Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • David Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth
  • Jonathan Price, Prif Economegydd
  • Eitem 1: Effaith Datganiad yr Hydref gan Lywodraeth y DU

Eitem 1: Effaith Datganiad yr Hydref gan Lywodraeth y DU

1.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y papur, a oedd yn nodi goblygiadau Datganiad Hydref Canghellor y Trysorlys.

1.2 Ochr yn ochr â hyn, roedd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi cyhoeddi rhagolygon tywyll ar gyfer yr economi ac wedi cadarnhau bod y DU yng nghyfnod cynnar dirwasgiad. Sefyllfa o filiau uwch, diweithdra cynyddol a’r gostyngiad mwyaf mewn safonau byw ers i gofnodion ddechrau fyddai’r realiti. Roedd chwyddiant eisoes ar ei uchaf ers 40 mlynedd.

1.3 Nid oedd y Canghellor wedi dyrannu unrhyw gyllid ychwanegol mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol bresennol, ond bu gostyngiad bach yn y setliad oherwydd yr addasiad Grant Bloc yn sgil rhagolygon treth diwygiedig.

1.4 Er bod y Datganiad wedi cynnwys £1.2 biliwn yn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf ar gyfer Llywodraeth Cymru, nid oedd y swm a ddyrannwyd yn ymateb i bwysau o ran chwyddiant a phwysau eraill, gan gynnwys cyflogau. Roedd bwlch cyllido sylweddol yn parhau.

1.5 Roedd y sioc yn sgil chwyddiant ers mis Hydref diwethaf yn amrywio rhwng gwahanol fesurau, ond gallai’r setliad fod hyd at £3 biliwn yn llai mewn termau real a hyd at £1 biliwn yn llai yn 2023-24 yn unig. Roedd y setliad, dros y cyfnod Adolygu Gwariant tair blynedd, yn dal yn werth llai mewn termau real nag yr oedd adeg cyhoeddi canlyniad yr adolygiad. Ni fyddai’r gyllideb gyffredinol yn 2024-25 yn fwy mewn termau real nag yn y flwyddyn bresennol a byddai’r gyllideb gyfalaf 8.1% yn llai.

1.6 Roedd y £1.2 biliwn o arian ychwanegol yn rhannol o ganlyniad i wariant ychwanegol yn Lloegr ar iechyd, a oedd yn cyfateb i £365 miliwn, sef £235 miliwn ar gyfer cyllid i ysgolion a £150 miliwn ar gyfer Gofal Cymdeithasol, gyda pheth ohono wedi’i gynnwys yn y setliad iechyd. Byddai hyn yn cael ei rannu dros ddwy flynedd. Roedd bron i hanner, 44% o’r cynnydd yn y cyllid yn 2023-24, o ganlyniad i fesurau ardrethi annomestig, a fyddai’n costio mwy i’w hefelychu yng Nghymru. Hefyd, roedd y Llywodraeth yn wynebu swm canlyniadol negyddol o £70 miliwn yn sgil newidiadau i gyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr.

1.7 Er bod y Canghellor wedi cymryd camau i dynhau’r mesurau cymorth cyffredinol, drwy’r warant pris ynni, a chymorth wedi’i dargedu’n well i’r rhai mwyaf agored i niwed, gyda chymorth ychwanegol i’r rhai ar fudd-daliadau, byddai costau byw yn parhau i fod yn anodd iawn i’r rhan fwyaf a byddai galwadau am gymorth pellach gan y Llywodraeth yn tyfu.

1.8 Fodd bynnag, gan nad oedd arian ychwanegol ar gyfer dyfarniadau cyflog y sector cyhoeddus byddai angen i’r Llywodraeth reoli hawliadau orau y gallai, wrth weithio gyda phartneriaid cymdeithasol. Atgoffwyd y Gweinidogion fod pob codiad o 1% mewn cyflogau ar draws yr holl sector cyhoeddus datganoledig yn costio tua £100 miliwn. Felly, byddai angen i unrhyw ymrwymiadau o ran cyflog gael eu bodloni drwy ddod â gweithgareddau i ben.

1.9 Ni fu ymdrech sylweddol gan y Canghellor i fuddsoddi mewn seilwaith a’r sgiliau cysylltiedig i hybu twf economaidd a buddsoddi mewn ynni gwyrdd. O ystyried y byddai’r gyllideb gyfalaf yn cael ei lleihau’n ddifrifol erbyn 2024-25, byddai angen edrych o ddifrif ar leihau, oedi ac atal rhai o gynlluniau’r Llywodraeth.

1.10 Roedd Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen gyda Pharthau Buddsoddi. Yn hytrach, cyhoeddodd y Canghellor gynlluniau i sbarduno nifer cyfyngedig o’r clystyrau twf dwys o ran gwybodaeth ac uchaf eu potensial sy’n canolbwyntio ar brifysgolion mewn ardaloedd sydd wedi cael eu gadael ar ôl, gyda’r nod o hyrwyddo twf ac adfywio cynaliadwy. Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau wedi dweud ei fod am ddatblygu cynnig gwirioneddol ledled y DU.

1.11 Cofnododd y Prif Weinidog ei ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r gwaith o baratoi deunydd y gyllideb.

1.12 Nododd y Cabinet y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Tachwedd 2022