Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
  • Jane Hutt AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Mick Antoniw AS
  • Jeremy Miles AS
  • Julie Morgan AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Vaughan Gething AS
  • Dawn Bowden AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Lynne Neagle AS

Cyfranwyr allanol

  • Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru
  • Karen McFarlane, Plant yng Nghymru
  • Ellie Harwood, Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant
  • Paul Slevin, Cadeirydd Gweithredol, Siambrau Cymru
  • Abdul-Azim Ahmed, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol, Cyngor Mwslimiaid Cymru
  • Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, CLlLC
  • Monika Cole, Llamau, yn cefnogi plant a phobl ifanc:
    • Axe Jones
    • Elin Morris
    • Ellie Kidd
    • Shazeen Feroz

Ymddiheuriadau

  • Andy John, Archesgob Cymru
  • Andrew Morgan OBE, Arweinydd, CLlLC
  • Ruth Marks, Prif Weithredwr CGGC

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmonds, Cynghorydd Arbennig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr y Bartneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
  • Claire Bennett, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Swyddfa'r Cabinet
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr, Adfer ac Ailgychwyn
  • Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr y Grŵp Adfer ar ôl COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (Cofnodion)

Eitem 1: Cyflwyniadau gan Bartneriaid Cymdeithasol a Phlant a Phobl Ifanc

Cyflwyniadau gan:

  • Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru
  • Karen McFarlane, Plant yng Nghymru
  • Axe Jones, Elin Morris, Ellie Kidd a Shazeen Feroz – profiad bywyd

1.1 Croesawodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yr holl Bartneriaid Cymdeithasol a’r plant a'r bobl ifanc i’r cyfarfod a gofynnodd iddynt gyflwyno i'r grŵp.

Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru

1.2 Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, fod ei swyddfa wedi bod yn cynnal arolwg mawr o blant a phobl ifanc, ac mai nod y cyflwyniad oedd rhannu canfyddiadau cynnar y gwaith hwnnw â'r Pwyllgor.

1.3 Nododd y Pwyllgor fod yr arolygon mawr a gynhaliwyd gan swyddfa'r Comisiynydd Plant yn ystod COVID-19 yn adnoddau gwerthfawr iawn, a'u bod wedi effeithio'n uniongyrchol ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig.

1.4 Roedd gwrando ar bartneriaid cymdeithasol ac ymgysylltu â nhw, yn ogystal â chlywed profiad bywyd y plant a'r bobl ifanc hynny yr oedd yr argyfwng costau byw yn effeithio arnynt yn uniongyrchol, yn adnodd dysgu gwerthfawr i'r Pwyllgor, a fyddai'n helpu i ddylanwadu ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng.

1.5 Cafwyd dros 8,000 o ymatebion i'r arolwg cenedlaethol, gan fanylu ar fywydau anodd llawer o blant sydd eisoes yn byw mewn tlodi, yn ogystal â'r effeithiau difrifol iawn ar iechyd meddwl plant.

1.6 Roedd nifer uchel iawn y plant a oedd yn poeni am sut y gallen nhw a'u teuluoedd fforddio hanfodion bob dydd megis gwres a bwyd yn fater gofid, gyda mwy na hanner yr ymatebwyr yn poeni am arian a sut y byddai'u teuluoedd yn goroesi'r gaeaf.

1.7 Roedd angen di-oed i fynd i'r afael â'r dioddef a welwyd yn yr aelwydydd incwm isaf. At y diben hwnnw, awgrymwyd bod angen cynllun gweithredu i fynd i'r afael â thlodi plant a fyddai'n gallu canolbwyntio ar flaenoriaethau byrdymor a thymor hwy.

Karen McFarlane, Plant yng Nghymru

1.8 Wedyn cafwyd cyflwyniad gan Karen McFarlane, Plant yng Nghymru.

1.9 Nodwyd bod canfyddiadau'r gwaith ar effeithiau costau byw a gynhaliwyd gyda phlant a phobl ifanc yn llwm, gan gynnwys y straen emosiynol a'r gorbryder a welwyd yn amlwg ym mhob agwedd ar fywydau'r bobl ifanc sydd â'r adnoddau lleiaf.

1.10 Roedd pryderon ynghylch cynnydd mewn dyledion. Yn y gorffennol, roedd dyledion yn tueddu i gynyddu drwy dalu costau annisgwyl, megis costau atgyweirio. Ond erbyn hyn, roedd dyledion yn cynyddu i deuluoedd ac unigolion drwy dalu am hanfodion bob dydd.

1.11 Roedd benthycwyr arian didrwydded i'w gweld yn fwy gweithgar ymhlith y bobl hynny a oedd yn ei chael hi'n anoddaf, am eu bod yn targedu pobl a oedd yn agored i niwed pan fyddai'r angen mwyaf arnynt. Roedd ôl-ddyledion rhent hefyd yn fater pwysig yr oedd angen mynd i'r afael ag ef, gan gynnwys cwynion ynghylch tai sy'n oer ac yn damp o ganlyniad i gostau gwres.

1.12 Roedd effeithiau'n amlwg ym mhob rhan o addysg, gyda phlant yn cyrraedd ysgol wedi blino a heb fwyta, a rhagor o blant yn absennol am amrywiaeth o resymau. Roedd hefyd dystiolaeth o fwlio sy'n gysylltiedig â thlodi, sy'n gallu peri problemau pan fo gwisg ysgol yn rhy ddrud, neu pan fo'r plant hynny sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cael eu cywilyddio gan blant eraill. Roedd rhai pobl ifanc yn treulio llai o amser mewn addysg er mwyn ennill incwm ychwanegol.

Plant a phobl ifanc – profiad bywyd – Axe Jones, Elin Morris, Ellie Kidd and Shazeen Feroz

1.13 Yna clywodd y Pwyllgor am brofiad bywyd plant a phobl ifanc yr oedd y sefyllfa'n effeithio arnynt.

1.14 Rhoddodd y cyflwynydd cyntaf, Axe Jones, adroddiad am waith grŵp ffocws o bobl ifanc rhwng 18 a 23 oed a gynhaliwyd er mwyn clywed am faterion gan bobl a oedd wedi profi digartrefedd pan oeddent yn ifanc.

1.15 Ymhlith y prif faterion a godwyd gan y grŵp yr oedd y gallu i gael gafael ar fwyd maethlon a fforddiadwy, talu biliau trydan a nwy, a gwneud hynny i gyd wrth fyw bywyd normal o ryw fath, gan gynnwys cymryd rhan mewn rhai gweithgareddau cymdeithasol.

1.16 Roedd tystiolaeth nad oedd pobl ifanc yn gallu fforddio prydau parod am fod prisiau bwyd rhad wedi codi ac wedi mynd yn rhy ddrud, gyda phobl yn gorfod byw ar fwydydd byrbryd. Roedd rhai pobl yn cael help drwy apiau rhannu bwyd, ond roedd hyn yn dibynnu ar haelioni pobl eraill.

1.17 Pan nad oedd modd iddynt dalu costau bwyd, roedd pobl ifanc eraill yn ystyried ceisio dod o hyd i gartref arall i'w hanifeiliaid anwes am nad oeddent yn gallu fforddio eu bwydo, er gwaethaf y buddion clir ar gyfer iechyd meddwl.

1.18 Roedd costau trafnidiaeth hefyd yn pwyso'n drwm ar bobl ifanc, gan eu hatal rhag ymweld â'u teuluoedd a'u ffrindiau.

1.19 I grynhoi, siom oedd clywed bod pobl ifanc yn dibynnu cymaint ar haelioni pobl eraill i oroesi, ac roedd hyn yn effeithio ar obeithion a dyheadau pobl ifanc ar gyfer y dyfodol, yn ogystal ag ar eu hiechyd meddwl. Roedd perygl y byddai pobl yn syrthio i arferion negyddol, a phryder gwirioneddol y byddai pobl yn marw'n ddiangen o ganlyniad i'r argyfwng presennol.

1.20 Roedd yr ail gyflwynydd, Elin Morris, yn canolbwyntio i ddechrau ar yr opsiynau tai i bobl ifanc. Dywedodd, er gwaethaf y dystiolaeth fod hyd at 40,000 o dai gwag ledled Cymru, mai’r teimlad oedd nad oedd y gorau'n cael ei wneud o opsiynau tai. Roedd yn anodd iawn cael gafael ar dai fforddiadwy yn y gymuned lle roedd person yn byw.

1.21 O ran ynni, nodwyd nad oedd pobl yn gwresogi eu tai am fod ynni'n rhy ddrud a bod angen defnyddio'r arian am hanfodion eraill. Roedd teimladau cryf ymhlith pobl ifanc nad oedd y cwmnïau sy’n elwa’n ormodol o refeniw olew a nwy ar hyn o bryd, sydd hefyd yn cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd, yn ymddwyn yn gyfrifol. Awgrymwyd y dylid gwladoli’r cwmnïau hyn.

1.22 Roedd y system budd-daliadau presennol yn rhy gymhleth hefyd, ac roedd disgwyl i rai pobl anabl chwilio am waith er gwaethaf y ffaith nad oedd modd iddynt wneud hynny. Nodwyd bod profiad pobl ifanc o gyfweliadau budd-daliadau'n negyddol yn aml, a bod cyfwelwyr yn arfer dull holi llym yn ddiangen.

1.23 Roedd tribiwnlysoedd ar gyfer dyfarnu budd-daliadau hefyd yn cymryd gormod o amser ac, o ystyried cyfradd uchel yr apelau a oedd yn llwyddiannus, yn gwrthod budd-daliadau i'r bobl yr oedd arnynt eu hangen fwyaf. Canlyniad anochel hyn oedd gofidion y byddai mwy o bobl yn marw'n ddiangen.

1.24 Roedd y trydydd cyflwynydd, Ellie Kidd, yn canolbwyntio ar effeithiau'r argyfwng costau byw ar iechyd meddwl pobl ifanc eu hunain, ac iechyd meddwl eu rhieni a oedd yn ceisio gwarchod eu plant rhag yr effeithiau.

1.25 Nodwyd bod yr effeithiau'n helaethach oherwydd profiadau diweddar yn ystod y pandemig, a bod pobl eisoes mewn sefyllfaoedd anodd o ganlyniad i ffyrlo neu iechyd sy'n gwaethygu.

1.26 Y teimlad oedd bod amseroedd aros ar gyfer cymorth iechyd meddwl yn rhy hir, ac y dylid gwneud mwy i sicrhau darpariaeth amserol.

1.27 Nodwyd bod nifer o bobl ifanc wedi gorfod gadael addysg neu hyfforddiant er mwyn cynnal eu hunain neu eu teuluoedd, a bod hyn yn cael effaith ganlyniadol ar weddill eu bywydau. Cyfeiriwyd at yr ymgyrch i sicrhau bod pobl ifanc yn ‘fit, fed and read’ fel enghraifft dda o'r pethau pwysig a oedd eu hangen ar bobl ifanc er mwyn llwyddo mewn bywyd.

1.28 Roedd y cyflwynydd olaf, Shazeen Feroz, yn canolbwyntio ar anghyfartalwch yn y ffordd roedd rhai pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi cael eu trin wrth geisio manteisio ar wasanaethau.

1.29 Y teimlad oedd bod rhwystrau iaith a diffyg ymwybyddiaeth ymhlith rhai cymunedau ethnig lleiafrifol o sut i fanteisio ar y gwasanaethau sydd ar gael iddynt yn arwain at galedi anghyfartal ymhlith y rhan hon o gymdeithas.

1.30 Roedd angen rhagor o help ar gyfer y teuluoedd hynny a oedd yn ei chael hi'n anodd manteisio ar gymorth, ac roedd angen gwneud popeth posibl i sicrhau nad oedd unrhyw hiliaeth yn y ffordd roedd gwasanaethau wedi'u cynllunio. Roedd y ffaith nad oedd rhai pobl yn gallu manteisio ar wasanaethau oherwydd eu hil yn annerbyniol.

Crynodeb

1.31 Diolchodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i'r holl gyflwynwyr am eu sylwadau gwerthfawr a'u cyfraniadau effeithiol, gan nodi y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i wrando ar bryderon plant a phobl ifanc yng Nghymru ac i fynd i'r afael â nhw, gyda'r nod o wella bywydau'r bobl hynny sy'n wynebu heriau difrifol drwy gydol eu bywydau ifanc ac wrth bontio i fywyd oedolyn.

1.32 Cafwyd trafodaeth ynghylch y manteision a allai ddeillio o godi ymwybyddiaeth o rai o'r materion er mwyn helpu i'w normaleiddio a'i gwneud yn haws i bobl siarad amdanynt a gofyn am help. Nodwyd hefyd bod angen gwneud hyn mewn modd sensitif er mwyn osgoi canlyniadau anfwriadol.

1.33 Nododd y Pwyllgor nad oedd unrhyw atebion syml i'r materion, a bod y sefyllfa economaidd a chyllidol ehangach roedd Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid cyflawni yn ei wynebu'n heriol iawn.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Tachwedd 2022