Newidiadau i’r trefniadau apelau derbyn i ysgolion: asesiad o'r effaith ar hawliau plant
Asesiad o'r effaith ar hawliau plant o newidiadau i’r trefniadau apelau derbyn i ysgolion
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Asesiad o'r effaith ar hawliau plant
Disgrifiwch ac esboniwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc.
Rydym yn ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i’r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion a Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 i gynnwys opsiwn ar gyfer cynnal gwrandawiadau apêl o bell yn ogystal ag wyneb yn wyneb. Mae’r cynnig yn gwneud yn barhaol gydag addasiadau priodol drefniadau dros dro a roddwyd ar waith mewn ymateb i bandemig y coronafeirws. Mae arolwg o awdurdodau lleol sef yr awdurdodau derbyn ar gyfer y rhan fwyaf o ysgolion Cymru yn awgrymu bod y trefniadau hyn yn gweithio’n dda ac wedi arwain at arbedion o ran amser a chostau i awdurdodau derbyn, paneli apêl a rhieni fel ei gilydd.
Esboniwch sut mae’r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant.
Ni fydd y cynnig yn effeithio ar hawliau plant. Mae gan rieni hawl i fynegi dewis o ran yr ysgol yr hoffent i’w plentyn ei mynychu, a phan fo lle ar gael, rhaid i’r awdurdod derbyn gynnig lle iddynt fel arfer. Mae gan rieni y gwrthodir lle ysgol i’w plentyn, neu bobl ifanc y gwrthodir lle iddynt mewn chweched dosbarth ysgol, hawl statudol i apelio i banel apêl annibynnol. Mae apelwyr, gan gynnwys pobl ifanc, y gwrthodir lle iddynt mewn chweched dosbarth ysgol, yn cadw’r hawl i wneud sylwadau llafar yn eu hapêl. Nid yw’r newidiadau yr ydym yn eu cynnig yn cael unrhyw effaith ar hyn.
Mae’r broses apelau derbyn i ysgolion yn seiliedig ar gyfiawnder naturiol a thegwch gweithdrefnol. Pan fo awdurdod derbyn yn penderfynu cynnal apêl o bell, rhaid iddo gymryd camau i sicrhau bod pawb dan sylw yn gallu cyflwyno eu hachosion yn llawn o bell, a chael ei fodloni y gall yr apêl gael ei phenderfynu mewn ffordd deg a thryloyw.
Bydd clercod yn parhau i gyflawni rôl allweddol o ran gwrandawiadau apêl, wrth roi cyngor ar y gyfraith dderbyniadau yn ogystal â chadw cofnod cywir o’r trafodion a sicrhau bod y gwrandawiad apêl yn deg. Rhaid bod gan glercod ddealltwriaeth dda o’r gyfraith ar dderbyniadau a rhaid eu bod wedi cael hyfforddiant priodol sy’n cynnwys cyfraith cydraddoldeb. Mae hyn yr un mor gymwys i wrandawiadau apêl a gynhelir o bell neu wyneb yn wyneb.
Bydd y diwygiadau arfaethedig i’r Cod Apelau a Rheoliadau 2005 yn parhau i ddiogelu buddiannau rhieni, plant a phobl ifanc drwy sicrhau bod apelau derbyn i ysgolion yn cael eu gweinyddu yn y ffordd fwyaf teg a chyfartal posibl.
Erthygl CCUHP | Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig? | Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth) |
Sut y byddwch yn lliniaru effeithiau negyddol? |
---|---|---|---|
Erthygl 12: parchu barn y plentyn | Mae effaith negyddol bosibl ar blant a phobl ifanc na allant (naill a nhw eu hunain neu eu rhieni) fod yn bresennol yn eu hapêl o bell am eu bod wedi’u hallgáu’n ddigidol. |
Ni waeth pa fforwm a ddewisir, hy boed wyneb yn wyneb neu o bell, rhaid i baneli apêl ganiatáu cyfle i apelwyr wneud sylwadau llafar ac egluro eu hapêl ysgrifenedig. Mae canlyniadau ein harolwg o swyddogion derbyn i ysgolion awdurdodau lleol yn awgrymu y gallai apelwyr deimlo’n fwy cyfforddus yn delio ag apêl o bell yn eu cartref eu hunain. Noda’r Cod Apelau y gall rhieni gael eu cynrychioli gan gyfaill neu gynghorydd. Nododd y Fframwaith Cynhwysiant Digidol, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2010, y bobl hynny a oedd fwyaf tebygol o fod wedi’u hallgáu’n ddigidol. |
Bydd gan yr awdurdod derbyn y disgresiwn i benderfynu a yw apelau yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb, o bell neu drwy gyfuniad o’r ddau. Pan fo awdurdod derbyn yn penderfynu cynnal apêl o bell, rhaid iddo gymryd camau i sicrhau bod pawb dan sylw yn gallu cyflwyno eu hachosion yn llawn o bell, a chael ei fodloni y gall yr apêl gael ei phenderfynu mewn ffordd deg a thryloyw. Bydd clercod yn parhau i gyflawni rôl allweddol o ran gwrandawiadau apêl, wrth roi cyngor ar y gyfraith dderbyniadau yn ogystal â chadw cofnod cywir o’r trafodion a sicrhau bod y gwrandawiad apêl yn deg. Rhaid bod gan glercod ddealltwriaeth dda o’r gyfraith ar dderbyniadau a rhaid eu bod wedi cael hyfforddiant priodol sy’n cynnwys cyfraith cydraddoldeb. Mae hyn yr un mor gymwys i wrandawiadau apêl a gynhelir o bell neu wyneb yn wyneb. Dylai Clerc y Panel Apêl ymgysylltu â’r apelwyr cyn y gwrandawiad er mwyn deall eu gofynion a sicrhau eu bod yn gallu chwarae rhan mor lawn â phosibl. |
Erthygl 28: yr hawl i gael addysg |
Nid oes effaith ar hawl plentyn i addysg. Defnydd effeithlon o adnoddau. |
Mae gan rieni hawl i apelio penderfyniad gan awdurdod derbyn i wrthod derbyn eu plentyn. Mae gan bobl ifanc hawl i apelio penderfyniad i wrthod derbyn i chweched dosbarth ysgol. Ein nod yw rhoi cymaint o hyblygrwydd â phosibl i awdurdodau derbyn reoli apelau mewn ffordd sy’n gweddu i amgylchiadau lleol orau, gan sicrhau hefyd fod rhieni a phobl ifanc sy’n apelio yn erbyn penderfyniad derbyn yn cael eu cefnogi a bod y broses apelio yn deg ac yn dryloyw. |
Bydd y diwygiadau arfaethedig i’r Cod Apelau a Rheoliadau 2005 yn darparu hyblygrwydd o ran ffurf gwrandawiadau apêl ond byddant yn cynnal rhwymedigaethau ynghylch cyfiawnder naturiol a thegwch gweithdrefnol. Nid ydym yn cynnig dileu unrhyw rai o ddyletswyddau clercio apelau derbyn. Mae clercod yn cyflawni rôl allweddol o ran gwrandawiadau apêl, wrth roi cyngor ar y gyfraith dderbyniadau yn ogystal â chadw cofnod cywir o’r trafodion a sicrhau bod y gwrandawiad apêl yn deg. Mae awdurdodau derbyn wedi hen arfer â deall anghenion teuluoedd yn yr ardal, a’u diwallu. |