Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad ar ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru a gyhoeddwyd heddiw.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
Mae'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru o dan bwysau aruthrol o hyd. Mae data gweithredol yn awgrymu ein bod ni wedi profi’r diwrnod prysuraf ar gofnod ar gyfer GIG Cymru ym mis Rhagfyr. Mae ystadegau swyddogol yn dangos bod bron i 400,000 o ymgyngoriadau+ wedi’u cynnal mewn ysbytai yn unig ym mis Tachwedd a bod dros 111,000 o lwybrau cleifion wedi cael eu cau, sy’n gynnydd o 4.7% o’i gymharu â’r mis blaenorol ac yn ôl ar yr un lefelau a welwyd cyn y pandemig.
Ym mis Tachwedd hefyd, gwelsom yr ail gwymp yn olynol yn nifer y llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth, ar ôl cyfnod o gynnydd cyson ers mis Ebrill 2020.
Mae cynnydd yn dal i gael ei wneud o safbwynt yr achosion sy’n aros hiraf ac mae nifer yr achosion sy’n aros dwy flynedd am driniaeth wedi gostwng am yr wythfed mis yn olynol – gostyngiad o 30% ers i nifer yr achosion fod yn ei anterth ym mis Mawrth. Gwnaeth cyfran y llwybrau sy'n aros llai na 26 wythnos gynyddu'r mis hwn, a gwelsom ostyngiad yn y nifer sy’n aros mwy na 36 wythnos.
Dechreuodd mwy o bobl ar eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ar gyfer canser a gwellodd y perfformiad yn erbyn y targed 62 ym mis Tachwedd o'i gymharu â'r mis blaenorol. Wrth inni barhau i roi blaenoriaeth i’r achosion mwyaf brys, ym mis Tachwedd, cafodd y nifer mwyaf ar gofnod o bobl wybod nad oes ganddyn nhw ganser – cynnydd o 33.4% o'i gymharu â mis Ebrill 2022.
Profwyd gostyngiad o 10.3% – gostyngiad am y trydydd mis yn olynol – yn nifer y llwybrau sy'n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf.
Roedd Rhagfyr yn fis eithriadol, ac roedd galw mawr ar y gwasanaeth ambiwlans ac adrannau damweiniau ac achosion brys o hyd. Cafodd y nifer mwyaf erioed o alwadau coch/lle roedd bywyd yn y fantol eu gwneud y mis hwn. Er bod cyfran y galwadau coch a gafodd ymateb o fewn 8 munud yr isaf ar gofnod, ym mis Rhagfyr, cafodd y nifer mwyaf erioed o alwadau coch ymateb brys o fewn 8 munud. O heddiw ymlaen, bydd 75 o glinigwyr ambiwlans ychwanegol ar waith i gefnogi ymateb amserol gan y gwasanaeth ambiwlans.
Roedd 2,847 o ymweliadau dyddiol ar gyfartaledd ag adrannau damweiniau ac achosion brys ac unedau mân anafiadau. Cafodd nifer yr ymweliadau hyn effaith ar berfformiad yn erbyn y targedau pedair awr a deuddeg awr.
Er bod pwysau a galw mawr yn cael eu profi ar draws y system gyfan, a hynny wedi arwain at rai cleifion yn gorfod aros yn hirach nag y byddem yn ei obeithio, cafodd dros 6000 (14.9%) o alwadau am ambiwlans eu rheoli'n ddiogel drwy asesiadau ffôn o bell. O ganlyniad, roedd pobl yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn y gymuned gydag adnoddau ambiwlans yn cael eu rhyddhau i ymateb i alwadau eraill.
Yn ogystal â hynny, cafodd dros 138,000 o alwadau eu gwneud i wasanaeth llinell gymorth 111, y nifer mwyaf ar gofnod a chynnydd o 157% o'i gymharu â phan roedd y nifer hwn yn ei anterth ddiwethaf, ym mis Gorffennaf 2022. Roedd hefyd bron i 503,000 o ymweliadau â gwefan GIG 111 Cymru, ac roedd y rhain yn cynnwys dros 27,300 o ymholiadau wedi’u cwblhau gan y gwiriwr symptomau.
Er ein bod ni’n cydnabod nad yw gofal brys yn perfformio ar y lefel y byddem yn ei disgwyl, rydym yn ysgogi gwelliannau i'r system. Mae’r gwelliannau hynny yn cynnwys ymestyn oriau agor gwasanaethau gofal brys yr un diwrnod i saith diwrnod yr wythnos, gwella'r ffordd y mae cleifion 999 yn cael eu rheoli dros y ffôn, a recriwtio rhagor o staff. Heb yr holl ymdrechion hyn, byddai mwy o bwysau eto ar y system hyd yn oed.