, ysgolion, ac awdurdodau lleol, yn ogystal â phwysigrwydd gwybodaeth ar lefel genedlaethol a fydd yn sail ar gyfer gwella ar draws y system. Rwyf yn croesawu’r dystiolaeth ddefnyddiol hon a fydd yn llywio ein ffordd o feddwl. Mae’r adroddiad yn cynnig datblygu cyfres ehangach o wybodaeth am feysydd fel llesiant (dysgwyr a staff) a datblygu sgiliau dysgwyr sy’n rhan annatod o’r pedwar diben. Mae’n nodi’n glir y dylwn, wrth ddadansoddi gwybodaeth, ystyried cyd-destun ein hysgolion a’r heriau sy’n eu hwynebu. Mae hyn yn cynnwys dealltwriaeth fwy soffistigedig o anfantais economaidd gymharol ac anghenion dysgu ychwanegol dysgwyr, yn ogystal â llais dysgwyr.
Mae’n hanfodol sicrhau bod ehangder yr wybodaeth yn gywir er mwyn hwyluso gwaith gwerthuso a gwella, boed ar lefel genedlaethol neu ar lefel ysgol. Fodd bynnag, hoffwn bwysleisio bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl i wybodaeth gael ei defnyddio i gynorthwyo ysgolion ac awdurdodau lleol i ddeall eu cyd-destunau eu hunain ac i wella eu cynnig eu hunain. Ni ddylid ei defnyddio ar wahân er mwyn barnu ynghylch perfformiad neu i gymharu ysgolion, a dylid creu gwybodaeth at ddiben clir.
Bydd deilliannau o gymwysterau yn parhau i fod yn rhan allweddol o’r ystyriaethau ynghylch gwerthuso a gwella ysgol. Yn 2019, gwnaethom gyflwyno mesurau pontio interim newydd ar gyfer ysgolion uwchradd a sicrhaodd fod mwy o ganolbwyntio ar godi ein dyheadau ar gyfer pob dysgwr. Roeddent yn cael gwared ar y ffocws cul ar ddisgyblion sydd ar y ffin rhwng graddau C a D, gan gydnabod yn hytrach gyflawniad ein holl ddysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 4. Cafodd y mesurau hyn eu gohirio yn ystod y pandemig. Gallaf gadarnhau heddiw y byddwn, am gyfnod interim – a thra byddwn yn bwrw ymlaen â’r gwaith o ddatblygu dull niwtral ar gyfer y system wybodaeth – yn ailddechrau adrodd ar ddeilliannau Cyfnod Allweddol 4 ar lefel ysgolion gan ddefnyddio’r dull a fabwysiadwyd yn 2019 (gan gynnwys y polisi o gyfrif cofrestriadau cyntaf yn unig ar gyfer arholiadau). Byddwn yn adrodd ar ddeilliannau yn y fformat sgôr pwyntiau, gan gynnwys ‘Capio 9’, wedi’i ddadansoddi yn ôl rhywedd a chymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim. Mae manteision amlwg yn gysylltiedig â chadw dull cydnabyddedig sy’n adlewyrchu cyrhaeddiad mewn cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yn ogystal â phwysigrwydd pob dysgwr a’i ddeilliannau, a chyfyngu ar y newidiadau i’r dull wrth adrodd ar sail interim. Byddwn yn datblygu syniadau pellach i gyd-fynd â chyflwyno cymwysterau newydd o 2025 wrth inni ddatblygu ein tirwedd wybodaeth newydd.
Rhaglen dreigl o samplu asesiadau yn genedlaethol
Mae’n bwysig iawn pwysleisio mai rhywbeth dros dro yn unig yw dychwelyd i drefniadau 2019, wrth inni symud tuag at system fwy cyfannol sy’n hybu dysgu ac sy’n canolbwyntio ar ddysgwyr, athrawon a rhieni. Mae’n bwysig sicrhau tryloywder o ran yr hyn yr ydym yn ei gyflawni ar lefel genedlaethol hefyd. Mae Llywodraeth Cymru yn dechrau gwaith ar raglen uchelgeisiol o fonitro addysg yn genedlaethol. Fel yr amlinellir yn yr adroddiad cwmpasu ar werthuso’r cwricwlwm, bydd hyn yn cynnwys rhaglen dreigl o asesiadau o samplau o ddysgwyr ar draws ehangder y Cwricwlwm i Gymru. Nid profi pob dysgwr yw’r nod ond, yn hytrach, deall a monitro’r darlun cenedlaethol o ran cyrhaeddiad a chynnydd dysgwyr dros amser ar draws y system gyfan. Bydd y dull hwn yn lleihau’r baich ar ysgolion a’r system addysg yn ei chyfanrwydd ac yn helpu i ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnom i ddeall ein cynnydd o ran mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyflawniad dysgwyr, a llywio ein dulliau o fynd i’r afael â’r materion hyn. Mae’r gwaith datblygu ar gyfer y rhaglen hon yn mynd rhagddo, ac rydym yn disgwyl dechrau cyflwyno’r asesiadau sampl hyn o dan drefniadau peilot ym mlwyddyn academaidd 2025/26, ochr yn ochr â datblygiad yr ecosystem ehangach.
Ymgysylltu ag ymarferwyr a chyd-awduro
Gan adeiladu ar ganfyddiadau’r adroddiad a gyhoeddir heddiw, byddwn yn gweithio yn awr gydag ymarferwyr ledled Cymru i ddatblygu set gyffredin o wybodaeth sy’n gallu helpu i gefnogi’r broses ddysgu drwy ddeall cynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr, a’r elfennau sy’n sbarduno’r rhain. Bydd hyn wedi’i lywio gan yr wyth ffactor sy’n cefnogi’r broses o wireddu’r cwricwlwm, a nodir yn y canllawiau ar wella ysgolion. Byddwn yn canolbwyntio’n arbennig ar wella’r ddealltwriaeth o gynnydd dysgwyr sydd o dan anfantais. Byddaf yn awyddus i glywed barn rhieni yn y gwaith hwn, er mwyn deall pa wybodaeth fydd yn ddefnyddiol iddynt. Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a phartneriaethau ochr yn ochr â hyn i geisio creu dull cydlynus a chyson ledled Cymru sy’n cefnogi’r broses ddysgu ac sy’n lleihau’r llwyth gwaith i athrawon ac ysgolion. Bydd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu i ysgolion yn yr wythnosau nesaf i roi rhagor o fanylion, a byddaf yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ymhellach wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo.