Beth i’w wneud a phwy i gysylltu â nhw os ydych chi’n cael eich effeithio gan brofion gwyryfdod a hymenoplasti, neu’n amau bod rhywun mewn perygl o gael ei effeithio gan hynny.
Mae bellach yn anghyfreithlon cynnal, cynnig neu helpu mewn unrhyw ffordd gyda phrofion gwyryfdod neu hymenoplasti mewn unrhyw ran o’r DU, fel rhan o Ddeddf Iechyd a Gofal 2022.
Mae’r troseddau yn dwyn uchafswm dedfryd o 5 mlynedd yn y carchar a/neu ddirwy ddiderfyn.
Os ydych chi’n cael eich effeithio gan brofion gwyryfdod neu hymenoplasti, neu os oes gennych bryderon am rywun rydych chi’n ei adnabod a allai fod mewn perygl o gael ei effeithio gan hynny, cysylltwch â’r canlynol:
- Yr Heddlu: Ffoniwch 999 mewn argyfwng neu 101 ar gyfer eich heddlu lleol, os nad yw’r dioddefwr mewn perygl uniongyrchol.
- Llinell Gymorth Byw Heb Ofn: Ffoniwch 0808 80 10 800.
- BAWSO: Ffoniwch 0800 731 8147.
- KARMA NIRVANA: Ffoniwch 0800 5999 247.
- Uned Priodasau dan Orfod.
- Eich meddyg teulu, nyrs, ysbyty, Gwasanaethau Cymdeithasol neu ddarparwr addysg lleol.