Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ym mis Hydref 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn ariannu Gaeaf Llawn Lles i helpu teuluoedd, plant a phobl ifanc i ymadfer yn sgil pandemig y coronafeirws (COVID-19). Fel rhan o hyn, darparwyd hyd at £2m ar gyfer treialu Sesiynau Cyfoethogi Ychwanegol er mwyn cyflwyno gweithgareddau a phrofiadau i gefnogi plant a phobl ifanc i ddysgu, datblygu sgiliau, ac ar gyfer lles corfforol a meddyliol ar draws lleoliadau dysgu gwirfoddol ('lleoliadau' o hyn ymlaen) yn ystod blwyddyn academaidd 2021/22.

Nod y Treial o'r Sesiynau Cyfoethogi Ychwanegol oedd profi i ba raddau y byddai ychwanegu awr i'r diwrnod ysgol yn helpu dysgwyr i ddal i fyny â'r cyfleoedd cymdeithasol, academaidd a lles yr oeddent wedi'u colli oherwydd pandemig y coronafeirws.

Canfyddiadau allweddol

Cymerodd un deg pedwar o leoliadau ran yn y Treial. Methiant arweinwyr awdurdodau lleol (ALl) i rannu gwybodaeth am y Treial â nhw i osgoi eu gorlethu, am fod pwysau yn sgil pandemig y coronafeirws eisoes yn effeithio ar gapasiti staff, oedd y prif resymau a roddwyd gan leoliadau dros beidio â chymryd rhan..

Bu i'r lleoliadau a oedd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y Treial lenwi Mynegiant o Ddiddordeb (MoDd), a dyfarnwyd y cyllid i bawb a wnaeth gais. Hysbyswyd lleoliadau gan Lywodraeth Cymru eu bod wedi cael eu dewis i dderbyn cyllid ac fe'u cefnogwyd gan Gynghorydd y Treial trwy gydol y broses gynllunio a gweithredu.

Un o'r prif gymhellion i leoliadau gymryd rhan yn y Treial oedd rhoi profiadau a chyfleoedd i ddysgwyr na fyddent fel arall wedi cael mynediad atynt, o ystyried cyd-destun anfantais gymdeithasol ac economaidd y lleoliadau fu'n cymryd rhan. Ymhlith y cymhellion eraill oedd gwella canfyddiadau a phrofiadau plant/pobl ifanc o'r ysgol, ail-ennyn diddordeb dysgwyr yn yr ysgol ac annog presenoldeb, a chreu cyfleoedd i ddysgwyr gymdeithasu â'u cyfoedion.

Bu i bob lleoliad dargedu set benodol o grwpiau blwyddyn, fel arfer blynyddoedd pontio, a chynigiwyd y gweithgareddau i bob plentyn/person ifanc o fewn y grŵp/grwpiau a ddewiswyd. Fodd bynnag, mewn rhai achosion roedd yn heriol gwneud y ddarpariaeth yn gwbl gynhwysol ar gyfer plant/pobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) neu'r rhai mwyaf agored i niwed. Roedd lleoliadau'n defnyddio cymysgedd o staff a darparwyr allanol i gynnal gweithgareddau'r Treial.

Roedd lleoliadau'n gwerthfawrogi'n gryf yr hyblygrwydd a gynigiwyd gan y Treial i gynllunio a chyflwyno gweithgareddau gan ddibynnu ar argaeledd lleol darparwyr/staff, yr adnoddau ar gael a diddordebau ac anghenion penodol dysgwyr. Adlewyrchwyd hyn yn amrywiaeth y gweithgareddau, lleoliadau ac amseru'r gweithgareddau a gynigiwyd.

Cyflwynodd y Treial ystod eang iawn o weithgareddau, gan gynnwys llawer o weithgareddau chwaraeon a chorfforol, gweithgareddau creadigol, gemau, gweithgareddau awyr agored, a theithiau. Roedd y lleoliadau'n rhoi'r cynnig i ddysgwyr ddewis pa weithgareddau roeddent am gymryd rhan ynddynt.

Roedd cofrestru a phresenoldeb ar gyfer y sesiynau cyfoethogi yn gyson uchel. Roedd rhai lleoliadau'n cynnig cymhellion i gymryd rhan i ddechrau (e.e. teithiau sinema) ond sylweddolwyd fel arfer nad oedd angen gwneud hyn gan fod plant a phobl ifanc eisiau cymryd rhan.

Y prif resymau pam y bu'r Treial yn llwyddiannus yn gyffredinol oedd ymgysylltiad staff a pharodrwydd i ddarparu gweithgareddau, yr hyblygrwydd i ddefnyddio cyllid i ddarparu cludiant a bwyd, a gallu rhieni/gofalwyr i gasglu plant ar ôl y gweithgareddau. Y rhwystrau allweddol i leoliadau oedd amserlenni tynn a chynnydd arall yn y coronafeirws, a'r prif rwystrau oedd yn cadw plant/pobl ifanc rhag mynychu oedd diffyg cludiant adref ar ôl y gweithgareddau, neu anallu rhieni i gasglu nifer o blant ar amserau gwahanol.

Mynegodd staff lleoliadau ac arweinwyr lleoliadau'r Treial (h.y. y person fu'n trefnu gweithgareddau Treial mewn lleoliadau) bryderon y byddai darparu gweithgareddau cyfoethogi dros nifer cyfyngedig o wythnosau yn codi disgwyliadau ymhlith plant/pobl ifanc a theuluoedd na fyddent yn cael eu bodloni yn y tymor hir, a allai arwain at siom. Fodd bynnag, o ystyried llwyddiant y gweithgareddau ymhlith dysgwyr, roedd llawer o leoliadau wedi dechrau archwilio cyfleoedd i ymestyn y gweithgareddau y tu hwnt i gyfnod y Treial.

Dywedodd y mwyafrif llethol (91%) o blant a phobl ifanc a gwblhaodd yr arolwg ar ôl y Treial eu bod wedi cael hwyl, a dywedodd 84 y cant fod y Treial wedi eu helpu i gymdeithasu â'u cyfoedion. Dywedodd cyfranogwyr hefyd bod y Treial wedi eu cyflwyno i weithgareddau newydd ac wedi rhoi cyfle iddynt ddatblygu sgiliau newydd.

Roedd rhieni/gofalwyr plant/pobl ifanc a gymerodd ran yn y treial yn bositif iawn am y cyfle i'w plant gymryd rhan. Roedd rhieni'n gwerthfawrogi'r ystod eang o weithgareddau am ddim ac y gallai eu plant ddewis beth roedden nhw eisiau ei wneud. Gwnaethant grybwyll hefyd fod y Treial yn darparu cyfle i'w plant roi cynnig ar weithgareddau na fyddent wedi gallu eu gwneud fel arall, yn bennaf oherwydd rhwystrau ariannol.

Dywedodd dysgwyr, darparwyr a rhieni mai'r prif ddeilliannau i ddysgwyr a gymerodd ran yn y Treial oedd cymdeithasu â chyfoedion a gwell lles, datblygu sgiliau newydd, bod yn weithgar yn gorfforol; a gwelliannau mewn ymddygiad, presenoldeb ysgol a dangos diddordeb yn yr ystafell ddosbarth.

Amlygodd rhieni/gofalwyr (yn enwedig y rhai mewn gwaith) bwysigrwydd cael lle diogel i'w plant fod ar ôl yr ysgol, lle'r oedd modd iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau adeiladol. Pwysleisiodd rhieni/gofalwyr hefyd bwysigrwydd y ffaith bod y gweithgareddau am ddim ar y pwynt y cawsant eu cynnig.

Argymhellion allweddol o'r gwerthusiad

Parhau i ddarparu'r gweithgareddau cyfoethogi ychwanegol yn y tymor hir. Hoffai plant a phobl ifanc weld y gweithgareddau'n cael eu cynnig ar sail tymor hir a chael eu hymestyn i grwpiau blwyddyn eraill yn eu lleoliadau.

Amser paratoi hirach ar gyfer cynllunio a sefydlu i alluogi mwy o leoliadau i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi ychwanegol. Byddai mwy o amser rhwng cyhoeddi cyllid a lansio'r rhaglen yn cefnogi cynllunio effeithiol. Byddai mwy o amser i ddylunio a chynllunio'r ddarpariaeth yn rhoi rhagor o gyfleoedd i gyd-gynhyrchu'r rhaglen gyda dysgwyr.

Parhau i gynnig hyblygrwydd o ran dylunio a darparu. Dylai'r gefnogaeth a ddarperir gan Gynghorydd y Treial barhau i gael ei chynnig mewn rhaglenni yn y dyfodol. Roedd lleoliadau'n gwerthfawrogi'r hyblygrwydd i ddarparu cludiant, bwyd, ac i brynu cyfarpar.

Cryfhau'r gefnogaeth i leoliadau. Byddai cyflwyno rhaglenni tebyg yn y dyfodol yn elwa o ddod ag adnodd ychwanegol i mewn i reoli'r prosesau caffael a chydlynu.

Gwella cyrhaeddiad a chynwysoldeb. Gallai cyd-gynhyrchu'r rhaglen gyda phlant/pobl ifanc gynyddu eu cyfranogiad a'u hymgysylltiad, gan y byddai'n amlygu rhai o'r rhwystrau i bresenoldeb yn y cam cynllunio, a chynnig cyfle i'w goresgyn.

Ystyriaethau o ran data

Casglwyd y rhan fwyaf o'r data rhwng Mai a Gorffennaf 2022, ar ôl diwedd y Treial. Fe wnaeth yr oedi leihau gallu'r tîm ymchwil i gyrraedd cyfranogwyr ymchwil a chynyddu'r siawns o anghywirdeb wrth gofio.

Dyluniwyd a gweinyddwyd yr arolwg gwaelodlin plant/pobl ifanc cyn i Ecorys gael ei benodi fel y sefydliad gwerthuso. Felly, dim ond nifer bach o gwestiynau oedd yn caniatáu cymharu cyn ac ar ôl rhwng arolygon gwaelodlin ac ar ôl y Treial.

Cynhaliwyd llai o gyfweliadau â staff lleoliadau/darparwyr a rhieni/gofalwyr na'r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol. Roedd hyn yn rhannol oherwydd oedi cyn cysylltu â'r lleoliadau, ac yn rhannol oherwydd y cais gan Lywodraeth Cymru i gyfranogwyr ymchwil roi eu manylion cyswllt mewn ffurflen ddiogel er mwyn sicrhau sampl mwy diduedd. Dewiswyd rhai cyfranogwyr ymchwil gan arweinwyr lleoliadau. Roedd y sampl o rieni y cyfwelwyd â hwy yn fach (5) ac mae'n debygol y bydd gogwydd hunan-ddethol.

Oherwydd amserlen y rhaglen, nid oedd yn bosibl casglu gwybodaeth am nodweddion cydraddoldeb y dysgwyr fu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau yn y Treial. Tra bod pob lleoliad dysgu a gyfrannodd mewn ardal o dan anfantais cymdeithasol ac economaidd, nid oedd yn bosibl adrodd ar wahaniaethau mewn cyfraddau cymryd rhan neu fuddiannau canfyddedig rhwng dysgwyr llai a mwy breintiedig.

Cysylltwyd â phob ALl nad oedd yn cymryd rhan am gyfweliad, ac roedd y 6 chyfweliad a gwblhawyd gyda'r rhai a gytunodd i gymryd rhan, felly mae'n debygol y bydd gogwydd hunan-ddethol. Ni chyfwelwyd â lleoliadau na fu iddynt gymryd rhan oherwydd yr amserlen gyfyngedig a'r her wrth ddod o hyd i fanylion cyswllt.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Ecorys, Bertolotto, E., Browett, T., Freitas, G., Goddard, C., Griggs J., Manuch M., McKenna, K. (2022)

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Y Gangen Ymchwil Ysgolion
Ebost: ymchwilysgolion@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 3/2023
ISBN digidol 978-1-80535-258-7

Image
GSR logo